Gwaywffon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
cyfs
Llinell 3: Llinell 3:
Caiff y gair "gwayw" ei ddefnyddio'n drosiadol ar adegau e.e. 'gwayw' am 'boen' neu 'ing' neu‘n ffigurol am arwr neu arweinydd; yr hen air am [[cricymalau]] oedd 'gwayw cymalau'.
Caiff y gair "gwayw" ei ddefnyddio'n drosiadol ar adegau e.e. 'gwayw' am 'boen' neu 'ing' neu‘n ffigurol am arwr neu arweinydd; yr hen air am [[cricymalau]] oedd 'gwayw cymalau'.


Mae tystiolaeth [[archaeoleg]]ol diweddar yn awgrymu fod yr [[Homo heidelbergensis]] yn defnyddio gwaywffyn 500,000 CP.<ref>Monte Morin, [http://articles.latimes.com/2012/nov/16/science/la-sci-hafting-spears-20121116 "Stone-tipped spear may have much earlier origin"], ''[[Los Angeles Times]]'', Tachwedd 2012</ref> Roedd y [[Dyn Neanderthal]] yn creu llafnau gwywffyn 300,000 CP, ac erbyn 250,000 CP roedd yn caledu'r llafn drwy ddefnyddio gwres uchel.
Mae tystiolaeth [[archaeoleg]]ol diweddar yn awgrymu fod yr [[Homo heidelbergensis]] yn defnyddio gwaywffyn 500,000 CP.<ref>Monte Morin, [http://articles.latimes.com/2012/nov/16/science/la-sci-hafting-spears-20121116 "Stone-tipped spear may have much earlier origin"], ''Los Angeles Times'', Tachwedd 2012</ref> Roedd y [[Dyn Neanderthal]] yn creu llafnau gwywffyn 300,000 CP, ac erbyn 250,000 CP roedd yn caledu'r llafn drwy ddefnyddio gwres uchel.


==Tarddiad a chyfystyron==
==Tarddiad a chyfystyron==
Cofnodwyd y gair "gwaywffon" am y tro cyntaf fel gair cyfansawdd 'gwayw' a 'ffon' yng ngeiriadur Salesbury yn 1547, ond mae'r gair 'gwayw' yn llawer hŷn; fe'i cofnodwyd yn [[Llyfr Du Caerfyrddin]] yn y [[13eg ganrif]]: ''Seith guaew ny ochel in eu seithran''. Yr hen ynganiad oedd: '''gwoew'''.
Cofnodwyd y gair "gwaywffon" am y tro cyntaf fel gair cyfansawdd 'gwayw' a 'ffon' yng ngeiriadur Salesbury yn 1547, ond mae'r gair 'gwayw' yn llawer hŷn; fe'i cofnodwyd yn [[Llyfr Du Caerfyrddin]] yn y [[13eg ganrif]]: ''Seith guaew ny ochel in eu seithran''. Yr hen ynganiad oedd: '''gwoew'''.


Ymhlith yr hen enwau arni y mae: glaif, gwayw, mehyr/myhyr, ongyr, pâr, rhôn, saffwy ac ysbâr, ond "gwayw" yw‘r prif derm am waywffon yng ngherddi‘r [[Hengerdd]] a cherddi [[Beirdd y Tywysogion]].<ref>[''Arfau yn yr Hengerdd a Cherddi Beirdd y Tywysogion''; papur gan Jennifer Penelope Day; 2010.] Adalwyd 07 Rhagfyr 2015</ref>
Ymhlith yr hen enwau arni y mae: glaif, gwayw, mehyr/myhyr, ongyr, pâr, rhôn, saffwy ac ysbâr, ond "gwayw" yw‘r prif derm am waywffon yng ngherddi‘r [[Hengerdd]] a cherddi [[Beirdd y Tywysogion]].<ref>[http://cadair.aber.ac.uk/dspace/bitstream/handle/2160/4646/Pennod3.pdf?sequence=3 ''Arfau yn yr Hengerdd a Cherddi Beirdd y Tywysogion''; papur gan Jennifer Penelope Day; 2010.] Adalwyd 07 Rhagfyr 2015</ref>


Gwelir fod tarddiad y gair yn gyffredin, rhwng yr ieithoedd Celtaidd:
Gwelir fod tarddiad y gair yn gyffredin, rhwng yr ieithoedd Celtaidd:

Fersiwn yn ôl 09:10, 7 Rhagfyr 2015

Arf hirfain, blaenllym a ddefnyddir i drywanu person mewn brwydr yw gwaywffon (hefyd: gwayw neu bicell). Mae iddi ddwy ran: y llafn garreg neu fetal a'r ffon hir a luniwyd o bren yn gyntaf, ac yna o fetal. Gall y waywffon fod yn un i'w thaflu drwy'r awyr, neu'n fath trymach i'w chario yn y dwylo. Defnyddid fflint yn llaf i'r hen waywffyn, ac mae'r hynaf yn dyddio i o leiaf 400,000 cyn y presennol (CP).[1] Ystyrir y bidog yn ddatblygiad naturiol i'r waywffon, ac sy'n parhau i gael ei ddefnyddio heddiw gan filwyr ar flaen gwn.

Caiff y gair "gwayw" ei ddefnyddio'n drosiadol ar adegau e.e. 'gwayw' am 'boen' neu 'ing' neu‘n ffigurol am arwr neu arweinydd; yr hen air am cricymalau oedd 'gwayw cymalau'.

Mae tystiolaeth archaeolegol diweddar yn awgrymu fod yr Homo heidelbergensis yn defnyddio gwaywffyn 500,000 CP.[2] Roedd y Dyn Neanderthal yn creu llafnau gwywffyn 300,000 CP, ac erbyn 250,000 CP roedd yn caledu'r llafn drwy ddefnyddio gwres uchel.

Tarddiad a chyfystyron

Cofnodwyd y gair "gwaywffon" am y tro cyntaf fel gair cyfansawdd 'gwayw' a 'ffon' yng ngeiriadur Salesbury yn 1547, ond mae'r gair 'gwayw' yn llawer hŷn; fe'i cofnodwyd yn Llyfr Du Caerfyrddin yn y 13eg ganrif: Seith guaew ny ochel in eu seithran. Yr hen ynganiad oedd: gwoew.

Ymhlith yr hen enwau arni y mae: glaif, gwayw, mehyr/myhyr, ongyr, pâr, rhôn, saffwy ac ysbâr, ond "gwayw" yw‘r prif derm am waywffon yng ngherddi‘r Hengerdd a cherddi Beirdd y Tywysogion.[3]

Gwelir fod tarddiad y gair yn gyffredin, rhwng yr ieithoedd Celtaidd:

Hen Gernyweg: wuyu
Hen Lydaweg: goiuou
Hen Wyddeleg: gáe
Galeg ( iaith y Celtiaid tebyg i'r Frythoneg): gaeso

Gweler hefyd


Cyfeiriadau

  1. Lower Palaeolithic hunting spears from Germany. Hartmut Thieme. Letters to Nature. Nature 385, 807 – 810 (27 Chwefror 1997); doi:10.1038/385807a0 [1]
  2. Monte Morin, "Stone-tipped spear may have much earlier origin", Los Angeles Times, Tachwedd 2012
  3. Arfau yn yr Hengerdd a Cherddi Beirdd y Tywysogion; papur gan Jennifer Penelope Day; 2010. Adalwyd 07 Rhagfyr 2015