Hunan leddfu: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 31: Llinell 31:
== Deddf Gwlad ==
== Deddf Gwlad ==
Yn y Ddeyrnas Unedig, mae mastyrbio yn gyhoeddus yn anghyfreithlon o dan Adran 28 o Ddeddf Cymalau Dref yr Heddlu 1847. Gall y gosb fod hyd at 14 diwrnod yn y carchar. Yn gyffredinol  mae'r ddeddf yn cael ei ddefnyddio i erlyn y sawl sy'n hunan leddfu'n gyhoeddus, ond mewn theori y mae'n parhau'n anghyfreithiol i ŵr hunan leddfu yng ngŵydd ei briod / partner sifil.
Yn y Ddeyrnas Unedig, mae mastyrbio yn gyhoeddus yn anghyfreithlon o dan Adran 28 o Ddeddf Cymalau Dref yr Heddlu 1847. Gall y gosb fod hyd at 14 diwrnod yn y carchar. Yn gyffredinol  mae'r ddeddf yn cael ei ddefnyddio i erlyn y sawl sy'n hunan leddfu'n gyhoeddus, ond mewn theori y mae'n parhau'n anghyfreithiol i ŵr hunan leddfu yng ngŵydd ei briod / partner sifil.

Mae nifer o eiriaduron Cymraeg o'r 19eg ganrif yn defnyddio'r gair '''Llathryd''' ar gyfer [[Trais rhywiol|treisio merch yn rhywiol (rape)]] a '''Llaw Lathryd''', ar gyfer wancio.<ref>Thomas Richards, Antiquæ Linguæ Britannicæ, 1839</ref><ref>Geiriadur Llogell Cymreig a Seisonig, Ellis Jones,W. Potter & Company, 1840<ref>


== Nodiadau ==
== Nodiadau ==

Fersiwn yn ôl 04:59, 15 Awst 2015

Dyn yn hunan leddfu.
Delwedd:Masturbating Amy.jpg
Hunan leddfu.

Halio (neu'n ar lafar: wancio[1]; hefyd cilddyrnu neu mwdwlwasgu) yw'r weithred o gyffroi'r organau rhywiol, fel arfer i bwynt orgasm a hynny gan y person ei hun neu arall. Mae'n rhan o set ehangach o weithredoedd a adnabyddir fel awtoserchyddiaeth, sydd hefyd yn cynnwys defnyddio tegannau rhyw a symbylu an-genhedlol. Mae yna hefyd beiriannau halio sy'n cael eu defnyddio i efelychu cyfathrach rywiol er mwyn pleser. Pan fo'r weithred hwn yn digwydd gan fwy nag un person fe ddywedir eu bônt yn cyd-halio (Saesneg: Mutual masturbation).

Hunan leddfu a chyfathrach rywiol yw'r arferion rhywiol mwyaf cyffredin, ond nid ydynt yn cyd-anghynhwysol (er enghraifft, mae nifer o bobl yn gweld golwg eu partner yn hunan leddfu yn hynod o nwydol). Gall rhai bobl gyrraedd orgasm dim ond drwy hunan leddfu. Yn nheyrnas yr anifeiliaid, mae hunan leddfu i'w weld mewn sawl rhywogaeth mamal, yn yr anial ac mewn caethiwed.

Benywaidd

Cyd-leddfu.
Modrwy gwrth wancio

Prif organ rhywiol benywaidd yw'r clitoris, ac mae rhan o hunan leddfu benywaidd ynymwneud â chosi neu rwbio'r clitoris fel arfer. Mae rhai merched yn rhoi cala goeg yn eu gweiniau, cryno ddic neu'n defnyddio eu bysedd i greu'r pleser hwn.

Ar yr un pryd mae rhai'n hoffi cael eu brestiau neu anws wedi'u rhwbio, yn aml efo olew. Mae erill yn medru croesi eu coesau a gwasgu cyhyrau eu cluniau at eu gilydd er mwyn cael cyffro. Weithiau maen nhw'n gwneud hyn yn gyhoeddus, heb i neb wybod. [2][3]

Gwrywaidd

Mae bechgyn yn gafael yn eu codiad ac yn ei rwbio er mwyn cael yr un effaith.

Pechod Onan

Onania; or the heinous sin of self-pollution, title page. Wellcome L0020235

Ceir hanes Onan yn Llyfr Genesis yn y Beibl:

Gen 38:8 Yna dywedodd Jwda wrth Onan, "Dos at wraig dy frawd, ac fel brawd ei gŵr cod deulu i'th frawd".

Gen 38:9 Ond gwyddai Onan nad ei eiddo ef fyddai'r teulu; ac felly, pan âi at wraig ei frawd, collai ei had ar lawr, rhag rhoi plant i'w frawd.

Gen 38:10 Yr oedd yr hyn a wnaeth yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD, a pharodd iddo yntau farw.

Gan hynny ystyrid colli had ar lawr neu Onaniaeth (trwy hunan leddfu, er enghraifft) yn bechod gan yr Eglwys. Credwyd gan rai bod y bechod o hunan leddfu yn gallu arwain at afiechydon megis dallineb neu orffwylltra.

Gan fod hunan leddfu yn bechod cyffredinol ymysg gwyr ifanc dyfeisiwyd teclynnau i'w rhwystro rhag wancio a'u hamddiffyn rhag ddallineb a / neu orffwlldra megis y Jugum Penis Ring. Teclyn dur i'w osod ar y bidlan llipa cyn mynd i'r gwely, efo dannedd dur byddai'n brathu'r pidlan o gael codiad. Defnyddiwyd y fath modrwyau yn gyffredinol mewn ysbytai meddwl hyd y 1920au ac mewn rhai cartrefi crefyddol hyd y 1960au.

Deddf Gwlad

Yn y Ddeyrnas Unedig, mae mastyrbio yn gyhoeddus yn anghyfreithlon o dan Adran 28 o Ddeddf Cymalau Dref yr Heddlu 1847. Gall y gosb fod hyd at 14 diwrnod yn y carchar. Yn gyffredinol  mae'r ddeddf yn cael ei ddefnyddio i erlyn y sawl sy'n hunan leddfu'n gyhoeddus, ond mewn theori y mae'n parhau'n anghyfreithiol i ŵr hunan leddfu yng ngŵydd ei briod / partner sifil.

Mae nifer o eiriaduron Cymraeg o'r 19eg ganrif yn defnyddio'r gair Llathryd ar gyfer treisio merch yn rhywiol (rape) a Llaw Lathryd, ar gyfer wancio.[4]<ref>Geiriadur Llogell Cymreig a Seisonig, Ellis Jones,W. Potter & Company, 1840<ref>

Nodiadau

  1. O Boisib o'r Gymraeg: Geiriadur Prifysgol Cymru [1] Gwancio Deheu'n angerddol; Ellis Wynne Rheol Buchedd Sanctaidd: Y sawl a wancio ychwaneg na allo trwy gymmedrolder ei craffu
  2. Koedt, Anne (1970). "The Myth of the Vaginal Orgasm". Chicago Women's Liberation Union. Cyrchwyd 2010-11-18.
  3. The Kinsey Institute Data from Alfred Kinsey's studies. Published online.
  4. Thomas Richards, Antiquæ Linguæ Britannicæ, 1839
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Eginyn erthygl sydd uchod am rywioldeb. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato