Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Efrog, egin i'r gwaelod a ballu
delwedd
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:The Cymmrodorion Society Museum For Wales 1876.jpg|bawd|Poster gan ''The Cymmrodorion Society'', yn argymell sefydlu [[Amgueddfa Genedlaethol Cymru]]; Mehefin 1876.]]

Cymdeithas wladgarol a diwylliannol a sedyflwyd gan [[Richard Morris]] yn [[Llundain]] yn [[1751]] yw '''Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion''' neu'r '''Cymmrodorion'''. Yn y gorffennol, gwnaeth y Gymdeithas gyfraniad blaenllaw i greu sefydliadau fel [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru]], [[Prifysgol Cymru]], y [[Llyfrgell Genedlaethol]] a’r [[Amgueddfa Genedlaethol]].
Cymdeithas wladgarol a diwylliannol a sedyflwyd gan [[Richard Morris]] yn [[Llundain]] yn [[1751]] yw '''Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion''' neu'r '''Cymmrodorion'''. Yn y gorffennol, gwnaeth y Gymdeithas gyfraniad blaenllaw i greu sefydliadau fel [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru]], [[Prifysgol Cymru]], y [[Llyfrgell Genedlaethol]] a’r [[Amgueddfa Genedlaethol]].



Fersiwn yn ôl 06:51, 22 Hydref 2015

Poster gan The Cymmrodorion Society, yn argymell sefydlu Amgueddfa Genedlaethol Cymru; Mehefin 1876.

Cymdeithas wladgarol a diwylliannol a sedyflwyd gan Richard Morris yn Llundain yn 1751 yw Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion neu'r Cymmrodorion. Yn y gorffennol, gwnaeth y Gymdeithas gyfraniad blaenllaw i greu sefydliadau fel Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Prifysgol Cymru, y Llyfrgell Genedlaethol a’r Amgueddfa Genedlaethol.

Cyhoeddiadau

Cyhoeddwyd y cylchgrawn ysgolheigaidd Y Cymmrodor o 1877 hyd 1951 a'r Cymmrodorion Record Series o 1889 ymlaen. Y Cymmrodorion hefyd yw cyhoeddwyr Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (1953) a'r fersiwn ar-lein. Mae Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion yn dal i gael ei gyhoeddi heddiw ac yn ffynhonnell bwysig ar gyfer ymchwil i lên, hanes a diwylliant Cymru.

Darlithoedd

Mae’r gymdeithas yn trefnu cyfres o ddarlithoedd ble y cyflwynir papurau yn y Saesneg a’r Gymraeg gan siaradwyr o’r byd academaidd a chyhoeddus.

Cynhelir ein cyfarfodydd yn Llundain a Chymru, mewn lleoliadau sy’n cynnwys y Senedd ym Mae Caerdydd a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth. Cynhelir darlith arbennig yn y Gymraeg sef Darlith Goffa Syr T. H. Parry-Williams yn flynyddol yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Mae’r Gymdeithas hefyd yn cynnal llawer o ddigwyddiadau mewn cydweithrediad ag eraill, gan gynnwys y Sefydliad Materion Cymreig, Cymru yn Llundain a Chymdeithas Sir Drefaldwyn. Fel arfer, cynhelir Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Gymdeithas ym mis Mai bob blwyddyn. Cyhoeddir y darlithoedd, ynghyd ag unrhyw gyfraniadau eraill, yn y Trafodion blynyddol.

Swyddogion

  • Llywydd: Yr Athro Prys Morgan ers 2005
  • Noddwr: Y Tywysog Siarl
  • Ysgrifennydd: Peter Jeffreys
  • Trysorydd: Huw Wynne-Griffith
  • Ysgrifennydd Aelodaeth: Dr Adrian Morgan
  • Golygydd: Yr Athro Helen Fulton, ers 2008

Llyfryddiaeth

  • R.T. Jenkins a Helen Ramage, A History of the Honourable Society of the Gwyneddigion and Cymmrodorion Societies, 1751-1951 (Llundain, 1951)

Gweler hefyd

Dolen allanol


Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.