Bod dynol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Yn dileu "Craniums_of_Homo.svg". Cafodd ei dileu oddi ar Gomin gan INeverCry achos: Per c:Commons:Deletion requests/File:Craniums of Homo.svg. |
dolen |
||
Llinell 15: | Llinell 15: | ||
| awdurdod_trienwol = [[Carolus Linnaeus|Linnaeus]], 1758 |
| awdurdod_trienwol = [[Carolus Linnaeus|Linnaeus]], 1758 |
||
}} |
}} |
||
'''Bod dynol''' yw gair [[gwyddoniaeth|y gwyddonydd]] am [[dyn|ddyn]]. Person ydyw (neu "greadur deallus") sy'n perthyn i rywogaeth ''Homo sapiens''; 'human' yn Saesneg. Mae bod dynol yn greadur [[creaduriaid deudroed|deudroed]] ac wedi'i osod yn y teulu biolegol a elwir yn [[Hominidae]].<ref>{{dyf cylch| awdur=M. Goodman, D. Tagle, D. Fitch, W. Bailey, J. Czelusniak, B. Koop, P. Benson, J. Slightom |teitl=Primate evolution at the DNA level and a classification of hominoids |journal=J Mol Evol | cyfrol=30| rhifyn=3| tud=260| blwyddyn=1990| pmid=2109087| doi=10.1007/BF02099995}}</ref><ref>{{dyf gwe| url=http://animaldiversity.ummz.umich.edu/site/accounts/classification/Hominidae.html| teitl=Hominidae Classification| cyhoeddwr=University of Michigan Museum of Zoology}}</ref> Mae tystiolaeth genynnol o ran [[DNA]] yn dangos mai cynefin neu darddle bodau dynol yw [[Affrica]], ac iddynt ddod o'r fan honno tua 200,000 o flynydoedd yn ôl. |
'''Bod dynol''' yw gair [[gwyddoniaeth|y gwyddonydd]] am [[dyn|ddyn]]. Person ydyw (neu "greadur deallus") sy'n perthyn i rywogaeth ''[[Homo sapiens]]''; 'human' yn Saesneg. Mae bod dynol yn greadur [[creaduriaid deudroed|deudroed]] ac wedi'i osod yn y teulu biolegol a elwir yn [[Hominidae]].<ref>{{dyf cylch| awdur=M. Goodman, D. Tagle, D. Fitch, W. Bailey, J. Czelusniak, B. Koop, P. Benson, J. Slightom |teitl=Primate evolution at the DNA level and a classification of hominoids |journal=J Mol Evol | cyfrol=30| rhifyn=3| tud=260| blwyddyn=1990| pmid=2109087| doi=10.1007/BF02099995}}</ref><ref>{{dyf gwe| url=http://animaldiversity.ummz.umich.edu/site/accounts/classification/Hominidae.html| teitl=Hominidae Classification| cyhoeddwr=University of Michigan Museum of Zoology}}</ref> Mae tystiolaeth genynnol o ran [[DNA]] yn dangos mai cynefin neu darddle bodau dynol yw [[Affrica]], ac iddynt ddod o'r fan honno tua 200,000 o flynydoedd yn ôl. |
||
Mae gan fodau dynol [[ymennydd]] sydd wedi datblygu llawer pellach na gweddill [[anifeiliaid]], yn fiolegol felly. Gall [[rheswm|resymoli]] yn haniaethol, gall ymwneud ag [[iaith]], [[mewnsyllu]] a datrus problemau fel mae nhw'n codi. Mae'r gallu ymenyddol hwn ynghyd â chorff fertigol, gyda breichiau rhydd i symud neu ddal a thrin erfyn yn ei alluogi i ddefnyddio arfau llawer mwy nag unrhyw anifail arall i amddiffyn ei hun, i weithio am fwyd neu i ymosod. |
Mae gan fodau dynol [[ymennydd]] sydd wedi datblygu llawer pellach na gweddill [[anifeiliaid]], yn fiolegol felly. Gall [[rheswm|resymoli]] yn haniaethol, gall ymwneud ag [[iaith]], [[mewnsyllu]] a datrus problemau fel mae nhw'n codi. Mae'r gallu ymenyddol hwn ynghyd â chorff fertigol, gyda breichiau rhydd i symud neu ddal a thrin erfyn yn ei alluogi i ddefnyddio arfau llawer mwy nag unrhyw anifail arall i amddiffyn ei hun, i weithio am fwyd neu i ymosod. |
Fersiwn yn ôl 03:15, 22 Hydref 2015
Bod dynol | |
---|---|
Pâr o Thailand yn cario planhigyn banana dref i fwydo'u moch. | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Primates |
Teulu: | Hominidae |
Genws: | Homo |
Rhywogaeth: | H. sapiens |
Isrywogaeth: | H. s. sapiens |
Enw trienwol | |
Homo sapiens sapiens Linnaeus, 1758 |
Bod dynol yw gair y gwyddonydd am ddyn. Person ydyw (neu "greadur deallus") sy'n perthyn i rywogaeth Homo sapiens; 'human' yn Saesneg. Mae bod dynol yn greadur deudroed ac wedi'i osod yn y teulu biolegol a elwir yn Hominidae.[1][2] Mae tystiolaeth genynnol o ran DNA yn dangos mai cynefin neu darddle bodau dynol yw Affrica, ac iddynt ddod o'r fan honno tua 200,000 o flynydoedd yn ôl.
Mae gan fodau dynol ymennydd sydd wedi datblygu llawer pellach na gweddill anifeiliaid, yn fiolegol felly. Gall resymoli yn haniaethol, gall ymwneud ag iaith, mewnsyllu a datrus problemau fel mae nhw'n codi. Mae'r gallu ymenyddol hwn ynghyd â chorff fertigol, gyda breichiau rhydd i symud neu ddal a thrin erfyn yn ei alluogi i ddefnyddio arfau llawer mwy nag unrhyw anifail arall i amddiffyn ei hun, i weithio am fwyd neu i ymosod.
Mae bodau dynol wedi eu dosbarthu ar hyd a lled y ddaear ar wahân i Antartig. Mae poblogaeth y ddaear bellach yn fwy na 6.7 biliwn, (data Gorffennaf, 2008).[3] Un isrywogaeth sydd ar gael: Homo sapiens sapiens. Mae'n famal ac felly'n bwydo ei blant gyda llaeth.
Fel epaod, mae dyn yn gymdeithasol ei natur. Mae wedi mireinio'r grefft o gyfathrebu'n effeithiol er mwyn iddo fynegi ei hun, cyfnewid syniadau a threfnu gweithgareddau. Mae wedi creu strwythurau cymdeithasol cywrain a chymhleth o grwpiau sy'n cydweithio ac yn cystadlu yn erbyn ei gilydd; grwpiau mor wahanol â'r teulu a chenhedloedd. Mae'r cydymwneud hwn rhwng dyn a dyn wedi sefydlu dros y milenias diwethaf draddodiadau, defodau, moesau, gwerthoedd a safon dderbyniol gan gymdeithas drwy gyfundrefn o ddeddfau. Gall dyn werthfawrogi harddwch ac estheteg sydd ynghyd â'r awydd i fynegi ei hun wedi arwain at gelfyddyd, llenyddiaeth a cherddoriaeth.
Cynhanes Cymru
Gellir dweud bod tri math o fod dynol yng Nghymru yn ystod y cyfnod cynhanes (a phrotohanes):
- Y Neanderthals cynnar yn Ogof Bontnewydd, ger Llanelwy - 225,000 CP
- Y Neanderthal clasurol yn Ogof Coygan, Sir Gaerfyrddin - 50,000 CP
- Bod dynol modern yn Ogof Paviland, Gŵyr - 26,000 CP
Gwyddom hyn gan fod eu hesgyrn wedi'u canfod yno; dim ond llond dwrn o ddannedd yn Ogof Bontnewydd ac mae'r dystiolaeth yn gymharol brin.
Cyfeiriadau
- ↑ M. Goodman, D. Tagle, D. Fitch, W. Bailey, J. Czelusniak, B. Koop, P. Benson, J. Slightom (1990). Primate evolution at the DNA level and a classification of hominoids, Cyfrol 30, Rhifyn 3, tud. 260. DOI:10.1007/BF02099995
- ↑ Hominidae Classification. University of Michigan Museum of Zoology.
- ↑ World POPClock Projection. U.S. Census Bureau, Population Division/International Programs Center (2008-07-05).
Gweler hefyd