Rhys Meirion: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Petroc2 (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
Petroc2 (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd:Rhys Meirion Albwm cyntaf.PNG|bawd|Albwm cyntaf Rhys yn 2001]] |
[[Delwedd:Rhys Meirion Albwm cyntaf.PNG|bawd|Albwm cyntaf Rhys yn 2001]] |
||
Tenor o [[Rhuthun|Ruthun]], [[Sir Ddinbych]] sy'n enedigol o ardal [[Porthmadog]] yw '''Rhys Meirion''' Jones. Cyn troi'n ganwr proffesiynol bu'n brifathro yn [[Ysgol Pentrecelyn]], ger [[Rhuthun]]. Yn ôl '''Y Times''', ''"Rhys has an engaging, clear tone singing the words, and brought a sweet vulnerability to the role."''<ref>[http://www.rhysmeirion.co.uk/?page_id=8) Gwefan rhysmeirion.co.uk] adalwyd 9 medi 2013.</ref> Astudiodd yn gyntaf yng [[Coleg y Drindod, Caerfyrddin|Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin]] ac yna'n ddiweddarach yn |
Tenor o [[Rhuthun|Ruthun]], [[Sir Ddinbych]] sy'n enedigol o ardal [[Porthmadog]] yw '''Rhys Meirion''' Jones. Cyn troi'n ganwr proffesiynol bu'n brifathro yn [[Ysgol Pentrecelyn]], ger [[Rhuthun]]. Yn ôl '''Y Times''', ''"Rhys has an engaging, clear tone singing the words, and brought a sweet vulnerability to the role."''<ref>[http://www.rhysmeirion.co.uk/?page_id=8) Gwefan rhysmeirion.co.uk] adalwyd 9 medi 2013.</ref> Astudiodd yn gyntaf yng [[Coleg y Drindod, Caerfyrddin|Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin]] ac yna'n ddiweddarach yn [[Ysgol Gerdd y Guildhall]]. |
||
==Gyrfa== |
==Gyrfa== |
Fersiwn yn ôl 14:30, 4 Tachwedd 2015
Tenor o Ruthun, Sir Ddinbych sy'n enedigol o ardal Porthmadog yw Rhys Meirion Jones. Cyn troi'n ganwr proffesiynol bu'n brifathro yn Ysgol Pentrecelyn, ger Rhuthun. Yn ôl Y Times, "Rhys has an engaging, clear tone singing the words, and brought a sweet vulnerability to the role."[1] Astudiodd yn gyntaf yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin ac yna'n ddiweddarach yn Ysgol Gerdd y Guildhall.
Gyrfa
Bu'n unawdydd gyda Rhaglen Cantorion Ifanc Jerwood, Opera Cenedlaethol Lloegr a Chwmni Opera Cymru; ymhlith ei ganeuon mwyaf poblogaidd y mae 'Pedair Oed' a 'Llefarodd yr Haul' (gan Robat Arwyn a Robin Llwyd ab Owain).
Ymhlith ei uchafbwyntiau mewn cyngerddau, mae: cyngerdd gala yn Neuadd Frenhinol Albert gyda Bryn Terfel, ei berfformiad cyntaf yng nghyngherddau Proms y BBC, a hynny ar y noson agoriadol (a ddarlledwyd ar BBC 2), recordiad byw gan y BBC o 9fed Symffoni Beethoven dan arweiniad Richard Hickox, Cyngerdd Dathlu Desert Island Disks yn y Royal Festival Hall Llundain a Requiem Verdi yn Neuadd Frenhinol Albert.
Canodd gyda Bryn Terfel ar yr albwm Benedictus - a gafodd ei gynnig am Wobr "Classical Brit" yn 2006.[2]
Rhannau
Mae ei rolau'n cynnwys Rodolfo yn La Boheme, Pinkerton yn Madam Butterfly, Alfredo yn La Traviata, Nemorino yn L’Elisir d’Amore, Nadir yn Y Pysgotwyr Perlau, Marcello yn La Boheme gan Leoncavallo, y Dug yn Rigoletto, Tebaldo yn Capuletti e Montecchi, Tamino yn Y Ffliwt Hud, y rôl deitl yn Ernani, Morwr yn Tristan und Isolde, Rinuccio yn Gianni Schicchi, Canwr Eidalaidd yn Der Rosenkavalier, Froh yn Das Rheingold, Zinovy yn Lady Macbeth of Mtzensk a nifer eraill.[3]
Cyfeiriadau
- ↑ Gwefan rhysmeirion.co.uk adalwyd 9 medi 2013.
- ↑ Gwefan ei Asiant "Harlequin Agency Limited", Caerdydd.
- ↑ Gwefan Rhys Meirion.com; adalwyd 9 Media 2013