Gareth Bale: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
Dyfrig (sgwrs | cyfraniadau) |
||
Llinell 28: | Llinell 28: | ||
==Gyrfa Clwb== |
==Gyrfa Clwb== |
||
===Southampton=== |
===Southampton=== |
||
Dechreuodd Bale ei yrfa broffesiynol gyda [[Southampton F.C.|Southampton]] fel cefnwr chwith ac ar 17 Ebrill 2006, daeth |
Dechreuodd Bale ei yrfa broffesiynol gyda [[Southampton F.C.|Southampton]] fel cefnwr chwith ac ar 17 Ebrill 2006, daeth yr ail ieuengaf erioed i chwarae dros y clwb wrth wneud ei ymddangosiad cyntaf yn erbyn [[Millwall F.C.|Millwall]] pan yn 16 mlwydd a 275 diwrnod oed. Ar 6 Awst sgoriodd Bale ei gôl gynghrair gyntaf i'r clwb yn erbyn [[Derby County F.C.|Derby County]]<ref>{{cite web | title=Derby 2 Southampton 2| publisher= BBC Sport | url= http://news.bbc.co.uk/sport1/hi/football/eng_div_1/5226770.stm |date=2006-08-06}}</ref> |
||
===Tottenham Hotspur=== |
===Tottenham Hotspur=== |
Fersiwn yn ôl 21:10, 9 Mawrth 2016
Gareth Bale yn arwyddo i Real Madrid yn 2014 | |||
Gwybodaeth Bersonol | |||
---|---|---|---|
Enw llawn | Gareth Frank Bale | ||
Dyddiad geni | 16 Gorffennaf 1989 | ||
Man geni | Caerdydd, Cymru | ||
Taldra | 1.83m [1] | ||
Safle | Canol Cae | ||
Y Clwb | |||
Clwb presennol | Real Madrid | ||
Rhif | 11 | ||
Gyrfa Ieuenctid | |||
2005–2006 | Southampton | ||
Gyrfa Lawn* | |||
Blwyddyn | Tîm | Ymdd† | (Gôl)† |
2006–2007 | Southampton | 40 | (5) |
2007-2013 | Tottenham Hotspur | 146 | (32) |
2013– | Real Madrid | 74 | (42) |
Tîm Cenedlaethol‡ | |||
2005–2006 | Cymru dan 17 | 7 | (1) |
2006 | Cymru dan 19 | 1 | (1) |
2006–2008 | Cymru dan 21 | 4 | (2) |
2006 – | Cymru | 54 | (19) |
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 5 Mawrth 2016. † Ymddangosiadau (Goliau). |
Pêl-droediwr Cymreig yw Gareth Frank Bale (ganwyd 16 Gorffennaf 1989) sy'n chwarae i Real Madrid yn La Liga ac i dîm cenedlaethol Cymru.
Gyrfa Clwb
Southampton
Dechreuodd Bale ei yrfa broffesiynol gyda Southampton fel cefnwr chwith ac ar 17 Ebrill 2006, daeth yr ail ieuengaf erioed i chwarae dros y clwb wrth wneud ei ymddangosiad cyntaf yn erbyn Millwall pan yn 16 mlwydd a 275 diwrnod oed. Ar 6 Awst sgoriodd Bale ei gôl gynghrair gyntaf i'r clwb yn erbyn Derby County[2]
Tottenham Hotspur
Symudodd i Tottenham Hotspur yn 2007 am ffi o £7 miliwn. Yn ystod ei gyfnod gyda Spurs, cafodd ei ddefnyddio'n fwy fwy fel chwaraewr ymosodol gan symud i chwarae yng nghanol cae. Cafodd ei urddo'n Chwaraewr y Flwyddyn gan y PFA yn 2011 ac yn 2013 enillodd Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn y PFA, Chwaraewr y Flwyddyn y PFA a Chwaraewr y Flwyddyn yr FWA. Cafodd ei gynnwys yn Nhîm y Flwyddyn Uefa yn 2011 a 2013.
Real Madrid
Ar 1 Medi 2013, ymunodd â Real Madrid yn Sbaen am ffi na chafodd ei ddatgelu. Yn ôl adroddiadau yn y wasg yn Sbaen ac ar orsaf deledu Real Madrid TV, roedd y ffi yn £77 miliwn (€91 miliwn), tra bo'r wasg ar Ynysoedd Prydain yn awgrymu fod y ffi yn record byd o £85.3 million (€100 miliwn).[3].
Ar 16 Ebrill, sgoriodd Bale y gôl fuddugol wrth i Real Madrid drechu Barcelona yn rownd derfynol y Copa del Rey yn erbyn Barcelona.[4] Hon oedd 20fed gôl y tymor i Bale, a'r gyntaf mewn gornest El Clásico.[5]
Ar 24 Mai 2014, sgoriodd Bale ei ail gôl yn erbyn Atlético Madrid yn rownd derfynnol Cynghrair y Pencampwyr UEFA yn y 110fed munud o amser ychwanegol - ef yw'r Cymro cyntaf i sgorio yn rownd derfynnol Cynghrair y Pencampwyr UEFA. Gorffennodd ei dymor cyntaf gyda Real Madrid gyda 22 gôl a 16 cynorthwy ym mhob cystadleuaeth.[6]
Gyrfa Rhyngwladol
Gwnaeth Bale ei ymddangosiad cyntaf i Gymru mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Trinidad a Tobago ar 27 Mai 2006[7] gan ddod y chwaraewr ieuengaf erioed i chwarae dros Gymru hyd nes i Harry Wilson dorri'r record ym mis Tachwedd 2012.[8]. Roedd Bale yn 16 mlwydd a 315 diwrnod.
Ar 12 Mehefin 2015, sgoriodd Bale unig gôl y gêm ar achlysur ei 50fed cap wrth i Gymru drechu Gwlad Belg yn Stadiwm Dinas Caerdydd[9]
Gwobrau
Yn 2006, casglodd Bale Wobr Carwyn James BBC Cymru ar gyfer athletwyr ifanc[10]. Enillodd prif Wobr Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru yn Rhagfyr 2010[11] ac mae wedi ei enwi'n Chwaraewr y Flwyddyn gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru yn 2010, 2011, 2013, 2014 a 2015.[12][13]
Bywyd Personol
Mae Bale yn llwyrymwrthodwr[14]
Cyfeiriadau
- ↑ "Real Madrid C.F. – Official Web Site – Gareth Bale". Realmadrid.com. 1989-07-16.
- ↑ "Derby 2 Southampton 2". BBC Sport. 2006-08-06.
- ↑ Gwefan Golwg360
- ↑ Jurejko, Jonathan (16 April 2014). "Gareth Bale helps Real Madrid beat Barcelona in Copa del Rey". BBC Sport. Cyrchwyd 17 April 2014.
- ↑ "Gareth Bale: Copa del Rey winner incredible, says Xabi Alonso". BBC. 16 April 2014.
- ↑ "Player profile - Gareth Bale". ESPN. Adalwyd 26 Mai 2014
- ↑ "Bale savours record Wales debut". BBC Sport. 2006-05-28.
- ↑ "Injured Bale out for three months". BBC Sport. 2007-12-10.
- ↑ "Bale: cefnogwyr Cymru yw'r gorau yn y byd". 2015-06-13. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Calzaghe scoops BBC Wales honour". 2006-12-03. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "BBC Sport Wales". bbc.co.uk. 2010-12-06.
- ↑ "Sgorio". s4c.co.uk. 2013-10-08.
- ↑ "Gareth Bale Welsh player of the Year 2014". 2014-10-07. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Gareth Bale: Home is where the heart is for £85m star". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 20 Mehefin 2015.