John Lloyd-Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Cyfeiriadau: 4 gweithred, replaced: {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}} using AWB
BDim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Ysgolhaig a bardd oedd '''John Lloyd-Jones''' (1885 - 1956), a gofir am ei waith fel geiriadurwr hanesyddol ac awdurdod ar enwau lleoedd gogledd-orllewin [[Cymru]].
Ysgolhaig a bardd oedd '''John Lloyd-Jones''' ([[14 Hydref]] [[1885]] – [[1 Chwefror]] [[1956]]), a gofir am ei waith fel geiriadurwr hanesyddol ac awdurdod ar enwau lleoedd gogledd-orllewin [[Cymru]].


==Bywgraffiad==
==Bywgraffiad==

Fersiwn yn ôl 16:28, 4 Chwefror 2016

Ysgolhaig a bardd oedd John Lloyd-Jones (14 Hydref 18851 Chwefror 1956), a gofir am ei waith fel geiriadurwr hanesyddol ac awdurdod ar enwau lleoedd gogledd-orllewin Cymru.

Bywgraffiad

Ganed John Lloyd-Jones ym mhentref Dolwyddelan yn Nyffryn Lledr, Sir Gaernarfon (Sir Conwy heddiw). Cafodd ei addysg brifysgol yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, lle bu'n un o ddisgyblion John Morris-Jones, a Rhydychen. Treuliodd y rhan fwyaf o'i yrfa goleg fel darlithydd mewn Cymraeg a'r Ieithoedd Celtaidd yng Ngholeg y Brifysgol, Dulyn, lle denodd llu o fyfyrwyr disglair yn cynnwys T. J. Morgan, Bobi Jones a J. E. Caerwyn-Williams.

Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhydaman 1922 am ei awdl 'Awdl y Gaeaf'. Ond fel awdur dau lyfr awdurdodol fe'i cofir yn bennaf, sef Enwau Lleoedd Sir Gaernarfon (1928) a Geirfa Barddoniaeth Gynnar Gymraeg (1931-65), geiriadur hanesyddol mawr o eirfa cerddi Cymraeg Canol a Hen Gymraeg a adawyd heb ei orffen ar ei farwolaeth yn 1956, wedi cyhoeddi wyth rhan.

Mewn coffâd iddo yn y Times, dywedwyd iddo fod yn "llysgennad answyddogol" dros Gymru ac Iwerddon.[1] Roedd yn arholwr allanol Cymraeg ym Mhrifysgol Cymru rhwng 1916 a 1955 pan ymddeolodd.[2]

Cyfeiriadau

  1. "Prof. J. Lloyd-Jones – Welsh ambassador in Ireland". The Times. 17 February 1956. t. 11.
  2. Parry, Thomas. "Lloyd-Jones, John (1885–1956), scholar and poet". Welsh Biography Online. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyrchwyd 12 Tachwedd 2008.


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.