Trawsblannu organau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu
n
Llinell 2: Llinell 2:
'''Trawsblannu organau''' yw'r llawdriniaeth meddygol o symud un neu fwy o [[organau dynol|organau]] anifail neu ddyn o'r 'rhoddwr (''doner'') i'r 'derbynydd', fel arfer gan fod organ y derbynydd yn ddiffygiol. Ystyrir fod trawsblannu [[meinwe]] hefyd yn 'drawsblannu organ'. Mae trawsblannu organau'n un o'r meysydd mwyaf blaengar a chynhyrfus o fewn [[meddygaeth]], yn enwedig y defnydd o had gelloedd a'r frwydr yn erbyn imiwnedd y corff sydd, yn aml, yn dechrau ymladd yn erbyn yr organ newydd, gan ei wrthod, fel pe tae'n germ estron.<ref>{{cite journal |doi=10.1093/ndt/16.2.355 |author=Frohn C, Fricke L, Puchta JC, Kirchner H |title=''The effect of HLA-C matching on acute renal transplant rejection |journal=Nephrol. Dial. Transplant.'' |volume=16 |issue=2 |pages=355–60 |date=February 2001 |pmid=11158412 |url=http://ndt.oxfordjournals.org/cgi/content/full/16/2/355}}</ref> Mewn rhai gwledydd mae prynu a gwerthu organau ar y farchnad ddu yn broblem enfawr.<ref>Gweler [http://www.who.int/bulletin/volumes/82/9/feature0904/en/index.html am ragor o fanylion]; Gwefan WHO; Teitl y rhan berthnasol: ''Bulletin of the World Health Organization''; ''Organ trafficking and transplantation pose new challenges''; adalwyd 22 Tachwedd 2015.</ref>
'''Trawsblannu organau''' yw'r llawdriniaeth meddygol o symud un neu fwy o [[organau dynol|organau]] anifail neu ddyn o'r 'rhoddwr (''doner'') i'r 'derbynydd', fel arfer gan fod organ y derbynydd yn ddiffygiol. Ystyrir fod trawsblannu [[meinwe]] hefyd yn 'drawsblannu organ'. Mae trawsblannu organau'n un o'r meysydd mwyaf blaengar a chynhyrfus o fewn [[meddygaeth]], yn enwedig y defnydd o had gelloedd a'r frwydr yn erbyn imiwnedd y corff sydd, yn aml, yn dechrau ymladd yn erbyn yr organ newydd, gan ei wrthod, fel pe tae'n germ estron.<ref>{{cite journal |doi=10.1093/ndt/16.2.355 |author=Frohn C, Fricke L, Puchta JC, Kirchner H |title=''The effect of HLA-C matching on acute renal transplant rejection |journal=Nephrol. Dial. Transplant.'' |volume=16 |issue=2 |pages=355–60 |date=February 2001 |pmid=11158412 |url=http://ndt.oxfordjournals.org/cgi/content/full/16/2/355}}</ref> Mewn rhai gwledydd mae prynu a gwerthu organau ar y farchnad ddu yn broblem enfawr.<ref>Gweler [http://www.who.int/bulletin/volumes/82/9/feature0904/en/index.html am ragor o fanylion]; Gwefan WHO; Teitl y rhan berthnasol: ''Bulletin of the World Health Organization''; ''Organ trafficking and transplantation pose new challenges''; adalwyd 22 Tachwedd 2015.</ref>


Mae'n bosibl i'r rhoddwr a'r derbyniwr fod yr un person e.e. gellir cadw [[had gell|had gelloedd]] person sy'n dioddef o [[lwcimia]] mewn [[labordy]], dileu'r hen gelloedd y gwaed drwy [[radiotherapi]] a [[cimotherapi]] ac yna trawsblannu'r celloedd a gadwyd yn ôl i'r un person. Gelwir hyn yn ''autograft'' a'r trawsblaniadau rhwng dau berson gwahanol yn ''allograft''. Gall trawsblaniad o'r math hwn (''allograft'') olygu fod y rhoddwr yn fyw, neu wedi marw, a gall yr organ neu'r feinwe gael ei gynaeafu (neu ei dynnu) o gorff y person hyd at 24 awr wedi i'w galon beidio a churo.<ref>{{Cite journal | last1 = Manara | first1 = A. R. | last2 = Murphy | first2 = P. G. | last3 = O'Callaghan | first3 = G. | title = Donation after circulatory death | doi = 10.1093/bja/aer357 | journal = ''British Journal of Anaesthesia'' | volume = 108 | pages = i108–i121 | year = 2011 | pmid = 22194426 | pmc = }}</ref> Mae Cymru'n wlad blaenllaw yn y maes hwn, gan i [[Llywodraeth Cymru|Lywodraeth Cymru]] basio bil ([[Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013]]) sy'n caniatáu i [[ysbytu]] ddefnyddio organnau person sydd newydd farw heb ei ganiatâd ysgrifenedig; caniateir, hefyd optio allan o'r drefn hon, cyn i'r person farw. Daeth y Ddeddf hon i rym ar [[1 Rhagfyr]] [[2015]].
Mae'n bosibl i'r rhoddwr a'r derbyniwr fod yr un person e.e. gellir cadw [[had gell|had gelloedd]] person sy'n dioddef o [[lwcimia]] mewn [[labordy]], dileu'r hen gelloedd y gwaed drwy [[radiotherapi]] a [[cimotherapi]] ac yna trawsblannu'r celloedd a gadwyd yn ôl i'r un person. Gelwir hyn yn ''autograft'' a'r trawsblaniadau rhwng dau berson gwahanol yn ''allograft''. Gall trawsblaniad o'r math hwn (''allograft'') olygu fod y rhoddwr yn fyw, neu wedi marw, a gall yr organ neu'r feinwe gael ei gynaeafu (neu ei dynnu) o gorff y person hyd at 24 awr wedi i'w galon beidio a churo.<ref>{{Cite journal | last1 = Manara | first1 = A. R. | last2 = Murphy | first2 = P. G. | last3 = O'Callaghan | first3 = G. | title = Donation after circulatory death | doi = 10.1093/bja/aer357 | journal = ''British Journal of Anaesthesia'' | volume = 108 | pages = i108–i121 | year = 2011 | pmid = 22194426 | pmc = }}</ref> Mae Cymru'n wlad blaenllaw yn y maes hwn, gan i [[Llywodraeth Cymru|Lywodraeth Cymru]] basio bil ([[Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013]]) sy'n caniatáu i [[ysbytu]] ddefnyddio organau person sydd newydd farw heb ei ganiatâd ysgrifenedig; caniateir, hefyd optio allan o'r drefn hon, cyn i'r person farw. Daeth y Ddeddf hon i rym ar [[1 Rhagfyr]] [[2015]].
[[Delwedd:Prif organnau dynol Major human organs.svg|bawd|chwith|320px|Y prif organau dynol]]
[[Delwedd:Prif organnau dynol Major human organs.svg|bawd|chwith|320px|Y prif organau dynol]]


Heb drawsblaniadau organau, byddai llawer o bobl yn marw. Gelwir y weithred o drawsblannu organnau o un rhywogaeth i rywogaeth arall yn "Senotrawsblaniad".<ref>[http://law.gov.wales/publicservices/health-services/health-services/organ-donation?skip=1&lang=cy#/publicservices/health-services/health-services/organ-donation?tab=overview&lang=cy Gwefan Llywodraeth Cymru;] Teitl y darn dan sylw: Rhoi organau; Nodyn: Yn 2006, diffiniodd yr Adran Iechyd senotrawsblaniad fel: ''"any procedure that involves the transplantation, implantation, or infusion into a human recipient of either live tissues or organs retrieved from animals, or, human body fluids, cells, tissue or organs that have undergone ex vivo contact with live non-human animal cells tissues or organs."''; adalwyd 22 Tachwedd 2015</ref>
Heb drawsblaniadau organau, byddai llawer o bobl yn marw. Gelwir y weithred o drawsblannu organau o un rhywogaeth i rywogaeth arall yn "Senotrawsblaniad".<ref>[http://law.gov.wales/publicservices/health-services/health-services/organ-donation?skip=1&lang=cy#/publicservices/health-services/health-services/organ-donation?tab=overview&lang=cy Gwefan Llywodraeth Cymru;] Teitl y darn dan sylw: Rhoi organau; Nodyn: Yn 2006, diffiniodd yr Adran Iechyd senotrawsblaniad fel: ''"any procedure that involves the transplantation, implantation, or infusion into a human recipient of either live tissues or organs retrieved from animals, or, human body fluids, cells, tissue or organs that have undergone ex vivo contact with live non-human animal cells tissues or organs."''; adalwyd 22 Tachwedd 2015</ref>


Yr organau a ddefnyddir amlaf mewn trawsblaniadau yw [[aren]]nau, [[y galon]], [[yr iau]], [[yr ysgyfaint]], [[y pancreas]] a'r [[coluddyn bach]].
Yr organau a ddefnyddir amlaf mewn trawsblaniadau yw [[aren]]nau, [[y galon]], [[yr iau]], [[yr ysgyfaint]], [[y pancreas]] a'r [[coluddyn bach]].

Fersiwn yn ôl 08:00, 22 Tachwedd 2015

Trawsblaniad y galon llwyddiannus gyntaf yn Ne Affrica yn 1967

Trawsblannu organau yw'r llawdriniaeth meddygol o symud un neu fwy o organau anifail neu ddyn o'r 'rhoddwr (doner) i'r 'derbynydd', fel arfer gan fod organ y derbynydd yn ddiffygiol. Ystyrir fod trawsblannu meinwe hefyd yn 'drawsblannu organ'. Mae trawsblannu organau'n un o'r meysydd mwyaf blaengar a chynhyrfus o fewn meddygaeth, yn enwedig y defnydd o had gelloedd a'r frwydr yn erbyn imiwnedd y corff sydd, yn aml, yn dechrau ymladd yn erbyn yr organ newydd, gan ei wrthod, fel pe tae'n germ estron.[1] Mewn rhai gwledydd mae prynu a gwerthu organau ar y farchnad ddu yn broblem enfawr.[2]

Mae'n bosibl i'r rhoddwr a'r derbyniwr fod yr un person e.e. gellir cadw had gelloedd person sy'n dioddef o lwcimia mewn labordy, dileu'r hen gelloedd y gwaed drwy radiotherapi a cimotherapi ac yna trawsblannu'r celloedd a gadwyd yn ôl i'r un person. Gelwir hyn yn autograft a'r trawsblaniadau rhwng dau berson gwahanol yn allograft. Gall trawsblaniad o'r math hwn (allograft) olygu fod y rhoddwr yn fyw, neu wedi marw, a gall yr organ neu'r feinwe gael ei gynaeafu (neu ei dynnu) o gorff y person hyd at 24 awr wedi i'w galon beidio a churo.[3] Mae Cymru'n wlad blaenllaw yn y maes hwn, gan i Lywodraeth Cymru basio bil (Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013) sy'n caniatáu i ysbytu ddefnyddio organau person sydd newydd farw heb ei ganiatâd ysgrifenedig; caniateir, hefyd optio allan o'r drefn hon, cyn i'r person farw. Daeth y Ddeddf hon i rym ar 1 Rhagfyr 2015.

Y prif organau dynol

Heb drawsblaniadau organau, byddai llawer o bobl yn marw. Gelwir y weithred o drawsblannu organau o un rhywogaeth i rywogaeth arall yn "Senotrawsblaniad".[4]

Yr organau a ddefnyddir amlaf mewn trawsblaniadau yw arennau, y galon, yr iau, yr ysgyfaint, y pancreas a'r coluddyn bach.

Mae rhoi meinweoedd yn golygu defnyddio celloedd corff iach fel cornbilennau, croen, esgyrn, gewynnau, cartilag a falfiau'r galon. Mae esgyrn, tendonau a chartilag yn cael eu defnyddio ar gyfer ailadeiladu ar ôl anaf neu yn ystod llawdriniaeth i osod cymal newydd. Mae impiadau (neu grafft) croen yn cael eu defnyddio i drin pobl â llosgiadau difrifol.

Cymru

Cafodd Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) y Cydsyniad Brenhinol ar 10 Medi 2013. Mae’r Ddeddf yn nodi fframwaith cyfreithiol ar gyfer sut y dylid rhoi cydsyniad yng Nghymru i roi organau a meinweoedd i’w trawsblannu i gorff arall. Mae’n ymdrin â gweithgareddau trawsblannu ar gyfer rhoddwyr byw a rhoddwyr sydd wedi marw yng Nghymru. Mae’r Ddeddf yn creu dau fath newydd o gydsyniad cyfreithiol – sef cydsyniad datganedig a chydsyniad tybiedig. Nid yw cydsyniad tybiedig yn gymwys ond i rodd gan berson sydd wedi marw. I gydsyniad tybiedig fod yn gymwys, bydd angen i bobl farw yng Nghymru, bod dros 18 oed ac wedi ‘preswylio fel arfer’ yng Nghymru am 12 mis neu fwy.[5]

Bernir bod oedolion wedi rhoi cydsyniad i roi organau a meinweoedd oni bai:

  • eu bod eisoes wedi rhoi cydsyniad ysgrifenedig eu hunain trwy ddweud nad oeddent yn dymuno bod yn rhoddwr (hy wedi 'optio i mewn');
  • eu bod eisoes wedi datgan nad oeddent yn dymuno bod yn rhoddwr (hy wedi 'optio allan');
  • eu bod wedi penodi cynrychiolydd i wneud penderfyniad drostynt;
  • nad oedd ganddynt y gallu i ddeall y drefn hon y gallai cydsyniad fod yn gydsyniad tybiedig (ee person gyda phroblemau meddyliol) neu
  • fod person sydd mewn perthynas â hwy neu sy’n perthyn iddynt yn gwrthwynebu ar sail dymuniadau’r person sydd wedi marw

Cyfeiriadau

  1. Frohn C, Fricke L, Puchta JC, Kirchner H (February 2001). "The effect of HLA-C matching on acute renal transplant rejection". Nephrol. Dial. Transplant. 16 (2): 355–60. doi:10.1093/ndt/16.2.355. PMID 11158412. http://ndt.oxfordjournals.org/cgi/content/full/16/2/355.
  2. Gweler am ragor o fanylion; Gwefan WHO; Teitl y rhan berthnasol: Bulletin of the World Health Organization; Organ trafficking and transplantation pose new challenges; adalwyd 22 Tachwedd 2015.
  3. Manara, A. R.; Murphy, P. G.; O'Callaghan, G. (2011). "Donation after circulatory death". British Journal of Anaesthesia 108: i108–i121. doi:10.1093/bja/aer357. PMID 22194426.
  4. Gwefan Llywodraeth Cymru; Teitl y darn dan sylw: Rhoi organau; Nodyn: Yn 2006, diffiniodd yr Adran Iechyd senotrawsblaniad fel: "any procedure that involves the transplantation, implantation, or infusion into a human recipient of either live tissues or organs retrieved from animals, or, human body fluids, cells, tissue or organs that have undergone ex vivo contact with live non-human animal cells tissues or organs."; adalwyd 22 Tachwedd 2015
  5. Gwefan Llywodraeth Cymru; Teitl y darn dan sylw: Rhoi organau; adalwyd 22 Tachwedd 2015

Dolennau allanol