Cerdd Dafod: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: '''Cerdd Dafod''' yw'r grefft o brydyddu neu gyfansoddi barddoniaeth Gymraeg mewn cyferbyniaeth â Cherdd Dant (celfyddyd y cerddor). Enw arall arni yw '''Cerddwriaeth...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 14:40, 15 Gorffennaf 2007

Cerdd Dafod yw'r grefft o brydyddu neu gyfansoddi barddoniaeth Gymraeg mewn cyferbyniaeth â Cherdd Dant (celfyddyd y cerddor). Enw arall arni yw Cerddwriaeth.

Hen ystyr y gair 'cerdd' oedd "crefft" neu "gelfyddyd", ond disodlwyd y gair yn yr ystyr honno gan y gair benthyg 'crefft' yn yr Oesoedd Canol (ceir 'cerdd' yn golygu 'crefft' yn Culhwch ac Olwen ond 'crefft' yn hytrach na 'cherdd' ym Mhedair Cainc y Mabinogi, sy'n ddiweddarach).

Er bod y term yn hen, Syr John Morris-Jones oedd y person cyntaf i ddosbarthu rheolau'r grefft yn ei gyfrol bwysig Cerdd Dafod, a gyhoeddwyd yn 1925.

Llyfryddiaeth

  • John Morris-Jones, Cerdd Dafod sef Celfyddyd Barddoniaeth Gymraeg (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1925)

Gweler hefyd


 Mae'r erthygl hon yn Eginyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ei datblygu.