Y plygain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
teitlau'r colofnau
B sain Daeth Nadolig...
Llinell 2: Llinell 2:
[[Delwedd:Llanarmon Dyffryn Ceiriog 2015.webm|bawd|300px|Carol y Swper; yn cael ei chanu'n draddodiadol (dynion yn unig) yn [[Llanarmon Dyffryn Ceiriog]]; Rhagyr 2015]]
[[Delwedd:Llanarmon Dyffryn Ceiriog 2015.webm|bawd|300px|Carol y Swper; yn cael ei chanu'n draddodiadol (dynion yn unig) yn [[Llanarmon Dyffryn Ceiriog]]; Rhagyr 2015]]
[[Delwedd:Carol y Swper.webmsd 02.webm|bawd|300px|Carol y Swper; recordiwyd yn [[Llanfair Dyffryn Clwyd]], Sir Ddinbych; 2015.]]
[[Delwedd:Carol y Swper.webmsd 02.webm|bawd|300px|Carol y Swper; recordiwyd yn [[Llanfair Dyffryn Clwyd]], Sir Ddinbych; 2015.]]
[[Delwedd:Deffrown Dewwfrown 2015.webmsd 05.webm|de|bawd|300px|Deffrown Dewwfrown]]
[[Delwedd:Deffrown Dewwfrown 2015.webmsd 05.webm|de|bawd|300px|Deffrown Deffrown]]
[[Delwedd:Gwrandawed Bob Enaid 2.webmhd.webm|de|bawd|300px|Gwrandawed Bob Enaid]]
[[Delwedd:Gwrandawed Bob Enaid 2.webmhd.webm|de|bawd|300px|Gwrandawed Bob Enaid]]
[[Delwedd:Awn i Fethlem 2015.webmsd 06.webm|de|bawd|300px|Awn i Fethlem ]]
[[Delwedd:Awn i Fethlem 2015.webmsd 06.webm|de|bawd|300px|Awn i Fethlem ]]
Llinell 40: Llinell 40:


;Enghraifft; ''Daeth Nadolig'' (ar hen alaw werin ''Deio Bach'')
;Enghraifft; ''Daeth Nadolig'' (ar hen alaw werin ''Deio Bach'')
[[Delwedd:Daeth Nadolig fel Arferol Parti Llanrwst 2016.webmsd.webm|bawd|chwith|Daeth Nadolig fel Arferol]]

:Daeth Nadolig fel arferol,
:Daeth Nadolig fel arferol,
:Daeth fel yn y dyddiau gynt,
:Daeth fel yn y dyddiau gynt,

Fersiwn yn ôl 08:00, 23 Ionawr 2016

Carol y Swper; yn cael ei chanu'n draddodiadol (dynion yn unig) yn Llanarmon Dyffryn Ceiriog; Rhagyr 2015
Carol y Swper; recordiwyd yn Llanfair Dyffryn Clwyd, Sir Ddinbych; 2015.
Deffrown Deffrown
Gwrandawed Bob Enaid
Awn i Fethlem
Blant Adda 'Mbaratowch
Ar Fore Dydd Nadolig
Pa Beth yw'r Golau

Gwasanaeth Nadolig traddodiadol wedi'i gynnal yn fore ydy'r plygain. Daw unigolion, deuawdau, grwpiau a theuluoedd ymlaen i du blaen yr eglwys i ganu carolau'r plygain. Rhwng tri a chwech y bore y cynhaliwyd y gwasanaeth fel arfer, er bod yr amseroedd, bellach, yn amrywio'n fawr. Yn draddodiadol, roedd canhwyllau'n rhan bwysig, gyda gorymdaith yn aml o ganol y pentref i'r eglwys.[1] Mae'n dyddio nôl i'r adeg cyn y diwygiad Protestanaidd yn y 16eg ganrif gydag elfennau llawer hŷn na hynny.

Cred rhai y daw'r gair 'plygain' o'r gair Lladin pullicantiō[2], sef 'ar ganiad y ceiliog'; cred eraill mai o'r gair 'plygu' y daw. Fe'i ceir hefyd yn y Llydaweg fel pellgent. Mae sawl amrywiad ar y gair: pylgen, pilgen, plygan, plygen a.y.y.b. Ceir enghraifft o'r gair mewn llawysgrifau Cymraeg mor gynnar a'r 13eg ganrif ('pader na pilgeint na gosber'); y gair Llydaweg am Sion Corn ydy Tad-kozh ar pellgent ("Tad-cu y plygain").

Mewn rhai mannau, arferai'r bobl wneud cyflaith i ddisgwyl yr amser cychwyn. Gwyddom i hyn ddigwydd ym Marford, Sir y Fflint er enghraifft. Roedd yr oriau yma cyn y plygain, felly'n rhai cymdeithasol iawn. Ceir cofnod mai gwneud cyflaith a threulio'r noson yn addurno'r tai â chelyn ac uchelwydd oedd y traddodiad ym Marford, Sir Fflint, yn y 1830au. Ac yn nyddiadur Mrs. Thrale o daith yn 1774 cynheuai pobl Dyffryn Clwyd eu goleuadau am ddau y bore, a chanu a dawnsio i'r delyn tan y plygain.

Canhwyllau

Hyd at y 19eg ganrif, anaml iawn y cynhelid gwasanaethau eglwys yn y nos, gan nad oedd hi'n hawdd goleo'r eglwys; ond roedd y plygain yn eithriad. Er mwyn cael golau, arferai'r trigolion gario eu cannwyll neu lamp i'r eglwys. Daeth hyn yn rhan bwysig o'r ŵyl; yn Nolgellau, er enghraifft, gwysgwyd y canhwyllau â chelyn ac y Llanfyllin cynheuwyd cannoed o ganhwyllau wedi'u gosod fodfeddi ar wahân. Arferid addurno'r canhwyllau hyn, ac yn Llanfyllin, goleuwyd yr adeilad gan gannoedd o ganhwyllau, wedi eu 1leoli fodfeddi er wahân. Yn Nolgellau, gwisgid y canhwyllau â chelyn. Ym Maentwrog, Sir Feirionnydd, yr oedd canhwyllau hefyd "wedi eu gosod mewn tyllau ymhen polion neu byst ysgafn a sicrheid wrth gôr yma ac acw yn yr adeilad." [3]

Yn Llanfair Dyffryn Clwyd ger Rhuthun yn 1774, gwyddom i'r trigolion lleol gynnau cynhwyllau, dawnsio a chanu wrth gerdded i'r plygain. Cafwyd gorymdeithiau i'r eglwys o ganol y dref neu'r pentref, hefyd, yn Ninbych-y-pysgod, Talacharn a Llanfyllin. Cynheuwyd ffaglau a hebryngwyd y rheithor lleol ar flaen yr orymdaith yn aml a'r llanciau'n chythu cyrn.

Dywed J. Lloyd Williams (1854‑1945) am blygain Eglwys Sant Doged yn Llanddoged ger Llanrwst: "Er bod y clochydd yn gofalu am ganhwyllau, byddai rhai o’r cantorion yn mynd â’u canhwyllau eu hunain i’r gwasanaethau, er mwyn cael digon o olau i weld y copïau ysgrifen y canent oddi arnynt; ac i ddal y canhwyllau gofelid am fynd â digon o glai yn lle canwyllbrennau."[4]

Yn ôl Gwynfryn Richards, gellir canfod yn yr arferion hyn o oleuo canhwyllau ar y Nadolig y symbol o ddyfodiad 'Goleuni'r Byd'.

Y Gwasanaeth ei hun

Eglwys Llanfihangel yng Ngwynfa

Dyma ddisgrifiad William Payne o blygain Dolgellau tuag 1850[5]

Yn awr y mae'r eglwys yn wenfflam; yn awr o dan ei sang, gorff, ystlysau, oriel; yn awr wele Siôn Robert, y crydd troed-gam, a'i wraig, gan ddod i lawr o'r sedd ganu i ran isaf a blaenaf yr oriel, yn taro bob yn ail y garol hirfaith a'r hen ffefryn yn disgrifio Addoliad y Brenhinoedd a'r Doethion, a'r Ffoad i'r Aifft, ac anfadrwydd ofnadwy Herod. Hollol ddistaw yw'r tyrfaoedd ac wedi ymgolli mewn edmygedd.... A'r gweddiau trosodd, cychwynna'r cantorion eto ragor o garolau, cantorion newydd, hen garolau mewn unawdau, deuawdau, triawdau, cytganau, yna distawrwydd yn y gynulleidfa, wedi ei dorri ar seibiau priodol gan rwystrus furmur yr hyfrydwch a'r gymeradwyaeth, nes rhwng wyth a naw, a newyn yn dweud ar y cantorion, y mae'r Plygain drosodd a thery'r Clych ganiad llawn.

Ym Maentwrog roedd hi'n arferiad i'r rheithor bregethu am gyfnod byr ac yn Llanfair Dyffryn Clwyd, roedd y Cymun Bendigaid yn cael ei weinyddu.

Ychydig iawn o siarad sydd mewn gwasanaeth y plygain, sy'n papa oddeutu dwyawr. Fel arfer ceir oddeutu deudded o bartion yn cymryd eu tro i godi o'r gynulledifa a cherdded i'r sedd fawr, heb neu yn eu galw ymlaen, heb gyflwyniad o gwbwl i'r caneuon - ac yn debyg yn hyn o beth i wasanaeth y Crynnwyr. Wedi ysbaid yn y canol, lle gwneir y casgliadmewn rhai llefyd, ceir ail ran, a deai'r partion ymlaen yn yr un drefn i ganu eu hail ddewis a phob cân yn wahanol, gan ei bod yn egwyddor osgoi ailganu unrhyw garol a'r cwbl yn Gymraeg.

Ar ôl y rownd olaf bydd pawb sydd wedi cymryd rhan yn y gwasanaeth yn dod i flaen yr eglwys i ganu Carol y Swper.

Caneuon y plygain

Fel arfer mae'r caneuon Plygain mewn cynghanedd o dri neu bedwar llais, er bod unawdau a deuawdau wedi bodoli eriod. Yn wreiddiol partion o ddynion yn unig oedd yn cymryd rhan ac roedd y cantorion yn dod o'r un teulu. Roedd aelod o'r teulu'n ysgrifennu’r geiriau mewn llyfr ymarfer a ddefnyddiwyd hefyd yn y gwasanaeth gan fod cymaint o benillion! Yn aml roedd yr alwa yn cael ei benthyg oddi wrth gân gwerin poblogaidd. Fel arfer crybwyllir croeshoelio Crist yn y garol blygain. Ymhlith y beirdd enwog am ysgrifennu llawer o garolau plygain mae Huw Morus (Eos Ceiriog), Jonathan Huws a Walter Davies (Gwallter Mechain).[6] Mae brawddegu'n bwysig ac yn aml mae'r cantorion yn dal ar rai geiriau pwysig. Cenir y caneuon i gyd yn ddigyfeiliant.

Enghraifft; Daeth Nadolig (ar hen alaw werin Deio Bach)
Daeth Nadolig fel Arferol
Daeth Nadolig fel arferol,
Daeth fel yn y dyddiau gynt,
Gyda’i eira, gyda’i oerni,
Gyda’i rew a’i ruol wynt.
Yn lle dail i drwsio’r goedwig,
Gwisgr hi â hugan gwyn,
Ac mae miwsig pob aderyn
Wedi darfod yn y glyn.


Daeth Nadolig fel arferol,
Mewn tawelwch mae y byd,
Wrth i ninau gofio’r stori
Am y baban yn ei grud,
Cofio am y seren ddisglair,
Cofio am y preseb tlawd,
Cofio’r engyl yn cyhoeddi
Geni Duw mewn gwisg o gnawd.


Daeth Nadolig fel arferol
Ac mae miswig ym mhob man,
Miwsig rhai yn mynd i Blygain,
Miwsig peraidd glychau’r llan,
Rhaid i ninnau gyda’r doethion
A’r bugeiliaid i gael trem
Ar yr hwn sydd wedi’i eni
Draw ym mhreseb Bethlehem.


Gorfoleddwn a moliannwn,
Ganwyd Ceidwad mawr y byd,
Cyfaill pechaduriad mawrion
Ydyw Iesu Grist o hyd,
Brenin heddwch ydyw’r Iesu
A thangnefedd ar ei wedd,
Dyma frenin y brenhinoedd
Ddysgodd inni gladdu’r cledd.

Canu plygain heddiw

Roedd y traddodiad o ganu carolau yn gryf trwy bob rhan o Ogledd a Chanolbarth Cymru ganrif yn ôl. Heddiw, fodd bynnag, mae'r traddodiad ar ei gryfaf yn ardaloedd Mallwyd, Llanerfyl, Cefnyblodwel a Llangynog.

Yn 2015/6 cafwyd 47 o wasanaethau plygain traddodiadol yn y mannau hyn: Gofal; ychwanegir y dyddiadau heb eu gwiro, er mwyn rhoi syniad o ddyddiadau'r Plygain.

Lleoliad Noswaith Dyddiad
(amcan)
Bowydd, Blaenau Ffestiniog Sul 29-11-15
Llan Ffestiniog Iau 03-12-15
Llansilin Gwener 04-12-15
Hirnant Sul 06-12-15
Llanfyllin Sul 06-12-15
Llanbedr Pont Steffan Llun 07-12-15
Y Trallwng Mawrth 08-12-15
Neuadd Pantycelyn, Aberystwyth Mawrth 08-12-15
Penygraig, Caerfyrddin Sul 13-12-15
Y Parc Mawrth 15-12-15
Morlan, Aberystwyth Mercher 16-12-15
Penrhyn-coch Iau 17-12-15
Llanfair Dyffryn Clwyd Iau 17-12-15
Stryd Tsieina, Llanidloes Gwener 18-12-15
Penybontfawr Gwener? 18-12-15
Briw Sul 20-12-15
Towyn, Ceinewydd Sul 20-12-15
Penuel, Llangynyw (Pontrobert) Sul 20-12-15
Pontrobert Gwener 25-12-15
Llanllyfni Gwener 25-12-15
Lloc Gwener 25-12-15
Capel Soar, Nercwys Gwener 25-12-15
Nantgaredig, Capel MC Sul 27-12-15
Cefnblodwel Sul 27-12-15
Llanarmon Dyffryn Ceiriog Mercher 30-12-15
Llanerfyl Sul 03-01-16
Llanrhaeadr-ym-Mochnant Sul 03-01-16
Festri Bethesda, Yr Wyddgrug Sul 03-01-16
Eglwys Sant Gwyndaf, Llanwnda, Caernarfon Sul 03-01-16
Pennant Melangell Mawrth? 05-01-16
Ebeneser, Dinas Mawddwy Mercher 06-01-16
Abergynolwyn Iau 07-01-16
Darowen Gwener 08-01-16
Ceri Sadwrn 09-01-16
Eglwys Sant Twrog, Llanddarog Sul 10-01-16
Llanfihangel-yng-Ngwynfa Sul 10-01-16
Capel Jewin, Llundain Sul 10-01-16
Blaenannerch Sul 10-01-16
Gwaelod-y-garth, Caerdydd Sul 10-01-16
Mallwyd Mercher 13-01-16
Cadeirlan Bangor, Bangor Gwener 15-01-16
Llanuwchllyn Sul 17-01-16
Llanfair, ger Harlech Mercher 20-01-16
Eglwys Sant Crwst, Llanrwst Iau 21-01-16
Y Gadeirlan, Llanelwy Gwener 29-01-16
Llandeilo Sul 31-01-16

Casgliadau o ganeuon

  • Welsh Folk Customs, Trefor M. Owen; 1959, tud. 28-33
  • Hen Garolau Cymru, Arfon Gwilym a Sioned Webb (Gol.); Cwmni Cyhoeddi Gwyn, 2006
  • Cadw Gŵyl: Llawlyfr i’r Traddodiad Plygain, Bwrdd Cenhadau’r Eglwys yng Nghymru, 2000; Enid R Morgan (Gol.)
  • Hen Garolau Cymru, Arfon Gwilym a Sioned Webb (Gol.); Cwmni Cyhoeddi Gwyn, 2006
  • Yn Dyrfa Weddus: Carolau Ar Gyfer Y Plygain, Rhiannon Ifans (Gol.); Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 2003
  • Hen Garolau, Geraint Vaughan-Jones (Gol.), Y Lolfa, 1987
  • Mwy o Garolau Plygain, Geraint Vaughan-Jones (Gol.), Y Lolfa, 1992


Dolenni allanol

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Amgueddfa Cymru; adalwyd 30 Tachwedd 2015
  2. http://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?plygain
  3. Gwefan Amgueddfa Cymru; adalwyd 30 Tachwedd 2015
  4. [Atgofion Tri Chwarter Canrif, o'r detholiad, Y Flwyddyn yng Nghymru, Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1943. J. Lloyd Williams (1854‑1945)
  5. gwefan Sain Ffagan
  6. Caneuon Gwerin; adalwyd 30 Tachwedd 2015