Y Môr Canoldir: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Yn gosod File:Mediterranean_Sea_16.61811E_38.99124N.jpg yn lle Mediterranian_Sea_16.61811E_38.99124N.jpg (gan CommonsDelinker achos: File renamed: Correct Mediterranean). |
Collnod Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd:Mediterranean Relief.jpg|300px|bawd|Y Môr Canoldir]] |
[[Delwedd:Mediterranean Relief.jpg|300px|bawd|Y Môr Canoldir]] |
||
[[Delwedd:Mediterranean Sea 16.61811E 38.99124N.jpg|300px|bawd|Llun lloeren cyfansawdd o'r '''Môr Canoldir''']] |
[[Delwedd:Mediterranean Sea 16.61811E 38.99124N.jpg|300px|bawd|Llun lloeren cyfansawdd o'r '''Môr Canoldir''']] |
||
Môr rhwng [[Ewrop]], [[Asia]] ac [[Affrica]] yw'r '''Môr Canoldir''' (2.5 miliwn km²). Cafodd ei enw o'r [[Lladin]] ''mediterraneus'' (''medius'', 'canol' + ''terra'', 'tir'), ond roedd y [[Rhufeiniaid]] yn ei alw |
Môr rhwng [[Ewrop]], [[Asia]] ac [[Affrica]] yw'r '''Môr Canoldir''' (2.5 miliwn km²). Cafodd ei enw o'r [[Lladin]] ''mediterraneus'' (''medius'', 'canol' + ''terra'', 'tir'), ond roedd y [[Rhufeiniaid]] yn ei alw'n ''Mare Nostrum'', sef 'ein môr ni'. |
||
== Daearyddiaeth == |
== Daearyddiaeth == |
Fersiwn yn ôl 13:03, 14 Mawrth 2016
Môr rhwng Ewrop, Asia ac Affrica yw'r Môr Canoldir (2.5 miliwn km²). Cafodd ei enw o'r Lladin mediterraneus (medius, 'canol' + terra, 'tir'), ond roedd y Rhufeiniaid yn ei alw'n Mare Nostrum, sef 'ein môr ni'.
Daearyddiaeth
Mae Culfor Gibraltar yn cysylltu'r Môr Canoldir â'r Môr Iwerydd yn y gorllewin ac mae Môr Marmara, y Dardanelles a'r Bosphorus yn ei gysylltu â'r Môr Du yn y dwyrain. Mae Môr Marmara yn ran o'r Môr Canoldir ym marn rhai pobl. Yn y de-ddwyrain mae Camlas Suez yn cysylltu'r Môr Canoldir a'r Môr Coch. Ceir nifer sylweddol o ynysoedd yn y Môr Canoldir (gweler isod), yn arbennig yn y gogledd-ddwyrain rhwng Asia Leiaf a Gwlad Groeg.
Hinsawdd
Mae hinsawdd arbennig o amgylch y Môr Canoldir, a nodweddir gan aeafau byr a chymhedrol ar y cyfan a hafau poeth, er ei bod yn amrywio o wlad i wlad o gwmpas y môr.
Ynysoedd
Mae ynysoedd mawr y Môr Canoldir yn cynnwys:
- Cyprus, Creta a Rhodes yn y dwyrain.
- Sardinia, Corsica, Sisili, Malta a Djerba yn y canolbarth.
- Ibiza, Majorca a Menorca (yr Ynysoedd Balearig) yn y gorllewin.
Yn y Môr Aegeaidd ceir nifer mawr o ynysoedd llai a'r rhan fwyaf yn perthyn i Wlad Groeg.
Gwledydd
Y gwledydd sydd ar lannau y Môr Canoldir yw:
- Ewrop (o'r gorllewin i'r dwyrain): Sbaen, Ffrainc, Monaco, yr Eidal, Slofenia, Croatia, Bosnia a Hertsegofina, Montenegro, Albania, Gwlad Groeg a Thwrci
- Asia (o'r gogledd i'r de): Twrci, Syria, Libanus, Israel a Phalesteina
- Affrica (o'r dwyrain i'r gorllewin): yr Aifft, Libia, Tiwnisia, Algeria a Moroco
- Ynysoedd sydd yn wledydd yw Cyprus a Malta. Lleolir Gweriniaeth Dwrcaidd Gogledd Cyprus yng ngogledd ynys Cyprus, ond dim ond Twrci sy'n cydnabod hon yn wlad.
|