Ursa Minor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Ehangu'r erthygl. |
B Tacluso'r tudalen. |
||
Llinell 42: | Llinell 42: | ||
{| class="wikitable" |
{| class="wikitable" |
||
|- |
|- |
||
! | |
! | Enw Bayer || Enw <br> traddodiadol || [[maintioli (seryddiaeth)|Mantioli<br>ymddangosol]] <br> (gweladwy) || Math <br> sbectrol |
||
|- |
|- |
||
| | [[Seren y Gogledd|Alpha Ursae Minoris]] || [[Seren y Gogledd|Polaris, Seren y Gogledd]] || 1.98 (newidiol) || F8 Ib |
| | [[Seren y Gogledd|Alpha Ursae Minoris (α UMi)]] || [[Seren y Gogledd|Polaris, Seren y Gogledd]] || 1.98 (newidiol) || F8 Ib |
||
|- |
|- |
||
| | Beta Ursae Minoris || Kochab || 2.06 || K4 III |
| | Beta Ursae Minoris (β UMi) || Kochab || 2.06 || K4 III |
||
|- |
|- |
||
| | Gamma Ursae Minoris || Pherkad || 3.08 || A3 II |
| | Gamma Ursae Minoris (γ UMi)|| Pherkad || 3.08 || A3 II |
||
|} |
|} |
||
Fersiwn yn ôl 19:06, 2 Rhagfyr 2015
Ursa Minor (Lladin: Arth Fach) neu'r Arth Fach yw cytser yn awyr y nos sydd yn cynnwys pegwn wybrennol y gogledd a Seren y Gogledd, Polaris.[1][2]
Cytser eithaf bach ydy Ursa Minor. Mae'r sêr sydd yn weladwy i'r llygaid noeth yn amlinellu siâp tebyg i'r Aradr yn Ursa Major, ond llawer llai mewn maint. Felly rhoddwyd yr enw Yr Arth Fach neu Ursa Minor yn Lladin i'r cytser. UMi ydy'r talfyriad swyddogol yr Undeb Seryddol Rhyngladol.
Fel y cytser sydd yn cynnwys y pegwn gogleddol, mae Ursa Minor yn weladwy o bron holl o hemisffer gogleddol y byd, ond anweladwy o hemisffer y de. Mae Ursa Minor yn ambegynol o'r rhan fwyaf o hemisffer gogleddol y byd: mae hyn yn golygu bod y cytser yn wastad uwchben y gorwel a byth yn machlud.
Polaris, o faintioli 2.0, ydy'r seren disgleiriaf yn y cytser, a felly adnabyddir y seren fel Alpha Ursae Minoris (α UMi) ar gyfundrefn enwi sêr yr hen seryddwr Almaeneg Johann Bayer. Yr unig sêr eraill yn y cytser sydd yn hawdd i'w gweld gyda'r llygad noeth ydy Kochab, neu Beta Ursae Minoris (β UMi), o faintioli 2.1, a Gamma (γ UMi) o faintioli 3.1.[3]
Y sêr disgleiriaf yn y cytser ydy[3]:
Enw Bayer | Enw traddodiadol |
Mantioli ymddangosol (gweladwy) |
Math sbectrol |
---|---|---|---|
Alpha Ursae Minoris (α UMi) | Polaris, Seren y Gogledd | 1.98 (newidiol) | F8 Ib |
Beta Ursae Minoris (β UMi) | Kochab | 2.06 | K4 III |
Gamma Ursae Minoris (γ UMi) | Pherkad | 3.08 | A3 II |
Does dim nifylau, clysterau sêr na galaethau disglair yn y cytser.[3] Fel pob rhan arall o'r wybren, mae nifer fawr iawn o alaethau pell yn y cytser, ond mae rhaid defnyddio telesgop sylweddol i'w arsyllu.
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
- ↑ Evans, J. Silas (1923). Seryddiaeth a Seryddwyr. Caerdydd: William Lewis, Argraffwyr, Cyf. tt. 50–53.
- ↑ Mills, Caradoc (1914). Y Bydoedd Uwchben: Llawlyfr ar Seryddwyr. Bangor: P. Jones-Roberts. tt. 153–154, 163.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 Robert, Burnham (1978). Burnham's Celestial Handbook. 3. Efrog Newydd: Dover Publications, Inc. tt. 2006–2026. ISBN 0-486-23673-X Check
|isbn=
value: checksum (help). (Yn Saesneg.)