Y plygain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 27: Llinell 27:
* [[Llangynog]]
* [[Llangynog]]
* [[Llanfihangel yng Ngwynfa]]
* [[Llanfihangel yng Ngwynfa]]
* Lloc (Sir Fflint)


==Dolenni allanol==
==Dolenni allanol==

Fersiwn yn ôl 17:48, 9 Hydref 2015

Gwasanaeth Nadolig traddodiadol wedi'i gynnal yn fore ydy'r plygain. Daw unigolion, deuawdau, grwpiau a theuluoedd ymlaen i du blaen yr eglwys i ganu carol plygain. Rhwng tri a chwech y bore y cynhaliwyd y gwasanaeth fel arfer, er bod yr amseroedd, bellach, yn amrywio'n fawr.

Cred rhai y daw'r gair 'plygain' o'r gair Lladin pullicantiō[1], sef 'ar ganiad y ceiliog'; cred eraill mai o'r gair 'plygu' y daw. Fe'i ceir hefyd yn y Llydaweg fel pellgent. Mae sawl amrywiad ar y gair: pylgen, pilgen, plygan, plygen a.y.y.b. Ceir enghraifft o'r gair mewn llawysgrifau Cymraeg mor gynnar a'r 13eg ganrif ('pader na pilgeint na gosber'); y gair Llydaweg am Sion Corn ydy Tad-kozh ar pellgent ("Tad-cu y plygain").

Mewn rhai mannau, arferai'r bobl wneud cyflaith i ddisgwyl yr amser cychwyn. Gwyddom i hyn ddigwydd ym Marford, Sir y Fflint er enghraifft. Yn Llanfair Dyffryn Clwyd, yn 1774, gwyddom i'r trigolion lleol gynnau cynhwyllau, dawnsio a chanu cyn mynd i'r plygain.

Mewn mannau eraill, cafwyd gorymdeithiau i'r eglwys o ganol y dref: Dinbych-y-pysgod, Talacharn a Llanfyllin. Cynheuwyd ffaglau a hebryngwyd y rheithor lleol ar flaen yr orymdaith.

Cynnau Cannwyll

Hyd at y 19eg ganrif, anaml iawn y cynhelid gwasanaethau eglwys yn y nos, gan nad oedd hi'n hawdd goleo'r eglwys; ond roedd y plygain yn eithriad. Er mwyn cael golau, arferai'r trigolion gario eu cannwyll neu lamp i'r eglwys. Daeth hyn yn rhan bwysig o'r ŵyl; yn Nolgellau, er enghraifft, gwysgwyd y canhwyllau â chelyn ac y Llanfyllin cynheuwyd cannoed o ganhwyllau wedi'u gosod fodfeddi ar wahân.

Y Gwasanaeth ei hun

Dyma ddisgrifiad William Payne o blygain Dolgellau tuag 1850[2]

Yn awr y mae'r eglwys yn wenfflam; yn awr o dan ei sang, gorff, ystlysau, oriel; yn awr wele Siôn Robert, y crydd troed-gam, a'i wraig, gan ddod i lawr o'r sedd ganu i ran isaf a blaenaf yr oriel, yn taro bob yn ail y garol hirfaith a'r hen ffefryn yn disgrifio Addoliad y Brenhinoedd a'r Doethion, a'r Ffoad i'r Aifft, ac anfadrwydd ofnadwy Herod. Hollol ddistaw yw'r tyrfaoedd ac wedi ymgolli mewn edmygedd.... A'r gweddiau trosodd, cychwynna'r cantorion eto ragor o garolau, cantorion newydd, hen garolau mewn unawdau, deuawdau, triawdau, cytganau, yna distawrwydd yn y gynulleidfa, wedi ei dorri ar seibiau priodol gan rwystrus furmur yr hyfrydwch a'r gymeradwyaeth, nes rhwng wyth a naw, a newyn yn dweud ar y cantorion, y mae'r Plygain drosodd a thery'r Clych ganiad llawn.

Canu plygain heddiw

Mae'r traddodiad yn parhau'n fyw ym Maldwyn, ac yn yr ardaloedd canlynol:

Dolenni allanol

Cyfeiriadau

  1. http://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?plygain
  2. gwefan Sain Ffagan