Edward IV, brenin Lloegr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
ehangu |
|||
Llinell 3: | Llinell 3: | ||
Roedd yn fab i [[Rhisiart Plantagenet, Dug Efrog]]. Cafodd ei eni yn [[Rouen]], [[Ffrainc]]. Ei wraig oedd [[Elizabeth Woodville]]. |
Roedd yn fab i [[Rhisiart Plantagenet, Dug Efrog]]. Cafodd ei eni yn [[Rouen]], [[Ffrainc]]. Ei wraig oedd [[Elizabeth Woodville]]. |
||
==Yng Nghymru== |
|||
Pan goronwyd Edward IV yn 1461 llac oedd ei afael ar Gymru. Y de-ddwyrain yn unig oedd yn ddiogel dan awdurdod iarll Warwick a Herbert, a phrin oedd ei ddilynwyr yn y gorllewin a'r gogledd. Yn dilyn brwydr Towton, ym Mawrth 1461, dyrchafwyd [[William Herbert, Iarll 1af Penfro (1423–1469)|Wiliam Herbert]] i safle uwchben pob unigolyn arall yng Nghymru: yn ustus, siambrlen, stiward a phrif fforestydd siroedd Aberteifi a Chaerfyrddin, gyda'i frawd Rhisiart yn ddirprwy, a chomisiynwyd Wiliam Herbert a'i frawd yng nghyfraith, Walter Devereux, i feddiannu iarllaeth Penfro a'r tiroedd a gysylltid â hi, tiroedd [[Siasbar Tudur]] a'i nai [[Harri Tudur]]. Yna meddiannodd Herbert diroedd teulu Buckingham yng Nghymru, gan gynnwys Brycheiniog a Gwynllwg. Ffodd Siasbar Tudur, hanner brawd Harri VI, rhagddynt i'r Gogledd, a syrthiodd [[castell Penfro]] i ddwylo Herbert. Yno roedd y bachgen pedair oed, Harri Tudur, mab i frawd Siasbar. Cymerwyd ef gan Herbert i Raglan ac yno y magwyd Harri Tudur hyd 1469. Trechwyd Siasbar ym mrwydr Twthill ger Caernarfon, a ffôff am ei fywyd i [[Iwerddon]]. |
|||
Prin oedd awdurdod Edward IV yn nhair sir y Gogledd, a bu raid i Herbert ddod â byddin anferthol i Wynedd cyn llwyddo i ddarostwng y trigolion. Ildiodd [[castell Harlech]] iddo ar 14 Awst, a chanodd [[Guto'r Glyn]] gywydd i longyfarch Herbert, gan ofyn ar yr un gwynt iddo ddangos trugaredd tuag at uchelwyr Gwynedd. |
|||
== Plant == |
== Plant == |
Fersiwn yn ôl 08:29, 23 Rhagfyr 2015
Edward IV (28 Ebrill, 1442 - 9 Ebrill, 1483) oedd brenin Lloegr o 3 Mawrth 1461 i 30 Hydref, 1470, ac o 4 Mai 1471 hyd ei farwolaeth.
Roedd yn fab i Rhisiart Plantagenet, Dug Efrog. Cafodd ei eni yn Rouen, Ffrainc. Ei wraig oedd Elizabeth Woodville.
Yng Nghymru
Pan goronwyd Edward IV yn 1461 llac oedd ei afael ar Gymru. Y de-ddwyrain yn unig oedd yn ddiogel dan awdurdod iarll Warwick a Herbert, a phrin oedd ei ddilynwyr yn y gorllewin a'r gogledd. Yn dilyn brwydr Towton, ym Mawrth 1461, dyrchafwyd Wiliam Herbert i safle uwchben pob unigolyn arall yng Nghymru: yn ustus, siambrlen, stiward a phrif fforestydd siroedd Aberteifi a Chaerfyrddin, gyda'i frawd Rhisiart yn ddirprwy, a chomisiynwyd Wiliam Herbert a'i frawd yng nghyfraith, Walter Devereux, i feddiannu iarllaeth Penfro a'r tiroedd a gysylltid â hi, tiroedd Siasbar Tudur a'i nai Harri Tudur. Yna meddiannodd Herbert diroedd teulu Buckingham yng Nghymru, gan gynnwys Brycheiniog a Gwynllwg. Ffodd Siasbar Tudur, hanner brawd Harri VI, rhagddynt i'r Gogledd, a syrthiodd castell Penfro i ddwylo Herbert. Yno roedd y bachgen pedair oed, Harri Tudur, mab i frawd Siasbar. Cymerwyd ef gan Herbert i Raglan ac yno y magwyd Harri Tudur hyd 1469. Trechwyd Siasbar ym mrwydr Twthill ger Caernarfon, a ffôff am ei fywyd i Iwerddon.
Prin oedd awdurdod Edward IV yn nhair sir y Gogledd, a bu raid i Herbert ddod â byddin anferthol i Wynedd cyn llwyddo i ddarostwng y trigolion. Ildiodd castell Harlech iddo ar 14 Awst, a chanodd Guto'r Glyn gywydd i longyfarch Herbert, gan ofyn ar yr un gwynt iddo ddangos trugaredd tuag at uchelwyr Gwynedd.
Plant
- Elisabeth o Efrog
- Edward V, brenin Lloegr
- Rhisiart, dug Efrog
- Anne
- Catrin
- Cecily
- Bridget
Rhagflaenydd: Harri VI |
Brenin Lloegr 4 Mawrth 1461 – 31 Hydref 1470 |
Olynydd: Harri VI |
Rhagflaenydd: Harri VI |
Brenin Lloegr 11 Ebrill 1471 – 9 Ebrill 1483 |
Olynydd: Edward V |