Buwch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
enw torfol
tofol
Llinell 17: Llinell 17:
[[File:Mr Lewis' bull NLW3362492.jpg|bawd|Tarw tua 1885; rhywle ym Mhowys o bosibl.]]
[[File:Mr Lewis' bull NLW3362492.jpg|bawd|Tarw tua 1885; rhywle ym Mhowys o bosibl.]]


Anifail [[dof]] yw '''buwch''' (lluosog '''buchod'''). Maent yn cael eu magu am eu [[llefrith]] a'u [[cig]]. '''Tarw''' yw enw'r gwryw, a '''llo''' yw'r epil. Gelwir anifail gwryw sydd wedi ei [[ysbaddu]] yn '''fustach'''. Mae'r enw lluosog '''gwartheg''' yn cwmpasu'r cwbl, yn wryw, benyw ac epil.
Anifail [[dof]] yw '''buwch''' (lluosog '''buchod'''). Maent yn cael eu magu am eu [[llefrith]] a'u [[cig]]. '''Tarw''' yw enw'r gwryw, a '''llo''' yw'r epil. Gelwir anifail gwryw sydd wedi ei [[ysbaddu]] yn '''fustach'''. Mae'r enw lluosog '''gwartheg''' yn cwmpasu'r cwbl, yn wryw, benyw ac epil a'r term am dorf ydy 'buches o wartheg'.


== Ych ==
== Ych ==

Fersiwn yn ôl 17:46, 29 Chwefror 2016

Gwartheg
Delwedd:Buwch.jpg
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Artiodactyla
Teulu: Bovidae
Is-deulu: Bovinae
Genws: Bos
Rhywogaeth: B. taurus
Enw deuenwol
Bos taurus
Linnaeus, 1758
Tarw tua 1885; rhywle ym Mhowys o bosibl.

Anifail dof yw buwch (lluosog buchod). Maent yn cael eu magu am eu llefrith a'u cig. Tarw yw enw'r gwryw, a llo yw'r epil. Gelwir anifail gwryw sydd wedi ei ysbaddu yn fustach. Mae'r enw lluosog gwartheg yn cwmpasu'r cwbl, yn wryw, benyw ac epil a'r term am dorf ydy 'buches o wartheg'.

Ych

Arferai gwartheg (gwrywaidd gan amlaf) dynnu cerbydau neu erydr ar ffermydd, er bod yr arfer hwn bellach wedi dod i ben yng Nghymru a gwledydd datblygedig eraill yn sgil dyfodiad y tractor. Gelwir bustach sydd wedi ei fagu at waith tynnu yn ych. Fe ddefnyddir ychen i aredig, i dynnu trol, cert, coed neu lwyth arall ac i weithio pwmp dŵr i ddyfrhau. Yr enw torfol yw 'gyrr o wartheg'.

Gan amlaf defnyddir dau ych i weithio ar y cyd a rhoddid iau ar eu gwarrau fel bod y gwaith tynnu yn cael ei rannu ar draws eu hysgwyddau. Dewisir ychen â chyrn ganddynt at y gwaith fel bod modd defnyddio’r cyrn i gadw’r iau yn ei le pan fydd yr ychen yn arafu, yn cerdded am yn ôl neu yn gostwng eu pennau.

Map o'r ymadroddiadon a ddefnyddir i ddisgrifio ysfa buwch i genhedlu.

Cymru

Gofyn tarw ac ymadroddion eraill

Drwy Ogledd Cymru, hyd at Machynlleth, a ffin afon Dyfi, 'gofyn tarw' yw'r ymadrodd mwyaf cyffredin a cheir ymadrodd ddigon tebyg ym Morgannwg: 'mofyn tarw'. Yng Ngheredigion dywedir fod y fuwch yn 'wasod'.[1] Sonia Cyfraith Hywel Dda (14eg ganrif) am "weithred tarw gra geisso gwartheg gwasawt o galan Mei hyd galan gaeaf." Mae dwy ardal ar wahân yn defnyddio'r un term, 'eisiau tarw', sef yr hen Sir Fflint a chanol Powys.

Ym Morgannwg hefyd arferid defnyddio: 'yn erlid' ac 'yn ysu'.[2]

Ar Ynys Môn, ar whân i'r arfordir dwyreiniol, defnyddir: 'tryfenydd', 'tyrfenydd' neu 'derefnydd' am fuwch yn ei gwres. Cofnodir hyn gyntaf yn Llyfr Iorwerth yn y 13eg ganrif: "Ny deleyr dale y teyru o hanner haf hyt Aust nac ar yt nac ar wellt, canys en er amser hunnu y byd teruenyd e guarthec prouadwy..." Dywedir ‘Mae’r terfenydd arni’ a defnyddir y termau hyn mewn mannau yn Arfon.

Cyfeiriadau

  1. Daw'r term yma o 'gosod', mae'n debyg hy gosodir y tarw ar gefn y fuwch sydd mewn gwres.Geiriadur Prifysgol Cymru; adalwyd Medi 2015
  2. Fferm a Thyddyn; golygydd Twm Elias; Rhif 54, 2014.

Gweler hefyd

Chwiliwch am buwch
yn Wiciadur.