Selyf ap Cynan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dyma'r cysylltiad cyntaf rhwng brenin o Loegr â Chymry
Æthelfrith of Northumbria
Llinell 1: Llinell 1:
Yr oedd '''Selyf ap Cynan''' neu '''Selyf ap Cynan Garwyn''' (m. tua [[615]]), yn dywysog o'r hen [[teyrnas Powys|Bowys]]. Roedd yn fab i'r brenin [[Cynan Garwyn]], gwrthrych un o'r cerddi cynharaf yn yr iaith [[Gymraeg]], sef 'Trawsganu Cynan Garwyn,' gwaith y bardd [[Taliesin]]. Ei daid oedd [[Brochfael Ysgithrog]], brenin Powys ganol y [[6ed ganrif]]. Cyfeirir at Selyf weithiau fel 'Selyf Sarffgadau'. Daeth ei fab, [[Manwgan ap Selyf]], yn frenin Powys.

Yr adeg honno yr oedd ffiniau Powys yn ymestyn i'r dwyrain, dros [[Clawdd Offa|Glawdd Offa]] heddiw, ac yn cynnwys rhannau sylweddol o'r [[Y Mers|Gororau]]. Cafodd Selyf ei anfon gan ei dad (mae modd darllen rhai ffynonellau i olygu fod Cynan yn farw a'i fab yn teyrnasu) i geisio amddiffyn Powys rhag yr [[Eingl-Sacsoniaid]]. Ymunodd Selyf â'i ryfelwyr â llu y [[Brythoniaid]] a syrthiodd ym [[Brwydr Caer|Mrwydr Caer]] (615 neu 616) (ceir y cofnod yn yr ''[[Annales Cambriae]]'') pan ymladdodd yn erbyn [[Aethelfrith]]. Dyma'r cysylltiad cyntaf rhwng brenin o Loegr â Chymry.<ref>Y Gwyddoniadur Cymreig; [[Gwasg Prifysgol Cymru]]; 2008; tud 90.</ref> Mae'n bosibl fod Selyf yn arweinydd lluoedd y Brythoniaid yn y frwydr dyngedfennol honno, a dorrodd y cysylltiad rhwng teyrnasoedd [[Cymru]] a'r [[Hen Ogledd]].
Yr adeg honno yr oedd ffiniau Powys yn ymestyn i'r dwyrain, dros [[Clawdd Offa|Glawdd Offa]] heddiw, ac yn cynnwys rhannau sylweddol o'r [[Y Mers|Gororau]]. Cafodd Selyf ei anfon gan ei dad (mae modd darllen rhai ffynonellau i olygu fod Cynan yn farw a'i fab yn teyrnasu) i geisio amddiffyn Powys rhag yr [[Eingl-Sacsoniaid]]. Ymunodd Selyf â'i ryfelwyr â llu y [[Brythoniaid]] a syrthiodd ym [[Brwydr Caer|Mrwydr Caer]] (615 neu 616) (ceir y cofnod yn yr ''[[Annales Cambriae]]'') pan ymladdodd yn erbyn [[Aethelfrith|Æthelfrith o Northumbria]]. Dyma'r cysylltiad cyntaf rhwng brenin o Loegr â Chymry.<ref>Y Gwyddoniadur Cymreig; [[Gwasg Prifysgol Cymru]]; 2008; tud 90.</ref> Mae'n bosibl fod Selyf yn arweinydd lluoedd y Brythoniaid yn y frwydr dyngedfennol honno, a dorrodd y cysylltiad rhwng teyrnasoedd [[Cymru]] a'r [[Hen Ogledd]].

Cyfeirir at [[Arofan]] fel "bardd Selyf ap Cynan" yn [[Trioedd Ynys Prydain|Nhrioedd Ynys Prydain]]. Mewn triawd arall, mae'n un o 'Dri Aerfeddawg (arweinwyr rhyfel) Ynys Prydain', gyda [[Urien Rheged|Urien fab Cynfarch]] (Urien Rheged) ac [[Afaon fab Taliesin]]. Mewn amrywiad ar un o'r Trioedd a geir yn [[Llyfr Du Caerfyrddin]], enwir march Selyf fel Du Hir Derwenydd, sy'n un o 'Dri Thom Edystr Ynys Prydain' (Tri Phynfarch...).

Fersiwn yn ôl 08:03, 4 Ionawr 2016

Yr oedd Selyf ap Cynan neu Selyf ap Cynan Garwyn (m. tua 615), yn dywysog o'r hen Bowys. Roedd yn fab i'r brenin Cynan Garwyn, gwrthrych un o'r cerddi cynharaf yn yr iaith Gymraeg, sef 'Trawsganu Cynan Garwyn,' gwaith y bardd Taliesin. Ei daid oedd Brochfael Ysgithrog, brenin Powys ganol y 6ed ganrif. Cyfeirir at Selyf weithiau fel 'Selyf Sarffgadau'. Daeth ei fab, Manwgan ap Selyf, yn frenin Powys.

Yr adeg honno yr oedd ffiniau Powys yn ymestyn i'r dwyrain, dros Glawdd Offa heddiw, ac yn cynnwys rhannau sylweddol o'r Gororau. Cafodd Selyf ei anfon gan ei dad (mae modd darllen rhai ffynonellau i olygu fod Cynan yn farw a'i fab yn teyrnasu) i geisio amddiffyn Powys rhag yr Eingl-Sacsoniaid. Ymunodd Selyf â'i ryfelwyr â llu y Brythoniaid a syrthiodd ym Mrwydr Caer (615 neu 616) (ceir y cofnod yn yr Annales Cambriae) pan ymladdodd yn erbyn Æthelfrith o Northumbria. Dyma'r cysylltiad cyntaf rhwng brenin o Loegr â Chymry.[1] Mae'n bosibl fod Selyf yn arweinydd lluoedd y Brythoniaid yn y frwydr dyngedfennol honno, a dorrodd y cysylltiad rhwng teyrnasoedd Cymru a'r Hen Ogledd.

Cyfeirir at Arofan fel "bardd Selyf ap Cynan" yn Nhrioedd Ynys Prydain. Mewn triawd arall, mae'n un o 'Dri Aerfeddawg (arweinwyr rhyfel) Ynys Prydain', gyda Urien fab Cynfarch (Urien Rheged) ac Afaon fab Taliesin. Mewn amrywiad ar un o'r Trioedd a geir yn Llyfr Du Caerfyrddin, enwir march Selyf fel Du Hir Derwenydd, sy'n un o 'Dri Thom Edystr Ynys Prydain' (Tri Phynfarch...).

Ceir cyfeiriad ato yn y chwedl Breuddwyd Rhonabwy hefyd, fel un o farchogion Arthur (does dim sail hanesyddol i'r cyplysiad hwnnw).

Parhaodd bri Selyf hyd yr Oesoedd Canol. Cyfeiria'r bardd Cynddelw Brydydd Mawr at ryfelwyr Powys fel "cenawon Selyf."

Ffynhonnell

  • Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, arg. newydd, 1991)

Cyfeiriadau

  1. Y Gwyddoniadur Cymreig; Gwasg Prifysgol Cymru; 2008; tud 90.