Robert Herbert Mills-Roberts: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '{{Infobox football biography | name = Robert Herbert Mills-Roberts | image = | fullname = | birth_date...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 11:51, 28 Tachwedd 2015

Robert Herbert Mills-Roberts
Gwybodaeth Bersonol
Dyddiad geni5 Awst 1862
Man geniPenmachno, Cymru
Dyddiad marw27 Tachwedd 1935 (yn 73 ml. oed)
Man lle bu farwBournemouth, Lloegr
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
1879–1882Aberystwyth
Ysbyty St. Thomas, Llundain
1884–1888Corinthian
1886–1887Casuals
1887–1889Preston North End10(0)
Tîm Cenedlaethol
1885–1892Cymru8(0)
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd..
† Ymddangosiadau (Goliau).

Cyn bêl-droediwr Cymreig oedd Robert Herbert Mills-Roberts (5 Awst 1862- 27 Tachwedd 1935). Llwyddodd i ennill 8 cap dros Gymru rhwng 1885 a 1892 yn ogystal â Chwpan FA Lloegr gyda thîm Preston North End, y tîm ddaeth i gael eu hadnabod fel yr Invincibles.

Fe'i ganed ym Mhenmachno yn fab hynnaf i Robert Roberts, cyn reolwr Chwarel yr Oakeley. Cafodd ei addysg yn Ysgol Friars, Bangor a Phrifysgol Aberystwyth lle roedd yn gapten ar y timau rygbi a phêl-droed[1].

Gyrfa bêl-droed

Tra'n astudio i fod yn feddyg yn Ysbyty St. Thomas yn Llundain, roedd yn aelod o dîm pêl-droed yr ysbyty yn ogystal a chlybiau amatur Barnes, Crusaders, Casuals a chlwb enwog Corinthian. Cynrychiolodd Middlesex a Surrey mewn gemau sirol ac ym 1885 gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru yn erbyn Lloegr.

Ym 1887 ymunodd â chlwb Preston North End gan nad oedd eu golwr arferol, y Cymro James Trainer, yn gymwys i chwarae yng Nghwpan FA Lloegr[1]. Dim on 13 o gemau chwaraeodd Mills-Roberts dros Preston; wyth yng Nghwpan FA Lloegr, dwy gêm gynghrair a tair gêm gyfeillgar ond llwyddodd i chwarae yn rownd derfynol Cwpan FA Lloegr ddwywaith.

Roedd yn aelod o'r tîm gollodd yn y rownd derfynol ym 1888[2] ond ym 1889 llwyddodd i godi'r tlws a sicrhau mai Preston North End oedd y tîm cyntaf erioed i ennill y dwbwl o'r Gynghrair Bêl-droed a Chwpan FA yn yr un tymor [3][1].

Gyrfa feddygol

Llwyddodd i ddod yn feddyg ym 1887 ac wedi cyfnod yn Ysbyty Cyffredinol Birmingham, symudodd i Lanberis ym 1889 er mwyn dod yn feddyg ar Ysbyty Chwarel Dinorwig[4].

Roedd yn aelod o'r Fyddin Diriogaethol gan ddod yn lawfeddyg gyda'r Welch Hospital yn ystod Ail Ryfel y Boer lle lwyddodd i esgyn i fod yn Uwchgapten yng Nghorfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin. Tra yn Ne Affrica cafodd ei urddo gyda'r C.M.G. (Companion of St. Michael and St. George)[5].

Ar ddechrau'r Rhyfel Mawr roedd yn ddirprwy arweinydd 6ed Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ond trosglwyddodd yn ôl i'r Corfflu Meddygol er mwyn arwain yr 131st Field Ambulance oedd yn gysylltiedig â 38fed Adran Gymreig ym mrwydrau Ffrainc a Fflandrys[5].

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 1.2 "Doctor Who...?". PNE Former Players.
  2. "1888 FA Cup Final". Sporting Chronicle. Unknown parameter |pulished= ignored (help)
  3. "1889 FA Cup Final". Sporting Chronicle. Unknown parameter |pulished= ignored (help)
  4. "Ysbyty Chwarel Dinorwig". BBC Cymru. Unknown parameter |published= ignored (help)
  5. 5.0 5.1 "Obituary: RH Mills-Roberts CMG FRCSEd". British Medical Journal. Unknown parameter |published= ignored (help)