Łukasz Fabiański: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
newydd
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 14:49, 17 Tachwedd 2015

Chwaraewr pêl-droed proffesiynol o Wlad Pwyl ydy Łukasz Fabiański (ganed 18 Ebrill 1985). Ar hyn o bryd, mae'n chwarae i C.P.D. Abertawe a thîm cenedlaethol Gwlad Pwyl.

Dechreuodd chwarae pêl-droed yn Legia Warsaw, cyn ymuno ag Arsenal F.C. am £2.1 miliwn yn 2007. Chwaraewr wrth-gefn ydoedd y rhan fwyaf o'r amser ond chwaraeodd pan enillodd y clwb yn rownd derfynol Cwpan FA yn 2014. Pan ddaeth ei gytundeb gydag Arsenal i ben, ymunodd ag Abertawe.

Mae Fabiański wedi cynrychioli ei wlad dros 25 o weithiau a chafoddd ei gynnwys yn y garfan ar gyfer Cwpan FIFA y Byd yn 2006 ac yn Ewro 2008.

Ei yrfa

Dinas Abertawe

Ar 29 Mai 2014, cyhoeddwyd y byddai Fabiański yn ymuno â C.P.D. Abertawe pan fyddai ei gytundeb gydag Arsenal yn dod i ben ar 1 Gorffennaf. Dywedodd am y trosglwyddiad "Y prif reswm des i i Abertawe oedd achos roeddwn eisiau bod y golwr gorau". Chwaraeodd i'r clwb am y tro cyntaf ar 16 Awst, mewn gêm 2–1 yn erbyn Manceinion Unedig yn Old Trafford. Hwn oedd gêm gyntaf y tymor.

Cafodd Fabiański ei ddanfon o'r cae pan gollodd Abertawe yn erbyn West Ham United F.C. pan gafodd garden coch. Collodd yr Elyrch o 3 gol i 1.

Ar 6 Gorffennaf 2015, arwyddodd Fabiański gytundeb pedair blynedd newydd gydag Abertawe, a fydd yn ei gadw gyda'r clwb tan Fehefin 2019.