Thomas Williams, Llanidan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
cat
Llinell 12: Llinell 12:


[[Categori:Diwydiant Cymru]]
[[Categori:Diwydiant Cymru]]
[[Categori:Genedigaethau 1737|Williams, Thomas]]
[[Categori:Marwolaethau 1802|Williams, Thomas]]


[[en:Thomas Williams of Llanidan]]
[[en:Thomas Williams of Llanidan]]

Fersiwn yn ôl 15:46, 21 Gorffennaf 2007

Roedd Thomas Williams, Llanidan (13 Mai 1737 - 30 Tachwedd 1802) yn un o ddiwydiannwyr amlycaf y 18fed ganrif.

Roedd Thomas Williams yn fab i Owen Williams, Cefn Coch, Llansadwrn, Ynys Môn. Daeth yn gyfreithiwr, a bu'n cynrychioli teulu Hughes, Llysdulas, yn eu hachos yn erbyn Syr Nicholas Bayly o Blas Newydd ynghylch perchenogaeth gwaith copr Mynydd Parys ger Amlwch. Parhaodd yr achos yma am tua naw mlynedd, ac ni setlwyd y mater hyd 1778.

O gwmpas 1785 daeth yn brif reolwr Mynydd Parys, oedd erbyn hynny ym mherchenogaeth Iarll Uxbridge a Hughesiaid Llysdulas. Tyfodd y gwaith yn fawr dan ei reolaeth ef, a gallodd nid yn unig gynyddu cynhyrchiad copr ond hefyd sefydlu nifer o ddiwydiannau eraill cysylltiedig a'r diwydiant copr. Erbyn tua 1800 dywedid bod tua hanner y diwydiant copr yn ei ddwylo ef. Roedd yn boblogaidd gyda'r gweithwyr, a'i galwai'n "Twm Chwarae Teg", ond yn llai poblogaidd gyda'i gystadleuwyr mewn busnes.

Daeth yn Aelod Seneddol dros Great Marlow yn Lloegr yn 1790. a chadwodd y sedd hyd ei farwolaeth. Dywedir mai ef oedd y gŵr cyfoethocaf yng Nghymru erbyn hynny.

Llyfryddiaeth

  • J. R. Harris The Copper King: A biography of Thomas Williams of Llanidan (Gwasg Prifysgol Lerpwl, 1964).