Machen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Pobl Nodedig: Y gwr o Gaerllion
dileu acen grom
Llinell 19: Llinell 19:
*Daw'r gwleidydd [[Ron Davies]] o Fachen. Anrhydeddwyd ef, yn aelod o'r [[Gorsedd Beirdd Ynys Prydain|Orsedd]] gyda'r enw barddol "Ron o Fachen". Nodir Ron hefyd fel "pensaer datganoli Cymreig", tra'n Ysgrifennydd Gwladol Dros Cymru yng nghabined Plaid Lafur [[Tony Blair]].
*Daw'r gwleidydd [[Ron Davies]] o Fachen. Anrhydeddwyd ef, yn aelod o'r [[Gorsedd Beirdd Ynys Prydain|Orsedd]] gyda'r enw barddol "Ron o Fachen". Nodir Ron hefyd fel "pensaer datganoli Cymreig", tra'n Ysgrifennydd Gwladol Dros Cymru yng nghabined Plaid Lafur [[Tony Blair]].


*Ian Thomas - cyn gricedwr i [[Clwb Criced Morgannwg|Glwb Criced Morgannwg]]. Fe chwaraeodd dros Forgannwg rhwng 1998 a 2005 gan ennill dwy dlws y Gynghrair Undydd gyda'r sir. Cofir amdano hefyd am iddo sgorio'r can rhediad cyntaf i'w ddarlledu ar deledu yn 2004 (116 heb ei wared yn erbyn Gwlad yr Hâf).
*Ian Thomas - cyn gricedwr i [[Clwb Criced Morgannwg|Glwb Criced Morgannwg]]. Fe chwaraeodd dros Forgannwg rhwng 1998 a 2005 gan ennill dwy dlws y Gynghrair Undydd gyda'r sir. Cofir amdano hefyd am iddo sgorio'r can rhediad cyntaf i'w ddarlledu ar deledu yn 2004 (116 heb ei wared yn erbyn Gwlad yr Haf).


*[[Arthur Machen]] (Arthur Jones) (1863 - 1947), ffiwgr cwlt o'r 1920au a gyhoeddodd nifer o storiau iasoer am y byd goruwch naturiol gan gynnwys ''The Bowmen''.
*[[Arthur Machen]] (Arthur Jones) (1863 - 1947), ffiwgr cwlt o'r 1920au a gyhoeddodd nifer o storiau iasoer am y byd goruwch naturiol gan gynnwys ''The Bowmen''.

Fersiwn yn ôl 19:55, 29 Chwefror 2016

Hen domenni gwastraff uwchben Machen.

Mae Machen (Cyfeirnod OS: ST 226 887) yn bentref eitha mawr, wedi'i leoli tair milltir i'r dwyrain o Gaerffili ar ffordd yr A468 ym Mwrdeistref Sirol Caerffili yn ne Cymru. Mae Bedwas a Threthomas gerllaw, sydd ynghyd â Machen yn llunio ward cyngor. Ceir Castell Machen, un o gestyll y tywysogion Cymreig, ger y pentref.

Saif y pentref wrth droed Mynydd Machen. Mae'n bosibl cerdded i fyny ac ar hyd y mynydd, lle mae nifer o feini a enwir mewn chwedlau lleol. Creodd Dennis Spargo, trigolyn o Fachen, ffilm o'r enw Machen: Then & Now, sef hanes y pentref yn 2005, ynghyd â'i deulu a'i ffrindiau.

Hanes Diwydianol

Roedd pentref Machen yn wereiddiedig yn niwydianau glo a haearn yn deillio o'r 17eg ganrif. Er does dim llawer o ôl y diwydianau ar ôl yn gyfredol, roedd y pentref yn leoliad i Efail Machen a sawl pwll glo. Mae yna lwybr hanesyddol leol sy'n ymweld a rhai o'r manau yma. Roedd Efail Machen wedi mabwysiadu dull Osmond o gynhyrchu haearn gyr yn gynnar yn ei hanes. Roedd un o orsafoedd rheilffordd Brycheiniog a Merthyr ac hefyd yn gangen i Gaerffili ar rheilffordd Pontypridd, Caerffili a Chasnewydd, a gaewyd i deithwyr ym 1956. Heddiw mae yna gangen weddilliol o RB&M yn agored i wasanaethu chwarel Hanson Aggregates ym Machen.

Chwaraeon

Mae gan Machen dîm rygbi lleol. Maent yn chwarae yn Adran Pedwar y Dwyrain URC ac mae'r tîm yn gwisgo crysau glas gydag ochrau du, trowsus byr du a hosannau du. Maent yn chwarae eu gemau cartref ar Faes Lles Machen.

Addysg

Mae yna ysgol cynradd ym Machen or enw Ysgol Gynradd Machen. Mae'r ysgol yn darparu ei addysg trwy gyfrwng y Saesneg. Mae yna hefyd ysgol Gristnogol annibynnol ym Machen o'r enw 'Wycliff Independent Christian School', sydd yn darparu addysg trwy gyfrwng y Saesneg a thrwy weledigaeth Gristnogol unigryw.

Pobl Nodedig

  • Daw'r gwleidydd Ron Davies o Fachen. Anrhydeddwyd ef, yn aelod o'r Orsedd gyda'r enw barddol "Ron o Fachen". Nodir Ron hefyd fel "pensaer datganoli Cymreig", tra'n Ysgrifennydd Gwladol Dros Cymru yng nghabined Plaid Lafur Tony Blair.
  • Ian Thomas - cyn gricedwr i Glwb Criced Morgannwg. Fe chwaraeodd dros Forgannwg rhwng 1998 a 2005 gan ennill dwy dlws y Gynghrair Undydd gyda'r sir. Cofir amdano hefyd am iddo sgorio'r can rhediad cyntaf i'w ddarlledu ar deledu yn 2004 (116 heb ei wared yn erbyn Gwlad yr Haf).
  • Arthur Machen (Arthur Jones) (1863 - 1947), ffiwgr cwlt o'r 1920au a gyhoeddodd nifer o storiau iasoer am y byd goruwch naturiol gan gynnwys The Bowmen.