Richard Davies: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B →Llyfryddiaeth: 4 gweithred, replaced: {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}} using AWB |
Ham II (sgwrs | cyfraniadau) B manion |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
:''Am enghreifftiau eraill o bobl o'r enw Richard Davies, gweler [[Richard Davies (gwahaniaethu)]].'' |
:''Am enghreifftiau eraill o bobl o'r enw Richard Davies, gweler [[Richard Davies (gwahaniaethu)]].'' |
||
Esgob a chyfieithydd oedd '''Richard Davies''' (?[[1501]] |
Esgob a chyfieithydd oedd '''Richard Davies''' (?[[1501]] – [[7 Tachwedd]] [[1581]]), a aned yn y [[Gyffin]], ger tref [[Conwy (tref)|Conwy]]. Yn ystod ei yrfa eglwysig bu'n esgob [[Esgob Llanelwy|Llanelwy]] a [[Esgob Tyddewi|Tyddewi]]. Fe'i cofir yn bennaf am ei waith ar y cyd â [[William Salesbury]] yn cyfieithu'r [[Testament Newydd]] i'r [[Gymraeg]]. Roedd yn ewythr i'r ysgolhaig [[Siôn Dafydd Rhys]] (John Davies). |
||
==Bywgraffiad== |
==Bywgraffiad== |
||
Llinell 11: | Llinell 11: | ||
==Llyfryddiaeth== |
==Llyfryddiaeth== |
||
*D.R. Thomas, ''The Life and Work of Richard Davies and William Salesbury'' (Croesoswallt, 1902) |
*D. R. Thomas, ''The Life and Work of Richard Davies and William Salesbury'' (Croesoswallt, 1902) |
||
{{Rheoli awdurdod}} |
{{Rheoli awdurdod}} |
Fersiwn yn ôl 07:02, 26 Hydref 2015
- Am enghreifftiau eraill o bobl o'r enw Richard Davies, gweler Richard Davies (gwahaniaethu).
Esgob a chyfieithydd oedd Richard Davies (?1501 – 7 Tachwedd 1581), a aned yn y Gyffin, ger tref Conwy. Yn ystod ei yrfa eglwysig bu'n esgob Llanelwy a Tyddewi. Fe'i cofir yn bennaf am ei waith ar y cyd â William Salesbury yn cyfieithu'r Testament Newydd i'r Gymraeg. Roedd yn ewythr i'r ysgolhaig Siôn Dafydd Rhys (John Davies).
Bywgraffiad
Cafodd ei addysg ym Mhrifysgol Rhydychen lle daeth dan ddylanwad y diwygwyr Protestannaidd. Ar ôl treulio cyfnod mewn alltudiaeth yn ninas Frankfurt yn yr Almaen oherwydd ei ffydd ar ddiwedd teyrnasiad Mari, brenhines yr Alban, dychwelodd i Gymru a chafodd ei apwyntio'n esgob Llanelwy ac yna yn 1561 yn esgob Tyddewi.
Gweithiai'n ddyfal gyda William Salesbury i berswadio senedd San Steffan i basio deddf i awdurdodi cyfieithu'r Beibl a'r Llyfr Gweddi Gyffredin i'r Gymraeg a phan gafwyd y ddeddf honno yn 1563 ymunodd â Salesbury yn ei blas yn Abergwili i gyfieithu'r Testament Newydd gyda fo. Richard Davies yw awdur yr Epistol at y Cembru ('Llythyr at y Cymry') a geir ar ddechrau Testament Newydd 1567; cafodd ddylanwad mawr ar hanesyddiaeth Cymru.
Roedd Richard Davies yn noddwr hael i feirdd a llenorion ei oes a gwnaeth gryn dipyn i gael gwared â'r llygredd oedd yn rhemp yn yr eglwys ar y pryd. Bu farw yn Abergwili, lle'i claddwyd.
Llyfryddiaeth
- D. R. Thomas, The Life and Work of Richard Davies and William Salesbury (Croesoswallt, 1902)