Robinson Crusoe: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
ehangu |
delwedd |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd:Robinson Crusoe 1719 1st edition.jpg|bawd|290px|Tudalen deitl argraffiad cyntaf ''Robinson Crusoe'']] |
[[Delwedd:Robinson Crusoe 1719 1st edition.jpg|bawd|290px|Tudalen deitl argraffiad cyntaf ''Robinson Crusoe'']] |
||
[[Delwedd:CLASSICS ILLUSTRATED -10- ROBINSON CRUSOE.jpg|bawd|290px|Clawr fersiwn [[comic]] 3 Tachwedd 1948.]] |
|||
Nofel Saesneg o waith [[Daniel Defoe]] yw '''''Robinson Crusoe''''' am gymeriad o'r un enw a'i longddrylliad ar ynys unig. Cyhoeddwyd yr argraffiad cyntaf yn Ebrill [[1719]], ac ystyrir gan rai mai hon oedd y [[nofel]] gyntaf yn Saesneg. Ffurf y llyfr yw hunangofiant y prif gymeriad, Robinson Crusoe, oedd wedi treulio 28 mlynedd ar ynys fechan yn y trofannau yn dilyn llongddrylliad. Roedd cyhoeddi'r gyfrol gyntaf yn llwyddiant masnachol ysgubol ac oherwydd y gwerthiant, cyhoeddwyd dair gwaith drachefn o fewn y flwyddyn gyntaf. |

Fersiwn yn ôl 09:54, 20 Mawrth 2016
Nofel Saesneg o waith Daniel Defoe yw Robinson Crusoe am gymeriad o'r un enw a'i longddrylliad ar ynys unig. Cyhoeddwyd yr argraffiad cyntaf yn Ebrill 1719, ac ystyrir gan rai mai hon oedd y nofel gyntaf yn Saesneg. Ffurf y llyfr yw hunangofiant y prif gymeriad, Robinson Crusoe, oedd wedi treulio 28 mlynedd ar ynys fechan yn y trofannau yn dilyn llongddrylliad. Roedd cyhoeddi'r gyfrol gyntaf yn llwyddiant masnachol ysgubol ac oherwydd y gwerthiant, cyhoeddwyd dair gwaith drachefn o fewn y flwyddyn gyntaf.
Credir i Defoe gael ei ddylanwadu gan hanes Alexander Selkirk, a dreuliodd bedair blynedd ar ynys Más a Tierra, Chile. Efallai fod yr ynys y llongddrylliwyd Crusoe arni yn y nofel wedi ei seilio ar ynys Tobago. Dylanwad arall posibl oedd cyfrieithiad i'r Lladin neu Saesneg o waith Abubacer, Philosophus Autodidactas, oedd hefyd yn defnyddio ynys debyg fel cefndir. Yn ôl y llenor Gwyddelig James Joyce, roedd y nofel yn llawn propaganda o blaid ymlediad yr Ymerodraeth Brydeinig ledled y byd.[1]
Cyfieithiadau
Cyfeithiwyd y nofel i lawer o ieithoedd, yn cynnwys Cymraeg:
- Bywyd hynod a gweithredoedd rhyfeddol y dewr a'r gwrol Robinson Crusoe: Yr hwn a fu byw wyth mlynedd ar hugain mewn ynys anghyfannedd, yr hon wedi hynny a boblwyd ganddo ef. Cyfieithiad o addasiad Saesneg diweddarach sy'n gyfuniad o ddwy gyfrol gyntaf Defoe, ym 1795 gan J. Tye o Wrecsam. Ail-gyhoeddwyd cyfrolau eraill Cymraeg gan argraffwyr drwy'r 19eg ganrif a rhywfaint yn yr 20fed ganrif.
- Bywyd ac anturiaethau rhyfeddol Robinson Crusoe: yr hwn a fyw byw wyth mlynedd ar hugain mewn ynys anghyfanedd.... gan H. Humphreys, Caernarfon.
Cyfeiriadau
- ↑ cyfieithiadau.wordpress.com gan Dewi Huw Owen; adalwyd 20 Mawrth 2016