Llanferres: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Eglwys Sant Berres, Llanferres
Llinell 6: Llinell 6:
[[Pentref]] bychan, cymuned a phlwyf yn [[Sir Ddinbych]], gogledd-ddwyrain [[Cymru]], yw '''Llanferres'''. Mae'n gorwedd wrth droed llethrau dwyreiniol [[Bryniau Clwyd]], ar y briffordd [[A494]], tua hanner ffordd rhwng [[Yr Wyddgrug]] i'r gogledd-ddwyrain a [[Rhuthun]] i'r de-orllewin.
[[Pentref]] bychan, cymuned a phlwyf yn [[Sir Ddinbych]], gogledd-ddwyrain [[Cymru]], yw '''Llanferres'''. Mae'n gorwedd wrth droed llethrau dwyreiniol [[Bryniau Clwyd]], ar y briffordd [[A494]], tua hanner ffordd rhwng [[Yr Wyddgrug]] i'r gogledd-ddwyrain a [[Rhuthun]] i'r de-orllewin.


Saif y pentref ar lan orllewinol [[Afon Alun]]. I'r gorllewin ceir [[bryngaer]] [[Foel Fenlli]].
Saif y pentref ar lan orllewinol [[Afon Alun]]. I'r gorllewin ceir [[bryngaer]] [[Foel Fenlli]]. yng nghanol y penterf mae [[Eglwys Sant Berres, Llanferres]], a godwyd yn wreiddiol yn yr [[Oesoedd Canol]].


Yn yr Oesoedd Canol roedd y [[plwyf]] yn rhan o [[cwmwd|gwmwd]] [[Iâl]], yn nheyrnas [[Teyrnas Powys|Powys]] ([[Powys Fadog]]).
Yn yr Oesoedd Canol roedd y [[plwyf]] yn rhan o [[cwmwd|gwmwd]] [[Iâl]], yn nheyrnas [[Teyrnas Powys|Powys]] ([[Powys Fadog]]).

Fersiwn yn ôl 08:05, 7 Hydref 2015

Llanferres
Sir Ddinbych

Pentref bychan, cymuned a phlwyf yn Sir Ddinbych, gogledd-ddwyrain Cymru, yw Llanferres. Mae'n gorwedd wrth droed llethrau dwyreiniol Bryniau Clwyd, ar y briffordd A494, tua hanner ffordd rhwng Yr Wyddgrug i'r gogledd-ddwyrain a Rhuthun i'r de-orllewin.

Saif y pentref ar lan orllewinol Afon Alun. I'r gorllewin ceir bryngaer Foel Fenlli. yng nghanol y penterf mae Eglwys Sant Berres, Llanferres, a godwyd yn wreiddiol yn yr Oesoedd Canol.

Yn yr Oesoedd Canol roedd y plwyf yn rhan o gwmwd Iâl, yn nheyrnas Powys (Powys Fadog).

Chwedl werin

Mae Morfudd ferch Urien a'i brawd Owain ab Urien yn ymddangos mewn hen chwedl werin Gymraeg a gysylltir a rhyd yn y plwyf a elwid yn Rhyd-y-gyfarthfa. Byddai holl gŵn y wlad yn dod yno i gyfarth, ond ni feiddiai neb fynd yno i weld beth oedd yn ei achosi nes i Urien Rheged fynd, a darganfod merch yn golchi dillad. Cafodd Urien ryw gyda'r ferch yn y rhyd, ac yna dywedodd hi ei bod yn ferch i frenin Annwn, a bod tynged arni i olchi wrth y rhyd nes cael mab gan Gristion. Dywedodd wrth Urien am ddychwelyd ymhen blwyddyn, a phan ddaeth, cyflwynodd hi ddau blentyn iddo, Owain a Morfudd.

Enwogion

Ganwyd yr ysgolhaig ac awdur Dr John Davies (c. 1567 - 1644), a adwaenir fel Dr John Davies, Mallwyd, yn Llanferres tua'r flwyddyn 1567.

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanferres (pob oed) (827)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanferres) (162)
  
20.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanferres) (337)
  
40.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanferres) (93)
  
30.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.


Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Ddinbych. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato