Comin Wicimedia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
delwedd |
ehangu |
||
Llinell 16: | Llinell 16: | ||
==Ffeiliau o Gymru== |
==Ffeiliau o Gymru== |
||
Ymhlith y miloedd o ffeiliau o Gymru, yn Chwefror 2014 uwchlwythwyd holl ffotograffau [[John Thomas (ffotograffydd)|John Thomas]] wedi i [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru|Lyfrgell Genedlaethol Cymru]] ddatgan nad ydynt yn berchennog ar y ffeiliau hynny alan o hawlfraint. Mae'r ffotograffau hyn i'w gweld [[Commons:Category:Photographs by John Thomas|yma]]. |
Ymhlith y miloedd o ffeiliau o Gymru, yn Chwefror 2014 uwchlwythwyd holl ffotograffau [[John Thomas (ffotograffydd)|John Thomas]] wedi i [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru|Lyfrgell Genedlaethol Cymru]] ddatgan nad ydynt yn berchennog ar y ffeiliau hynny alan o hawlfraint. Mae'r ffotograffau hyn i'w gweld [[Commons:Category:Photographs by John Thomas|yma]]. |
||
==Dolennu gydag erthyglau Wicipedia== |
|||
Mae 'galw' delwedd i fewn i erthygl ar Wicipedia yn hawdd, gan mai'r cwbwl sydd angen ei wneud ydy galw ei enw o fewn cromfachau sgwâr e.e. <nowiki>[[Delwedd|Dafydd-Iwan-Portrait_by-Aberdare-Blog.jpg|bawd]]</nowiki>; mae'r geiryn 'bawd' yn lleihau'r maint i'r maint arferol. Gall y ddelwedd fod ar Gomin neu ar y Wicipedia. Mae'r lluniau sydd ar Comin ar gael ar unrhyw un o'r 290+ Wicipedia, ond mae llun a uwchlwythir ar y Wicipedia Cymraeg ar gael yn yr iaith honno'n unig (e.e. cloriau llyfrau). |
|||
Ar waelod llawer o erthyglau ar Wicipedia ceir baner ar ffurf petrual, sy'n ei gwneud yn hawdd i ddolennu gyda Chomin. Gellir dolennu gyda thudalen ar Comin neu gyda Chategori ar Comin. I ddolennu gydag erthygl ar Comin gellir ychwanegu'r Nodyn hwn: <nowiki>{{Comin|Dafydd Iwan}}</nowiki>. Os oes Categori o luniau ar Comin, gellir ychwanegu dolen i'r Categori hwnnw: e.e. <nowiki>{{CominCat|Corduliidae}}</nowiki>. [[Delwedd:Comin Cord.PNG|frameless|upright=1.8|alt=Nodyn Comin|Nodyn Comin]] Gan mai'r Saesneg yw iaith ''de facto'', rhyngwladol Comin, dylid nodi'r enw yn yr iaith sydd ar Comin e.e. <nowiki>{{CominCat|Assemblea Nacional Catalana}}</nowiki> ac NID <nowiki>{{CominCat|Cynulliad Cenedlaethol Catalonia}}</nowiki>. |
|||
==Gweler hefyd== |
==Gweler hefyd== |
Fersiwn yn ôl 09:56, 30 Awst 2015
Ystorfa rydd o ddelweddau, ffeiliau sain ac amlgyfrwng eraill yw Comin Wikimedia (Wikimedia Commons, hefyd "Commons" neu "Wikicommons"). Un o brosiectau Sefydliad Wikimedia yw hi, a gellir gweld prosiectau eraill Sefydliad Wikimedia, e.e. Wicipedia, Wiciadur a Wicilyfrau, yn defnyddio ffeiliau sydd wedi cael eu huwchlwytho i'r ystorfa fel ffeiliau lleol.
Hanes
Lansiodd y prosiect ar 7 Medi 2004. Ym mis Tachwedd 2004, cafodd y 10,000fed ffeil ei huwchlwytho.
Ar 25 Tachwedd 2009, rhoddodd y Tropenmuseum, Amsterdam rodd o 35,000 o ddelweddau sy'n ymwneud ag Indonesia a'i diwylliant i Gomin Wikimedia. Ar ddiwedd Rhagfyr 2009 dechreuwyd trosglwyddo tua 1.5 miliwn o ddelweddau o dirwedd ac aneddiadau gwledydd Prydain o wefan geograph.or.uk i'r Comin.
Ieithoedd
Prif iaith y Comin yw Saesneg, ond mae'n bosibl ffurfweddu'r rhyngwyneb (yn newisiadau'r defnyddiwr) i ddefnyddio unrhyw iaith arall. Mae rhai o'r tudalennau wedi cael eu cyfieithu i mewn i ieithoedd eraill e.e. yr Hafan yn Gymraeg.
Hawlfreintiau
Dydy Comin Wikimedia ddim yn caniatau uwchlwythiadau o dan drwydded di-rydd, yn cynnwys trwyddedau sydd yn cyfyngu arferiadau masnachol o faterion, neu "fair use". Mae trwydded dderbyniol yn cynnwys y Drwydded Ddogfen Rydd GNU, amrywiadau Creative Commons heblaw cyfyngiadau ar arferiadau masnachol, a'r parth cyhoeddus.
Ffeiliau o Gymru
Ymhlith y miloedd o ffeiliau o Gymru, yn Chwefror 2014 uwchlwythwyd holl ffotograffau John Thomas wedi i Lyfrgell Genedlaethol Cymru ddatgan nad ydynt yn berchennog ar y ffeiliau hynny alan o hawlfraint. Mae'r ffotograffau hyn i'w gweld yma.
Dolennu gydag erthyglau Wicipedia
Mae 'galw' delwedd i fewn i erthygl ar Wicipedia yn hawdd, gan mai'r cwbwl sydd angen ei wneud ydy galw ei enw o fewn cromfachau sgwâr e.e. [[Delwedd|Dafydd-Iwan-Portrait_by-Aberdare-Blog.jpg|bawd]]; mae'r geiryn 'bawd' yn lleihau'r maint i'r maint arferol. Gall y ddelwedd fod ar Gomin neu ar y Wicipedia. Mae'r lluniau sydd ar Comin ar gael ar unrhyw un o'r 290+ Wicipedia, ond mae llun a uwchlwythir ar y Wicipedia Cymraeg ar gael yn yr iaith honno'n unig (e.e. cloriau llyfrau).
Ar waelod llawer o erthyglau ar Wicipedia ceir baner ar ffurf petrual, sy'n ei gwneud yn hawdd i ddolennu gyda Chomin. Gellir dolennu gyda thudalen ar Comin neu gyda Chategori ar Comin. I ddolennu gydag erthygl ar Comin gellir ychwanegu'r Nodyn hwn: {{Comin|Dafydd Iwan}}. Os oes Categori o luniau ar Comin, gellir ychwanegu dolen i'r Categori hwnnw: e.e. {{CominCat|Corduliidae}}. Gan mai'r Saesneg yw iaith de facto, rhyngwladol Comin, dylid nodi'r enw yn yr iaith sydd ar Comin e.e. {{CominCat|Assemblea Nacional Catalana}} ac NID {{CominCat|Cynulliad Cenedlaethol Catalonia}}.