Thelonious Monk: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B →Dolenni allanol: 4 gweithred, replaced: {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}} using AWB |
Dafyddt (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd:Thelonious Monk, Minton's Playhouse, New York, N.Y., ca. Sept. 1947 (William P. Gottlieb 06191).jpg|bawd|Thelonious Monk yn canu'r piano yn Minton's Playhouse, Dinas Efrog Newydd, ym 1947.]] |

[[Pianydd]] a chyfansoddwr [[jazz]] [[Americanwyr|Americanaidd]] oedd '''Thelonious Sphere Monk''' (10 Hydref 1917 – 17 Chwefror 1982). |
[[Pianydd]] a chyfansoddwr [[jazz]] [[Americanwyr|Americanaidd]] oedd '''Thelonious Sphere Monk''' ([[10 Hydref]] [[1917]] – [[17 Chwefror]] [[1982]]). |
||
Ganwyd yn Rocky Mount, [[Gogledd Carolina]], a symudodd i [[Manhattan]], [[Dinas Efrog Newydd]], yn 4 oed a bu'n byw yno am weddill ei fywyd. Yn y 1930au a'r 1940au canodd biano yn [[Minton's Playhouse]] yn [[Harlem]], ac yno cafodd ddylanwad ar gerddorion a ddatblygodd yr arddull [[bebop]].<ref name=NYT>{{dyf gwe |iaith=en |url=http://www.nytimes.com/learning/general/onthisday/bday/1010.html |teitl=Thelonious Monk, Created Wry Jazz Melodies and New Harmonies |gwaith=[[The New York Times]] |awdur=Wilson, John S. |dyddiad=18 Chwefror 1982 |dyddiadcyrchiad=17 Medi 2014 }}</ref> |

Fersiwn yn ôl 16:21, 3 Chwefror 2016
Pianydd a chyfansoddwr jazz Americanaidd oedd Thelonious Sphere Monk (10 Hydref 1917 – 17 Chwefror 1982).
Ganwyd yn Rocky Mount, Gogledd Carolina, a symudodd i Manhattan, Dinas Efrog Newydd, yn 4 oed a bu'n byw yno am weddill ei fywyd. Yn y 1930au a'r 1940au canodd biano yn Minton's Playhouse yn Harlem, ac yno cafodd ddylanwad ar gerddorion a ddatblygodd yr arddull bebop.[1]
Ym 1951 treuliodd 60 niwrnod mewn carchar am feddu ar gyffuriau, er y mae'n debyg yr oedd yn ddieuog. O ganlyniad collodd ei Gerdyn Cabaret a chafodd effaith drom ar ei yrfa. Ym 1957, gyda chymorth Pannonica de Koenigswarter, ad-enillodd ei gerdyn gan ei alluogi i berfformio yng nghlwb y Five Spot. Yn y 1960au perfformiodd mewn pedwarawd gyda Charlie Rouse mewn clybiau, cyngherddau a gwyliau cerddorol ar draws y byd. Perfformiodd yn llai aml yn y 1970au oherwydd salwch. Bu farw yn 64 oed ar ôl cael strôc.[1]
Cafodd Monk ddylanwad sylweddol ar jazz modern, yn enwedig ar waith George Russell, Randy Weston, a Cecil Taylor. Ym 1997 canfuwyd 4000 o oriau o recordiadau gan Monk a cherddorion jazz eraill megis Charles Mingus a Sonny Rollins.[2]
Cyfeiriadau
- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Wilson, John S. (18 Chwefror 1982). Thelonious Monk, Created Wry Jazz Melodies and New Harmonies. The New York Times. Adalwyd ar 17 Medi 2014.
- ↑ (Saesneg) Thelonious Monk. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 17 Medi 2014.
Dolenni allanol
- (Saesneg) Thelonious Monk ar wefan AllMusic