Catalwnia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ham II (sgwrs | cyfraniadau)
B clean up, replaced: Catalonia → Catalwnia (6), Gatalonia → Gatalwnia using AWB
Jfblanc (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 25: Llinell 25:
| [[ISO 3166-2]] || CT
| [[ISO 3166-2]] || CT
|-
|-
| valign=top | [[Arlywydd y Generalitat]] || [[Artur Mas]] (CDC)
| valign=top | [[Arlywydd y Generalitat]] || [[Carles Puigdemont]] (CDC)
|-
|-
| align=center colspan=2 | [http://www.gencat.net/ Generalitat de Catalunya]
| align=center colspan=2 | [http://www.gencat.net/ Generalitat de Catalunya]

Fersiwn yn ôl 21:20, 10 Ionawr 2016

Mae'r erthygl yma yn trafod y gymuned ymreolaethol bresennol. Am y dywysogaeth hanesyddol, gweler Tywysogaeth Catalwnia.
Comunitat Autònoma de
Catalunya
Comunidad Autónoma de
Cataluña
Comunautat Autonoma de
Catalonha
Baner Catalwnia
Prifddinas Barcelona
Arwynebedd
 – Cyfanswm
 – % o Sbaen
6ed
 32,114 km²
 6.3%
Poblogaeth
 – Cyfanswm
 – % o Sbaen
 – Dwysedd
Ail
 7,083,618
 15.98%
 220.57/km²
ISO 3166-2 CT
Arlywydd y Generalitat Carles Puigdemont (CDC)
Generalitat de Catalunya

Mae Cymuned Ymreolaethol Catalwnia (Catalaneg: Catalunya, Araneg: Catalonha Sbaeneg: Cataluña) yn un o gymunedau ymreolaethol Sbaen, ond hefyd yn cael ei chyfrif fel gwlad ar wahân gan ei thrigolion. Mae Catalwnia yng ngogledd-ddwyrain Iberia, yn ffinio â Ffrainc ac Andorra i'r gogledd, â Môr y Canoldir yn y dwyrain, â chymuned ymreolaethol Aragón yn y gorllewin. Mae Ynysoedd Medas hefyd yn rhan o Gatalwnia.

Yn Nhachwedd 2014 cynhaliodd Llywodraeth Catalwnia Refferendwm Catalwnia 2014, yn groes i orchymyn gan Lywodraeth Sbaen; pleidleisiodd dros 80% o blaid bod yn Wladwriaeth annibynol, gyda dros dwy filiwn o bobl wedi bwrw'u pleidlais. Ar 27 Medi 2015, cynhaliwyd Etholiad Cyffredinol Catalwnia, 2015, ble gwelwyd y pleidiau a oedd o blaid annibyniaeth yn uno gyda'i gilydd;

Cynhelir diwrnod cenedlaethol Catalwnia'n flynyddol ar 11 Medi.

Rhennir Catalwnia yn bedair talaith:

Enwyd y taleithiau hyn ar ôl y dinasoedd: Barcelona, Girona, Lleida a Tarragona.

Hanes

Astudiaeth feirniadol o dair gwlad - Québec, Catalunya a Chymru gan Paul W. Birt; 1997

Yn 1164, casglodd Alfonso II, brenin Aragón deyrnas Aragón, Tywysogaeth Catalwnia, Terynas Mallorca, Teyrnas Valencia, Teyrnas Sicilia, Corsica a thiriogaethau eraill dan un goron. Yn 1289 yn y Corts de Monçó enwyd y tiriogaethau fel Corona d'Aragó i de Catalunya, a dalfyrrwyd yn ddiweddarach i Corona d'Aragó, Coron Aragón.

Annibyniaeth

Yn Nhachwedd 2014 cynhaliwyd Refferendwm Catalwnia 2014, a phleidleisiodd dros 80% o blaid bod yn Wladwriaeth annibynol, gyda dros dwy filiwn o bobl wedi bwrw'u pleidlais. Ar 15 Ionawr cyhoeddodd Llywydd y wlad, Artur Mas, ei fod yn galw etholiad ar 27 Medi 2015.[1] Canlyniad y bleidlais oedd i dros 68 o'r seddi allan o gyfanswm o 135 gael eu llenwi gan gynrychiolwyr a oedd o blaid annibyniaeth.[2]

Ieithoedd

Ceir tair iaith swyddogol yng Nghatalwnia: Catalaneg, Sbaeneg ac Araneg, a siaredir yn Val d'Aran yn y gogledd-orllewin. Mae canran uchel ym medru Catalaneg:

Catalaneg
Yn medru Nifer Canran
Deall 5.872.202 94,5%
Siarad 4.630.640 74,5%
Darllen 4.621.404 74,4%
Ysgrifennu 3.093.223 49,8%
Cyfanswm 6.215.281 100%

Chwaraeon

Er bod gan y wlad ei thîm pêl-droed cenedlaethol, nid oes gan Catalwnia statws fel gwlad bêl-droed gydnabyddiaedig yng ngolwg UEFA na FIFA. Serch hynny ceir ymgyrch i ennill statws swyddogol i'r tîm, a thrwy hynny i'r wlad.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. "Mas announces an agreement with ERC and will call a snap election for 27 September 2015 " (yn Spanish). El País. 2015-01-14. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)CS1 maint: unrecognized language (link)
  2. www.theguardian.com adalwyd 2015