Cyngor Dinas a Sir Abertawe: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 1 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q5123523 (translate me)
Dim crynodeb golygu
Llinell 4: Llinell 4:
| colspan="2" style="text-align: center; background: white;"|[[Image:City and county of swansea logo.jpg|150px]]<br />Logo Cyngor Dinas a Sir Abertawe
| colspan="2" style="text-align: center; background: white;"|[[Image:City and county of swansea logo.jpg|150px]]<br />Logo Cyngor Dinas a Sir Abertawe
|-
|-
| colspan="2" style="text-align: center; background: white;"|[[Image:Escudo Swansea.jpg|150px]]<br />Arfbais Cyngor Dinas a Sir Abertawe
| colspan="2" style="text-align: center; background: white;"|[[Image:Coat of Arms of Swansea.png|150px]]<br />Arfbais Cyngor Dinas a Sir Abertawe
|-
|-
!Rheolaeth
!Rheolaeth

Fersiwn yn ôl 05:35, 23 Ionawr 2016

Cyngor Dinas a Sir Abertawe

Logo Cyngor Dinas a Sir Abertawe
Delwedd:Coat of Arms of Swansea.png
Arfbais Cyngor Dinas a Sir Abertawe
Rheolaeth Clymblaid Annibynnol / Democratiaid Rhyddfrydol
AS
Gwefan swyddogol swansea.gov.uk

Cyngor Dinas a Sir Abertawe (Saesneg: City and County of Swansea Council) yw corff llywodraethol un o ardaloedd awdurdod unedol Cymru sy'n cynnwys Abertawe, Gŵyr a'r ardal gyfagos ac sydd â statws sirol. Mae'r cyngor yn cynnwys 72 o gynghorwyr sy'n cynrychioli 36 etholaeth.

Ar hyn o bryd, rheolir y cyngor gan y Democratiaid Rhyddfrydol o dan arweinyddiaeth y Cynghorydd Christopher Holley.

Hanes bwrdeistrefol

Derbyniodd Abertawe ei siarter gyntaf rhyw bryd rhwng 1185-1184 gan William de Newburgh, 3ydd Iarll Warwick. Rhoddodd y siarter hwn statws bwrdeistref i Abertawe, a roddai hawliau penodol i drigolion y dref i ddatblygu'r ardal. Rhoddwyd ail siarter yn 1215 gan y Brenin John. Erbyn 1888, roedd gan y fwrdeistref statws bwrdeistref sirol, a oedd yn ei gwahanu o sir weinyddol Morgannwg.

Ym 1974, o dan y Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, unwyd Abertawe (a oedd yn fwrdeisdref sirol hyd yn hyn) gyda Ardal Wledig Gŵyr, er mwyn creu ardal o Orllewin Morgannwg a alwyd Ardal a Dinas Abertawe. Ym 1996, yn sgil diwygio llywodraeth lleol, gwelwyd Abertawe'n uno gyda rhannau o ardal Dyffryn Lliw er mwyn creu awdurdod lleol o'r enw 'Dinas a Sir Abertawe'.

Maeryddiaeth

Mae maer Abertawe yn uwch-aelod o'r Cyngor etholedig. Teitl y mae ydy "Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Abertawe". Cartref swyddogol yr Arglwydd Faer ydy Mansion House yn Ffynone.

Blwyddyn fwrdeistrefol Maer
2010–2011 Richard Lewis
2009-2010 Alan Lloyd
2008-2009 Gareth Sullivan
2007-2008 Susan Waller
2006-2007 Chris Holley
2005-2006 Mair Gibbs

Cyfansoddiad gwleidyddol

Cynhelir etholiadau bob pedair blynedd. Cynhaliwyd yr etholiad diwethaf ar 1 Mai 2008.[1]

Blwyddyn Llafur Ceidwadol Democratiaid Rhyddfrydol Plaid Cymru Eraill Nifer a bleidleisiodd Nodiadau
2008 30 4 23 1 14 38.19% Dim rheolaeth lawn, Rheolaeth Gweinyddiaeth Abertawe
2004 32 4 19 5 12 38.32% Dim rheolaeth lawn, Rheolaeth Gweinyddiaeth Abertawe
1999 45 4 11 3 9 Rheolaeth Llafur
1995 Rheolaeth Llafur

ffynhonnell: [2]

Rhwng 1996 a 2004, roedd y cyngor o dan reolaeth y Blaid Lafur. Ers 2004 ni fu rheolaeth lawn gan unrhyw blaid unigol a rheolir y cyngor gan glymblaid y Democratiaid Rhyddfrydol gyda chydweithrediad cynghorwyr annibynnol a'r Blaid Geidwadol. Gelwir hyn yn Weinyddiaeth Abertawe. Fodd bynnag, newidiodd yr ystadegau hyn rhwng 2004-2008 pan symudodd y Cyngh. Keith Morgan o Blaid Cymru i'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn 2005 a'r Cyngh. Rene Kinzett o'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig i'r Blaid Geidwadol yn 2006.

Yn dilyn etholiadau 2008, cytunodd y Democratiaid Rhyddfrydol i ffurfio clymblaid gyda'r cynghorwyr annibynnol am y bedair blynedd nesaf.

Cyfeiriadau