Robert Jones Derfel: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Deb (sgwrs | cyfraniadau) erthygl newydd |
ehangu / categoriau |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Bardd]] |
[[Bardd]] ac awdur rhyddiaith [[Radicaliaeth|Radicalaidd]] oedd '''Robert Jones Derfel''' neu '''R. J. Derfel''' ([[24 Gorffennaf]] [[1824]] - [[17 Rhagfyr]] [[1905]]). |
||
Cafodd ei eni yn y Foty, fferm rhwng [[Llandderfel]] a Bethel, |
Cafodd Robert Jones ei eni yn y Foty, fferm rhwng [[Llandderfel]] a [[Bethel (Meirionnydd)|Bethel]], [[Sir Feirionnydd|Meirionnydd]], yn fab i Edward a Catrin Jones. Treuliodd gyfnod yn ddiwaith yn [[Llundain]] tua [[1848]] pan fu'r [[Siartwyr]] ar eu hanterth. Mabwysiadodd y cyfenw "[[Derfel]]" ar ôl symud i weithio ym [[Manceinion]] lle treuliodd y gweddill o'i oes. |
||
Sefydlodd wasg ym Manceinion. Daeth yn bregethwr gyda'r [[Bedyddwyr]] ond troes fwyfwy at sosialaeth. Cyhoeddodd sawl cyfrol o gerddi gwladgarol a chartrefol, am fywyd y bobl gyffredin, a fu'n boblogaidd iawn. |
|||
Cyhoeddwyd nifer o lythyrau ac erthyglau ganddo yn ''[[Y Cymro]]'' a ''Llais Llafur '' rhwng 1892 a 1903. Awgrymodd mewn un llythyr y dylid mabywsiadu'r sosialydd cynnar [[Robert Owen]] fel [[nawddsant]] Cymru yn lle [[Dewi Sant]]. |
|||
Roedd yn Gymro gwladgarol a anogai bawb i siarad [[Cymraeg]] ac amddiffyn Cymru. Pan ymddangosodd ei ddrama ddychanol ''[[Brad y Llyfrau Gleision]]'' yn [[1854]] mabwysiadwyd y teitl gan y Cymry i gyfeirio at adroddiad y [[Llyfrau Gleision]] gwrth-Gymraeg. |
|||
==Llyfryddiaeth== |
==Llyfryddiaeth== |
||
*''Brad y Llyfrau Gleision'' (1854) |
*''Brad y Llyfrau Gleision'' (1854). Drama. |
||
*''Traethodau ac Areithiau'' (1864) |
*''Traethodau ac Areithiau'' (1864) |
||
*''Caneuon Gwladgarol'' (1864). Cerddi. |
|||
*''Y Cymro a Llais Llafur '' (1892 - 1903) |
|||
*''Munudau Segur'' (Caernarfon, 1863). Cerddi. |
|||
*''Caneuon'' (1891). |
|||
*''Rhyddiaith R. J. Derfel'' (1945). Dwy gyfrol a olygwyd gan [[Gwenallt]]. |
|||
==Dolennau allanol== |
==Dolennau allanol== |
||
*[http://wbo.llgc.org.uk/en/s-DERF-JON-1824.html Y |
*[http://wbo.llgc.org.uk/en/s-DERF-JON-1824.html Y Bywgraffiadur Ar-lein] |
||
[[Categori:Beirdd|Derfel, Robert Jones]] |
[[Categori:Beirdd Cymraeg|Derfel, Robert Jones]] |
||
[[Categori:Dramodwyr Cymraeg|Derfel, Robert Jones]] |
|||
[[Categori:Llenorion Cymraeg|Derfel, Robert Jones]] |
|||
[[Categori:Cenedlaetholdeb Cymreig|Derfel, Robert Jones]] |
|||
[[Categori:Genedigaethau 1824|Derfel, Robert Jones]] |
[[Categori:Genedigaethau 1824|Derfel, Robert Jones]] |
||
[[Categori:Marwolaethau 1905|Derfel, Robert Jones]] |
[[Categori:Marwolaethau 1905|Derfel, Robert Jones]] |
Fersiwn yn ôl 20:16, 20 Gorffennaf 2007
Bardd ac awdur rhyddiaith Radicalaidd oedd Robert Jones Derfel neu R. J. Derfel (24 Gorffennaf 1824 - 17 Rhagfyr 1905).
Cafodd Robert Jones ei eni yn y Foty, fferm rhwng Llandderfel a Bethel, Meirionnydd, yn fab i Edward a Catrin Jones. Treuliodd gyfnod yn ddiwaith yn Llundain tua 1848 pan fu'r Siartwyr ar eu hanterth. Mabwysiadodd y cyfenw "Derfel" ar ôl symud i weithio ym Manceinion lle treuliodd y gweddill o'i oes.
Sefydlodd wasg ym Manceinion. Daeth yn bregethwr gyda'r Bedyddwyr ond troes fwyfwy at sosialaeth. Cyhoeddodd sawl cyfrol o gerddi gwladgarol a chartrefol, am fywyd y bobl gyffredin, a fu'n boblogaidd iawn.
Cyhoeddwyd nifer o lythyrau ac erthyglau ganddo yn Y Cymro a Llais Llafur rhwng 1892 a 1903. Awgrymodd mewn un llythyr y dylid mabywsiadu'r sosialydd cynnar Robert Owen fel nawddsant Cymru yn lle Dewi Sant.
Roedd yn Gymro gwladgarol a anogai bawb i siarad Cymraeg ac amddiffyn Cymru. Pan ymddangosodd ei ddrama ddychanol Brad y Llyfrau Gleision yn 1854 mabwysiadwyd y teitl gan y Cymry i gyfeirio at adroddiad y Llyfrau Gleision gwrth-Gymraeg.
Llyfryddiaeth
- Brad y Llyfrau Gleision (1854). Drama.
- Traethodau ac Areithiau (1864)
- Caneuon Gwladgarol (1864). Cerddi.
- Munudau Segur (Caernarfon, 1863). Cerddi.
- Caneuon (1891).
- Rhyddiaith R. J. Derfel (1945). Dwy gyfrol a olygwyd gan Gwenallt.