Edward IV, brenin Lloegr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu
Ham II (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:Edward4.jpg|bawd|200px|Brenin Edward IV]]
[[Delwedd:King Edward IV.jpg|bawd|Y brenin Edward IV]]
'''Edward IV''' ([[28 Ebrill]], [[1442]] - [[9 Ebrill]], [[1483]]) oedd brenin [[Lloegr]] o [[3 Mawrth]] [[1461]] i [[30 Hydref]], [[1470]], ac o [[4 Mai]] [[1471]] hyd ei farwolaeth.
'''Edward IV''' ([[28 Ebrill]] [[1442]] [[9 Ebrill]] [[1483]]) oedd brenin [[Lloegr]] o [[3 Mawrth]] [[1461]] i [[30 Hydref]] [[1470]], ac o [[4 Mai]] [[1471]] hyd ei farwolaeth.


Roedd yn fab i [[Rhisiart Plantagenet, Dug Efrog]]. Cafodd ei eni yn [[Rouen]], [[Ffrainc]]. Ei wraig oedd [[Elizabeth Woodville]].
Roedd yn fab i [[Rhisiart Plantagenet, Dug Efrog]]. Cafodd ei eni yn [[Rouen]], [[Ffrainc]]. Ei wraig oedd [[Elizabeth Woodville]].
Llinell 23: Llinell 23:
{{diwedd-bocs}}
{{diwedd-bocs}}


{{Brenhinoedd Lloegr a Phrydain}}
{{Rheoli awdurdod}}
{{Rheoli awdurdod}}


Llinell 29: Llinell 30:
[[Categori:Marwolaethau 1483]]
[[Categori:Marwolaethau 1483]]
[[Categori:Pobl o Rouen]]
[[Categori:Pobl o Rouen]]



{{eginyn Saeson}}
{{eginyn Saeson}}

Fersiwn yn ôl 17:28, 7 Mawrth 2016

Y brenin Edward IV

Edward IV (28 Ebrill 14429 Ebrill 1483) oedd brenin Lloegr o 3 Mawrth 1461 i 30 Hydref 1470, ac o 4 Mai 1471 hyd ei farwolaeth.

Roedd yn fab i Rhisiart Plantagenet, Dug Efrog. Cafodd ei eni yn Rouen, Ffrainc. Ei wraig oedd Elizabeth Woodville.

Yng Nghymru

Pan goronwyd Edward IV yn 1461 llac oedd ei afael ar Gymru. Y de-ddwyrain yn unig oedd yn ddiogel dan awdurdod iarll Warwick a Herbert, a phrin oedd ei ddilynwyr yn y gorllewin a'r gogledd. Yn dilyn brwydr Towton, ym Mawrth 1461, dyrchafwyd Wiliam Herbert i safle uwchben pob unigolyn arall yng Nghymru: yn ustus, siambrlen, stiward a phrif fforestydd siroedd Aberteifi a Chaerfyrddin, gyda'i frawd Rhisiart yn ddirprwy, a chomisiynwyd Wiliam Herbert a'i frawd yng nghyfraith, Walter Devereux, i feddiannu iarllaeth Penfro a'r tiroedd a gysylltid â hi, tiroedd Siasbar Tudur a'i nai Harri Tudur. Yna meddiannodd Herbert diroedd teulu Buckingham yng Nghymru, gan gynnwys Brycheiniog a Gwynllwg. Ffodd Siasbar Tudur, hanner brawd Harri VI, rhagddynt i'r Gogledd, a syrthiodd castell Penfro i ddwylo Herbert. Yno roedd y bachgen pedair oed, Harri Tudur, mab i frawd Siasbar. Cymerwyd ef gan Herbert i Raglan ac yno y magwyd Harri Tudur hyd 1469. Trechwyd Siasbar ym mrwydr Twthill ger Caernarfon, a ffôff am ei fywyd i Iwerddon.

Prin oedd awdurdod Edward IV yn nhair sir y Gogledd, a bu raid i Herbert ddod â byddin anferthol i Wynedd cyn llwyddo i ddarostwng y trigolion. Ildiodd castell Harlech iddo ar 14 Awst, a chanodd Guto'r Glyn gywydd i longyfarch Herbert, gan ofyn ar yr un gwynt iddo ddangos trugaredd tuag at uchelwyr Gwynedd.

Plant

Rhagflaenydd:
Harri VI
Brenin Lloegr
4 Mawrth 146131 Hydref 1470
Olynydd:
Harri VI
Rhagflaenydd:
Harri VI
Brenin Lloegr
11 Ebrill 14719 Ebrill 1483
Olynydd:
Edward V
Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.