Gwenlyn Parry: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 47: Llinell 47:
Ysgrifenodd nifer o benodau i'r gyfres ''[[Pobol y Cwm]]'' a rhaglenni eraill ar y teledu yn cynnwys ''[[Fo a Fe]]'' a'r ffilm ''[[Grand Slam]]''<ref>[http://www.bbc.co.uk/cymru/bywyd/safle/pobl/tudalen/gwenlyn_parry.shtml Gwenlyn Parry], BBC Cymru Bywyd; Adalwyd 5 Ionawr 2016</ref>. Fe'i cofir fel dramodwr yn bennaf am ei ddramâu arloesol o'r 1960au hyd y 1980au. Mae'r rhain yn cynnwys ''[[Saer Doliau]]'' (1966) ac ''[[Y Tŵr]]'' (1978). Cryfder y dramâu hyn yw eu cyfuniad o elfen Abswrd, gwrthnaturyddol, a deialog dafodieithol naturiol a chredadwy sy'n creu gwaith arbennig ac unigryw.

Cyfranodd i sgript y ddrama deledu ''Grand Slam'' a'r ffilm o ''[[Un Nos Ola Leuad (ffilm)|Un Nos Ola Leuad]]'' (seiliedig ar y [[Un Nos Ola Leuad|nofel o'r un enw]] gan [[Caradog Prichard]]).
Cyfranodd i sgript y ddrama deledu ''[[Grand Slam]]'' a'r ffilm o ''[[Un Nos Ola Leuad (ffilm)|Un Nos Ola Leuad]]'' (seiliedig ar y [[Un Nos Ola Leuad|nofel o'r un enw]] gan [[Caradog Prichard]]).

==Bywyd personol==
==Bywyd personol==

Fersiwn yn ôl 14:49, 25 Ionawr 2016

Gwenlyn Parry
GalwedigaethDramodydd
Plant2

Dramodydd Cymraeg sy'n adnabyddus am ei dramâu arloesol sy'n perthyn i genre Theatr yr Abswrd oedd Gwenlyn Parry (8 Mehefin 1932 - 5 Tachwedd 1991).[1]

Bywgraffiad

Ganwyd William Gwenlyn Parry ym mhentref Deiniolen (neu Llanbabo), Gwynedd. Roedd ei dad, William John Parry, yn chwarelwr yn y chwarel lechi cyfagos yn Dinorwig; roedd ei fam Katie Parry (née Griffiths) yn gweithio am sawl blwyddyn fel nyrs yn ysbyty Eryri yn Nghaernarfon. Roedd ganddo un chwaer, Margaret, oedd yn bum mlynedd yn iau.[1]

Cafodd ei addysg yn y Coleg Normal, Bangor. Ar ôl cyfnod yn Llundain lle daeth i adnabod Rhydderch Jones a Ryan Davies a chyfnod fel athro ym Methesda, cafodd swydd fel sgiptiwr gyda BBC Cymru. Ar ôl cyfnod o salwch bu farw yn ardal Caerdydd ar 5 Tachwedd 1991; cafodd ei gladdu ym mynwent Pen-y-groes, Gwynedd.

Ysgrifenodd nifer o benodau i'r gyfres Pobol y Cwm a rhaglenni eraill ar y teledu yn cynnwys Fo a Fe a'r ffilm Grand Slam[2]. Fe'i cofir fel dramodwr yn bennaf am ei ddramâu arloesol o'r 1960au hyd y 1980au. Mae'r rhain yn cynnwys Saer Doliau (1966) ac Y Tŵr (1978). Cryfder y dramâu hyn yw eu cyfuniad o elfen Abswrd, gwrthnaturyddol, a deialog dafodieithol naturiol a chredadwy sy'n creu gwaith arbennig ac unigryw.

Cyfranodd i sgript y ddrama deledu Grand Slam a'r ffilm o Un Nos Ola Leuad (seiliedig ar y nofel o'r un enw gan Caradog Prichard).

Bywyd personol

Roedd yn briod ddwywaith, yn gyntaf i Joy a roedd ganddynt ddau ferch, Sian Elin (ganwyd 1969) a Catrin Lynwen (ganwyd 1971). Yna fe briododd Ann Beynon a cafodd merch a mab o'i ail briodas.

Dramâu

  • Tair Drama (1965)
  • Y Ddraenen Fach (1961)
  • Poen yn y Bol (1963)
  • Hwyr a Bore (1964)

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 Llyfr 'The Writers of Wales' gan Roger Owen; JSTOR; Adalwyd 5 Ionawr 2016
  2. Gwenlyn Parry, BBC Cymru Bywyd; Adalwyd 5 Ionawr 2016

Dolenni allanol