Y plygain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 36: | Llinell 36: | ||
===Caneuon y plygain=== |
===Caneuon y plygain=== |
||
{{prif|Carol plygain}} |
|||
Fel arfer mae'r caneuon Plygain mewn cynghanedd o dri neu bedwar llais, er bod unawdau a deuawdau wedi bodoli eriod. Yn wreiddiol partion o ddynion yn unig oedd yn cymryd rhan ac roedd y cantorion yn dod o'r un teulu. Roedd aelod o'r teulu'n ysgrifennu’r geiriau mewn llyfr ymarfer a ddefnyddiwyd hefyd yn y gwasanaeth gan fod cymaint o benillion! Yn aml roedd yr alwa yn cael ei benthyg oddi wrth gân gwerin poblogaidd. Fel arfer crybwyllir croeshoelio Crist yn y garol blygain. Ymhlith y beirdd enwog am ysgrifennu llawer o garolau plygain mae [[Huw Morus (Eos Ceiriog)]], [[Jonathan Huws]] a [[Walter Davies (Gwallter Mechain)]].<ref>[https://caneuongwerin.wordpress.com/2013/12/22/daeth-nadolig/ Caneuon Gwerin;] adalwyd 30 Tachwedd 2015</ref> Mae brawddegu'n bwysig ac yn aml mae'r cantorion yn dal ar rai geiriau pwysig. Cenir y caneuon i gyd yn ddigyfeiliant. |
Fel arfer mae'r caneuon Plygain mewn cynghanedd o dri neu bedwar llais, er bod unawdau a deuawdau wedi bodoli eriod. Yn wreiddiol partion o ddynion yn unig oedd yn cymryd rhan ac roedd y cantorion yn dod o'r un teulu. Roedd aelod o'r teulu'n ysgrifennu’r geiriau mewn llyfr ymarfer a ddefnyddiwyd hefyd yn y gwasanaeth gan fod cymaint o benillion! Yn aml roedd yr alwa yn cael ei benthyg oddi wrth gân gwerin poblogaidd. Fel arfer crybwyllir croeshoelio Crist yn y garol blygain. Ymhlith y beirdd enwog am ysgrifennu llawer o garolau plygain mae [[Huw Morus (Eos Ceiriog)]], [[Jonathan Huws]] a [[Walter Davies (Gwallter Mechain)]].<ref>[https://caneuongwerin.wordpress.com/2013/12/22/daeth-nadolig/ Caneuon Gwerin;] adalwyd 30 Tachwedd 2015</ref> Mae brawddegu'n bwysig ac yn aml mae'r cantorion yn dal ar rai geiriau pwysig. Cenir y caneuon i gyd yn ddigyfeiliant. |
||
Fersiwn yn ôl 08:14, 23 Ionawr 2016
Gwasanaeth Nadolig traddodiadol wedi'i gynnal yn fore ydy'r plygain. Daw unigolion, deuawdau, grwpiau a theuluoedd ymlaen i du blaen yr eglwys i ganu carolau'r plygain. Rhwng tri a chwech y bore y cynhaliwyd y gwasanaeth fel arfer, er bod yr amseroedd, bellach, yn amrywio'n fawr. Yn draddodiadol, roedd canhwyllau'n rhan bwysig, gyda gorymdaith yn aml o ganol y pentref i'r eglwys.[1] Mae'n dyddio nôl i'r adeg cyn y diwygiad Protestanaidd yn y 16eg ganrif gydag elfennau llawer hŷn na hynny.
Cred rhai y daw'r gair 'plygain' o'r gair Lladin pullicantiō[2], sef 'ar ganiad y ceiliog'; cred eraill mai o'r gair 'plygu' y daw. Fe'i ceir hefyd yn y Llydaweg fel pellgent. Mae sawl amrywiad ar y gair: pylgen, pilgen, plygan, plygen a.y.y.b. Ceir enghraifft o'r gair mewn llawysgrifau Cymraeg mor gynnar a'r 13eg ganrif ('pader na pilgeint na gosber'); y gair Llydaweg am Sion Corn ydy Tad-kozh ar pellgent ("Tad-cu y plygain").
Mewn rhai mannau, arferai'r bobl wneud cyflaith i ddisgwyl yr amser cychwyn. Gwyddom i hyn ddigwydd ym Marford, Sir y Fflint er enghraifft. Roedd yr oriau yma cyn y plygain, felly'n rhai cymdeithasol iawn. Ceir cofnod mai gwneud cyflaith a threulio'r noson yn addurno'r tai â chelyn ac uchelwydd oedd y traddodiad ym Marford, Sir Fflint, yn y 1830au. Ac yn nyddiadur Mrs. Thrale o daith yn 1774 cynheuai pobl Dyffryn Clwyd eu goleuadau am ddau y bore, a chanu a dawnsio i'r delyn tan y plygain.
Canhwyllau
Hyd at y 19eg ganrif, anaml iawn y cynhelid gwasanaethau eglwys yn y nos, gan nad oedd hi'n hawdd goleo'r eglwys; ond roedd y plygain yn eithriad. Er mwyn cael golau, arferai'r trigolion gario eu cannwyll neu lamp i'r eglwys. Daeth hyn yn rhan bwysig o'r ŵyl; yn Nolgellau, er enghraifft, gwysgwyd y canhwyllau â chelyn ac y Llanfyllin cynheuwyd cannoed o ganhwyllau wedi'u gosod fodfeddi ar wahân. Arferid addurno'r canhwyllau hyn, ac yn Llanfyllin, goleuwyd yr adeilad gan gannoedd o ganhwyllau, wedi eu 1leoli fodfeddi er wahân. Yn Nolgellau, gwisgid y canhwyllau â chelyn. Ym Maentwrog, Sir Feirionnydd, yr oedd canhwyllau hefyd "wedi eu gosod mewn tyllau ymhen polion neu byst ysgafn a sicrheid wrth gôr yma ac acw yn yr adeilad." [3]
Yn Llanfair Dyffryn Clwyd ger Rhuthun yn 1774, gwyddom i'r trigolion lleol gynnau cynhwyllau, dawnsio a chanu wrth gerdded i'r plygain. Cafwyd gorymdeithiau i'r eglwys o ganol y dref neu'r pentref, hefyd, yn Ninbych-y-pysgod, Talacharn a Llanfyllin. Cynheuwyd ffaglau a hebryngwyd y rheithor lleol ar flaen yr orymdaith yn aml a'r llanciau'n chythu cyrn.
Dywed J. Lloyd Williams (1854‑1945) am blygain Eglwys Sant Doged yn Llanddoged ger Llanrwst: "Er bod y clochydd yn gofalu am ganhwyllau, byddai rhai o’r cantorion yn mynd â’u canhwyllau eu hunain i’r gwasanaethau, er mwyn cael digon o olau i weld y copïau ysgrifen y canent oddi arnynt; ac i ddal y canhwyllau gofelid am fynd â digon o glai yn lle canwyllbrennau."[4]
Yn ôl Gwynfryn Richards, gellir canfod yn yr arferion hyn o oleuo canhwyllau ar y Nadolig y symbol o ddyfodiad 'Goleuni'r Byd'.
Y Gwasanaeth ei hun
Dyma ddisgrifiad William Payne o blygain Dolgellau tuag 1850[5]
Yn awr y mae'r eglwys yn wenfflam; yn awr o dan ei sang, gorff, ystlysau, oriel; yn awr wele Siôn Robert, y crydd troed-gam, a'i wraig, gan ddod i lawr o'r sedd ganu i ran isaf a blaenaf yr oriel, yn taro bob yn ail y garol hirfaith a'r hen ffefryn yn disgrifio Addoliad y Brenhinoedd a'r Doethion, a'r Ffoad i'r Aifft, ac anfadrwydd ofnadwy Herod. Hollol ddistaw yw'r tyrfaoedd ac wedi ymgolli mewn edmygedd.... A'r gweddiau trosodd, cychwynna'r cantorion eto ragor o garolau, cantorion newydd, hen garolau mewn unawdau, deuawdau, triawdau, cytganau, yna distawrwydd yn y gynulleidfa, wedi ei dorri ar seibiau priodol gan rwystrus furmur yr hyfrydwch a'r gymeradwyaeth, nes rhwng wyth a naw, a newyn yn dweud ar y cantorion, y mae'r Plygain drosodd a thery'r Clych ganiad llawn.
Ym Maentwrog roedd hi'n arferiad i'r rheithor bregethu am gyfnod byr ac yn Llanfair Dyffryn Clwyd, roedd y Cymun Bendigaid yn cael ei weinyddu.
Ychydig iawn o siarad sydd mewn gwasanaeth y plygain, sy'n papa oddeutu dwyawr. Fel arfer ceir oddeutu deudded o bartion yn cymryd eu tro i godi o'r gynulledifa a cherdded i'r sedd fawr, heb neu yn eu galw ymlaen, heb gyflwyniad o gwbwl i'r caneuon - ac yn debyg yn hyn o beth i wasanaeth y Crynnwyr. Wedi ysbaid yn y canol, lle gwneir y casgliadmewn rhai llefyd, ceir ail ran, a deai'r partion ymlaen yn yr un drefn i ganu eu hail ddewis a phob cân yn wahanol, gan ei bod yn egwyddor osgoi ailganu unrhyw garol a'r cwbl yn Gymraeg.
Ar ôl y rownd olaf bydd pawb sydd wedi cymryd rhan yn y gwasanaeth yn dod i flaen yr eglwys i ganu Carol y Swper.
Caneuon y plygain
- Prif: Carol plygain
Fel arfer mae'r caneuon Plygain mewn cynghanedd o dri neu bedwar llais, er bod unawdau a deuawdau wedi bodoli eriod. Yn wreiddiol partion o ddynion yn unig oedd yn cymryd rhan ac roedd y cantorion yn dod o'r un teulu. Roedd aelod o'r teulu'n ysgrifennu’r geiriau mewn llyfr ymarfer a ddefnyddiwyd hefyd yn y gwasanaeth gan fod cymaint o benillion! Yn aml roedd yr alwa yn cael ei benthyg oddi wrth gân gwerin poblogaidd. Fel arfer crybwyllir croeshoelio Crist yn y garol blygain. Ymhlith y beirdd enwog am ysgrifennu llawer o garolau plygain mae Huw Morus (Eos Ceiriog), Jonathan Huws a Walter Davies (Gwallter Mechain).[6] Mae brawddegu'n bwysig ac yn aml mae'r cantorion yn dal ar rai geiriau pwysig. Cenir y caneuon i gyd yn ddigyfeiliant.
- Enghraifft; Daeth Nadolig (ar hen alaw werin Deio Bach)
- Daeth Nadolig fel arferol,
- Daeth fel yn y dyddiau gynt,
- Gyda’i eira, gyda’i oerni,
- Gyda’i rew a’i ruol wynt.
- Yn lle dail i drwsio’r goedwig,
- Gwisgr hi â hugan gwyn,
- Ac mae miwsig pob aderyn
- Wedi darfod yn y glyn.
- Daeth Nadolig fel arferol,
- Mewn tawelwch mae y byd,
- Wrth i ninau gofio’r stori
- Am y baban yn ei grud,
- Cofio am y seren ddisglair,
- Cofio am y preseb tlawd,
- Cofio’r engyl yn cyhoeddi
- Geni Duw mewn gwisg o gnawd.
- Daeth Nadolig fel arferol
- Ac mae miswig ym mhob man,
- Miwsig rhai yn mynd i Blygain,
- Miwsig peraidd glychau’r llan,
- Rhaid i ninnau gyda’r doethion
- A’r bugeiliaid i gael trem
- Ar yr hwn sydd wedi’i eni
- Draw ym mhreseb Bethlehem.
- Gorfoleddwn a moliannwn,
- Ganwyd Ceidwad mawr y byd,
- Cyfaill pechaduriad mawrion
- Ydyw Iesu Grist o hyd,
- Brenin heddwch ydyw’r Iesu
- A thangnefedd ar ei wedd,
- Dyma frenin y brenhinoedd
- Ddysgodd inni gladdu’r cledd.
Canu plygain heddiw
Roedd y traddodiad o ganu carolau yn gryf trwy bob rhan o Ogledd a Chanolbarth Cymru ganrif yn ôl. Heddiw, fodd bynnag, mae'r traddodiad ar ei gryfaf yn ardaloedd Mallwyd, Llanerfyl, Cefnyblodwel a Llangynog.
Yn 2015/6 cafwyd 47 o wasanaethau plygain traddodiadol yn y mannau hyn: Gofal; ychwanegir y dyddiadau heb eu gwiro, er mwyn rhoi syniad o ddyddiadau'r Plygain.
Lleoliad | Noswaith | Dyddiad (amcan) |
Bowydd, Blaenau Ffestiniog | Sul | 29-11-15 |
Llan Ffestiniog | Iau | 03-12-15 |
Llansilin | Gwener | 04-12-15 |
Hirnant | Sul | 06-12-15 |
Llanfyllin | Sul | 06-12-15 |
Llanbedr Pont Steffan | Llun | 07-12-15 |
Y Trallwng | Mawrth | 08-12-15 |
Neuadd Pantycelyn, Aberystwyth | Mawrth | 08-12-15 |
Penygraig, Caerfyrddin | Sul | 13-12-15 |
Y Parc | Mawrth | 15-12-15 |
Morlan, Aberystwyth | Mercher | 16-12-15 |
Penrhyn-coch | Iau | 17-12-15 |
Llanfair Dyffryn Clwyd | Iau | 17-12-15 |
Stryd Tsieina, Llanidloes | Gwener | 18-12-15 |
Penybontfawr | Gwener? | 18-12-15 |
Briw | Sul | 20-12-15 |
Towyn, Ceinewydd | Sul | 20-12-15 |
Penuel, Llangynyw (Pontrobert) | Sul | 20-12-15 |
Pontrobert | Gwener | 25-12-15 |
Llanllyfni | Gwener | 25-12-15 |
Lloc | Gwener | 25-12-15 |
Capel Soar, Nercwys | Gwener | 25-12-15 |
Nantgaredig, Capel MC | Sul | 27-12-15 |
Cefnblodwel | Sul | 27-12-15 |
Llanarmon Dyffryn Ceiriog | Mercher | 30-12-15 |
Llanerfyl | Sul | 03-01-16 |
Llanrhaeadr-ym-Mochnant | Sul | 03-01-16 |
Festri Bethesda, Yr Wyddgrug | Sul | 03-01-16 |
Eglwys Sant Gwyndaf, Llanwnda, Caernarfon | Sul | 03-01-16 |
Pennant Melangell | Mawrth? | 05-01-16 |
Ebeneser, Dinas Mawddwy | Mercher | 06-01-16 |
Abergynolwyn | Iau | 07-01-16 |
Darowen | Gwener | 08-01-16 |
Ceri | Sadwrn | 09-01-16 |
Eglwys Sant Twrog, Llanddarog | Sul | 10-01-16 |
Llanfihangel-yng-Ngwynfa | Sul | 10-01-16 |
Capel Jewin, Llundain | Sul | 10-01-16 |
Blaenannerch | Sul | 10-01-16 |
Gwaelod-y-garth, Caerdydd | Sul | 10-01-16 |
Mallwyd | Mercher | 13-01-16 |
Cadeirlan Bangor, Bangor | Gwener | 15-01-16 |
Llanuwchllyn | Sul | 17-01-16 |
Llanfair, ger Harlech | Mercher | 20-01-16 |
Eglwys Sant Crwst, Llanrwst | Iau | 21-01-16 |
Y Gadeirlan, Llanelwy | Gwener | 29-01-16 |
Llandeilo | Sul | 31-01-16 |
Casgliadau o ganeuon
- Welsh Folk Customs, Trefor M. Owen; 1959, tud. 28-33
- Hen Garolau Cymru, Arfon Gwilym a Sioned Webb (Gol.); Cwmni Cyhoeddi Gwyn, 2006
- Cadw Gŵyl: Llawlyfr i’r Traddodiad Plygain, Bwrdd Cenhadau’r Eglwys yng Nghymru, 2000; Enid R Morgan (Gol.)
- Hen Garolau Cymru, Arfon Gwilym a Sioned Webb (Gol.); Cwmni Cyhoeddi Gwyn, 2006
- Yn Dyrfa Weddus: Carolau Ar Gyfer Y Plygain, Rhiannon Ifans (Gol.); Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 2003
- Hen Garolau, Geraint Vaughan-Jones (Gol.), Y Lolfa, 1987
- Mwy o Garolau Plygain, Geraint Vaughan-Jones (Gol.), Y Lolfa, 1992
Dolenni allanol
Cyfeiriadau
- ↑ Gwefan Amgueddfa Cymru; adalwyd 30 Tachwedd 2015
- ↑ http://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?plygain
- ↑ Gwefan Amgueddfa Cymru; adalwyd 30 Tachwedd 2015
- ↑ [Atgofion Tri Chwarter Canrif, o'r detholiad, Y Flwyddyn yng Nghymru, Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1943. J. Lloyd Williams (1854‑1945)
- ↑ gwefan Sain Ffagan
- ↑ Caneuon Gwerin; adalwyd 30 Tachwedd 2015