Y plygain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
caneuon
BDim crynodeb golygu
Llinell 27: Llinell 27:


===Caneuon y plygain===
===Caneuon y plygain===
Fel arfer mae'r caneuon Plygain mewn cynghanedd o dri neu bedwar llais, er bod unawdau a deuawdau wedi bodoli eriod. Yn wreiddiol partion o ddynion yn unig oedd yn cymryd rhan ac roedd y cantorion yn dod o'r un teulu. Roedd aelod o'r teulu'n ysgrifennu’r geiriau mewn llyfr ymarfer a ddefnyddiwyd hefyd yn y gwasanaeth gan fod cymaint o benillion! Yn aml roedd yr alwa yn cael ei fenthyg oddi wrth gân gwerin poblogaidd. Ymhlith y beirdd enwog am ysgrifennu llawer o garolau plygain mae [[Huw Morus (Eos Ceiriog)]], [[Jonathan Huws]] a [[Walter Davies (Gwallter Mechain)]].<ref>[https://caneuongwerin.wordpress.com/2013/12/22/daeth-nadolig/ Caneuon Gwerin;] adalwyd 30 Tachwedd 2015</ref>
Fel arfer mae'r caneuon Plygain mewn cynghanedd o dri neu bedwar llais, er bod unawdau a deuawdau wedi bodoli eriod. Yn wreiddiol partion o ddynion yn unig oedd yn cymryd rhan ac roedd y cantorion yn dod o'r un teulu. Roedd aelod o'r teulu'n ysgrifennu’r geiriau mewn llyfr ymarfer a ddefnyddiwyd hefyd yn y gwasanaeth gan fod cymaint o benillion! Yn aml roedd yr alwa yn cael ei benthyg oddi wrth gân gwerin poblogaidd. Ymhlith y beirdd enwog am ysgrifennu llawer o garolau plygain mae [[Huw Morus (Eos Ceiriog)]], [[Jonathan Huws]] a [[Walter Davies (Gwallter Mechain)]].<ref>[https://caneuongwerin.wordpress.com/2013/12/22/daeth-nadolig/ Caneuon Gwerin;] adalwyd 30 Tachwedd 2015</ref> Mae brawddegu'n bwysig ac yn aml mae'r cantorion yn dal ar rai geiriau pwysig. Cenir y caneuon i gyd yn ddigyfeiliant.


== Canu plygain heddiw ==
== Canu plygain heddiw ==

Fersiwn yn ôl 08:17, 30 Tachwedd 2015

Gwasanaeth Nadolig traddodiadol wedi'i gynnal yn fore ydy'r plygain. Daw unigolion, deuawdau, grwpiau a theuluoedd ymlaen i du blaen yr eglwys i ganu carolau'r plygain. Rhwng tri a chwech y bore y cynhaliwyd y gwasanaeth fel arfer, er bod yr amseroedd, bellach, yn amrywio'n fawr. Yn draddodiadol, roedd canhwyllau'n rhan bwysig, gyda gorymdaith yn aml o ganol y pentref i'r eglwys.[1] Mae'n dyddio nôl i'r adeg cyn y diwygiad Protestanaidd yn y 16eg ganrif gydag elfennau llawer hŷn na hynny.

Cred rhai y daw'r gair 'plygain' o'r gair Lladin pullicantiō[2], sef 'ar ganiad y ceiliog'; cred eraill mai o'r gair 'plygu' y daw. Fe'i ceir hefyd yn y Llydaweg fel pellgent. Mae sawl amrywiad ar y gair: pylgen, pilgen, plygan, plygen a.y.y.b. Ceir enghraifft o'r gair mewn llawysgrifau Cymraeg mor gynnar a'r 13eg ganrif ('pader na pilgeint na gosber'); y gair Llydaweg am Sion Corn ydy Tad-kozh ar pellgent ("Tad-cu y plygain").

Mewn rhai mannau, arferai'r bobl wneud cyflaith i ddisgwyl yr amser cychwyn. Gwyddom i hyn ddigwydd ym Marford, Sir y Fflint er enghraifft. Roedd yr oriau yma cyn y plygain, felly'n rhai cymdeithasol iawn. Ceir cofnod mai gwneud cyflaith a threulio'r noson yn addurno'r tai â chelyn ac uchelwydd oedd y traddodiad ym Marford, Sir Fflint, yn y 1830au. Ac yn nyddiadur Mrs. Thrale o daith yn 1774 cynheuai pobl Dyffryn Clwyd eu goleuadau am ddau y bore, a chanu a dawnsio i'r delyn tan y plygain.

Cynnau Cannwyll

Hyd at y 19eg ganrif, anaml iawn y cynhelid gwasanaethau eglwys yn y nos, gan nad oedd hi'n hawdd goleo'r eglwys; ond roedd y plygain yn eithriad. Er mwyn cael golau, arferai'r trigolion gario eu cannwyll neu lamp i'r eglwys. Daeth hyn yn rhan bwysig o'r ŵyl; yn Nolgellau, er enghraifft, gwysgwyd y canhwyllau â chelyn ac y Llanfyllin cynheuwyd cannoed o ganhwyllau wedi'u gosod fodfeddi ar wahân. Arferid addurno'r canhwyllau hyn, ac yn Llanfyllin, goleuwyd yr adeilad gan gannoedd o ganhwyllau, wedi eu 1leoli fodfeddi er wahân. Yn Nolgellau, gwisgid y canhwyllau â chelyn. Ym Maentwrog, Sir Feirionnydd, yr oedd canhwyllau hefyd "wedi eu gosod mewn tyllau ymhen polion neu byst ysgafn a sicrheid wrth gôr yma ac acw yn yr adeilad." [3]

Yn Llanfair Dyffryn Clwyd ger Rhuthun yn 1774, gwyddom i'r trigolion lleol gynnau cynhwyllau, dawnsio a chanu wrth gerdded i'r plygain. Cafwyd gorymdeithiau i'r eglwys o ganol y dref neu'r pentref, hefyd, yn Ninbych-y-pysgod, Talacharn a Llanfyllin. Cynheuwyd ffaglau a hebryngwyd y rheithor lleol ar flaen yr orymdaith yn aml a'r llanciau'n chythu cyrn.

Yn ôl Gwynfryn Richards, gellir canfod yn yr arferion hyn o oleuo canhwyllau ar y Nadolig fel sumbol o ddyfodiad Goleuni'r Byd.

Y Gwasanaeth ei hun

Eglwys Llanfihangel yng Ngwynfa

Dyma ddisgrifiad William Payne o blygain Dolgellau tuag 1850[4]

Yn awr y mae'r eglwys yn wenfflam; yn awr o dan ei sang, gorff, ystlysau, oriel; yn awr wele Siôn Robert, y crydd troed-gam, a'i wraig, gan ddod i lawr o'r sedd ganu i ran isaf a blaenaf yr oriel, yn taro bob yn ail y garol hirfaith a'r hen ffefryn yn disgrifio Addoliad y Brenhinoedd a'r Doethion, a'r Ffoad i'r Aifft, ac anfadrwydd ofnadwy Herod. Hollol ddistaw yw'r tyrfaoedd ac wedi ymgolli mewn edmygedd.... A'r gweddiau trosodd, cychwynna'r cantorion eto ragor o garolau, cantorion newydd, hen garolau mewn unawdau, deuawdau, triawdau, cytganau, yna distawrwydd yn y gynulleidfa, wedi ei dorri ar seibiau priodol gan rwystrus furmur yr hyfrydwch a'r gymeradwyaeth, nes rhwng wyth a naw, a newyn yn dweud ar y cantorion, y mae'r Plygain drosodd a thery'r Clych ganiad llawn.

Ym Maentwrog roedd hi'n arferiad i'r rheithor bregethu am gyfnod byr ac yn Llanfair Dyffryn Clwyd, roedd y Cymun Bendigaid yn cael ei weinyddu.

Ychydig iawn o siarad sydd mewn gwasanaeth y plygain, sy'n papa oddeutu dwyawr. Fel arfer ceir oddeutu deudded o bartion yn cymryd eu tro i godi o'r gynulledifa a cherdded i'r sedd fawr, heb neu yn eu galw ymlaen, heb gyflwyniad o gwbwl i'r caneuon - ac yn debyg yn hyn o beth i wasanaeth y Crynnwyr. Wedi ysbaid yn y canol, lle gwneir y casgliadmewn rhai llefyd, ceir ail ran, a deai'r partion ymlaen yn yr un drefn i ganu eu hail ddewis a phob cân yn wahanol, gan ei bod yn egwyddor osgoi ailganu unrhyw garol a'r cwbl yn Gymraeg.

Ar ôl y rownd olaf bydd pawb sydd wedi cymryd rhan yn y gwasanaeth yn dod i flaen yr eglwys i ganu Carol y Swper.

Caneuon y plygain

Fel arfer mae'r caneuon Plygain mewn cynghanedd o dri neu bedwar llais, er bod unawdau a deuawdau wedi bodoli eriod. Yn wreiddiol partion o ddynion yn unig oedd yn cymryd rhan ac roedd y cantorion yn dod o'r un teulu. Roedd aelod o'r teulu'n ysgrifennu’r geiriau mewn llyfr ymarfer a ddefnyddiwyd hefyd yn y gwasanaeth gan fod cymaint o benillion! Yn aml roedd yr alwa yn cael ei benthyg oddi wrth gân gwerin poblogaidd. Ymhlith y beirdd enwog am ysgrifennu llawer o garolau plygain mae Huw Morus (Eos Ceiriog), Jonathan Huws a Walter Davies (Gwallter Mechain).[5] Mae brawddegu'n bwysig ac yn aml mae'r cantorion yn dal ar rai geiriau pwysig. Cenir y caneuon i gyd yn ddigyfeiliant.

Canu plygain heddiw

Roedd y traddodiad o ganu carolau yn gryf trwy bob rhan o Ogledd a Chanolbarth Cymru. Heddiw, fodd bynnag, mae'r traddodiad ar ei gryfaf yn yr ardal ym Mallwyd, Llanerfyl, Cefnyblodwel a Llangynog.

Yn 2015 cafwyd gwasanaethau plygain traddodiadol yn y mannau hyn:

Dolenni allanol

Cyfeiriadau