Ymladd teirw: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
newydd
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 15:16, 24 Awst 2015

Bullwrestling, Édouard Manet, 1865–1866
Ymladd teirw yng nghymunedau hunanlywodraethol Sbaen yn 2012.
• Dylid nodi'r eithriadau megis ardal Pamplona yng ngogledd Navarre a Bilbao ac yng Gwlad y Basg, lle cynhelir gornestau yn ystod eu gwyliau blynyddol yn unig.
• Yn 1991, daeth Yr Ynysoedd Dedwydd y Gymuned Hunanlywodraethol Sbaenaidd cyntaf i wahardd ymladd teirw, gyda Catalonia yn dilyn yn Ionawr 2012.

Talwrn draddodiadol a welir yn Sbaen, Portiwgal, de Ffrainc ac mewn rhai gwledydd America Ladin (megis Mecsico, Columbia, Feneswela a Pheriw[1] ydy ymladd teirw. Yn rhan o'r sioe, ymladda un dyn neu fwy yn erbyn tarw neu deirw mewn maes ymladd teirw. Er ei fod, yn ei hanfod, yn chwaraeon gwaed, caiff ei ystyried fel 'ceflyddyd gain' gan gefnogwyr y talwrn, ac nid fel chwaraeon[2] am nad oes elfen o gystadleuaeth i'r ornest.

Mae'r ornest ei hun yn cynnwys toreros proffesiynol (gyda'r torero mwyaf profiadol, sef y matador) yn lladd y tarw ei hun. Gwna hyn gan ddefnyddio ystod o symudiadau ffurfiol, sydd ag ystyron ac enwau gwahanol, yn unol ag arddull neu ysgol hyfforddiant y matador. Mae agosatrwydd yr ymladdwr teirw at yr anifail yn ei osod mewn perygl o gael ei gornio neu'i ddamsgen arno. Ar ol i'r tarw gael ei fachu sawl gwaith tu ol i'w ysgwydd gan y matadors eraill yn yr ymrysonfa, daw'r talwrn i ben gyda'r tarw'n cael ei ladd gydag un hyrddiad terfynol gan gleddyf. Gelwir hyn yr estocada. Ym Mhortiwgal, gelwir y diweddglo y pega, lle mae'r dynion (forcados) yn ceisio gafael yng nghyrn y tarw wrth iddo redeg tuag atynt.

Mae yna nifer o feysydd ymladd teirw ym Mhenrhyn Iberia, Ffrainc ac America Ladin. Y ganolfan fwyaf o'i math yw Plaza México yng nghanol Dinas Mecsico, sy'n dal 48,000 o bobl,[3] a'r hynaf yw'r La Maestranza yn Seville, Sbaen, lle cynhaliwyd yr ornest ymladd teirw cyntaf yn 1765.[4]

Ceir ymladd teirw nad yw'n angeuol tu hwnt i Sbaen a Ffrainc, gan gynnwys arfer y Tamil Nadu o jallikattu; a'r mchezo wa ngombe Portiwgaleg (sef y gair Kiswahili am "sbort gyda tharw") a gaiff ei ymarfer ar Ynys Pemba yn Tansania a Zanzibar. Ceir enghreifftiau hefyd o deirw'n ymladd teirw eraill yn hytrach na phobl yn y Balcans, Twrci, Gwlff Persia, Bangladesh, Japan, Periw a Chorea. Dylanwadodd ymladd teirw Sbaenaidd ar sawl ardal o Orllewin yr Unol Daleithiau a gellir gweld hyn mewn gornestau rodeo megis rhaffu lloi a marchogaeth teirw hefyd.

Cyfeiriadau