Llosgfynydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B →Llosgfynyddoedd Cymru: remove redundant template, link FA now managed from Wikidata, removed: {{Cyswllt erthygl ddethol|eo}} (4) using AWB |
Pwyll (sgwrs | cyfraniadau) manion |
||
Llinell 8: | Llinell 8: | ||
== Echdoriadau diweddar == |
== Echdoriadau diweddar == |
||
[[Delwedd:Pelean Eruption-numbers.svg|bawd|chwith|Diagram o echdoriad yn Hawaii. 1. Lludw 2. Lafa 3. Ceudwll 4. Pwll lafa 5. ''Fumaroles'' 6. Llif y lafa 7. Haenau o lafa a lludw <br />8. Stratwm 9. Silff 10. Sianel fagma 11. Siambr fagma 12. Deic]] |
[[Delwedd:Pelean Eruption-numbers.svg|bawd|chwith|Diagram o echdoriad yn Hawaii. 1. Lludw 2. Lafa 3. Ceudwll 4. Pwll lafa 5. ''Fumaroles'' 6. Llif y lafa 7. Haenau o lafa a lludw <br />8. Stratwm 9. Silff 10. Sianel fagma 11. Siambr fagma 12. Deic]] |
||
Llosgfynydd yn [[Gwlad yr Iâ]] ydy [[Eyjafjallajökull]] ac fe achosodd gryn anhwylustod i deithio awyr drwy Ewrop yng ngwanwyn 2010. Chwythodd gwynt y gogledd ei lwch dros wledydd Prydain yn Ebrill a Mai pan waharddwyd awyrennau rhag hedfan. Ym Mai 2011 ffrwydrodd llosgfynydd arall |
Llosgfynydd yn [[Gwlad yr Iâ]] ydy [[Eyjafjallajökull]] ac fe achosodd gryn anhwylustod i deithio awyr drwy Ewrop yng ngwanwyn 2010. Chwythodd gwynt y gogledd ei lwch dros wledydd Prydain yn Ebrill a Mai pan waharddwyd awyrennau rhag hedfan. Ym Mai 2011 ffrwydrodd llosgfynydd arall ynn Ngwlad yr Iâ, sef [[Grímsvötn]]. Rhyddhawyd mwy o ludw yn ystod y 24 awr cyntaf na wnaeth Eyjafjallajökull drwy gydol ei echdoriad. Roedd y cymylau lludw'n codi hyd at 15 [[kilometr|km]]. Mesurodd VEI4 ar y raddfa berthnasol. |
||
== Llosgfynyddoedd y Byd == |
== Llosgfynyddoedd y Byd == |
Fersiwn yn ôl 14:16, 4 Awst 2015
Caiff llosgfynydd (mynydd tân) ei greu lle mae craig tawdd (magma) yn codi i wyneb y ddaear gan achosi echdoriadau folcanig. Craig wedi ei doddi mwy na 100 km o dan wyneb y Ddaear yw magma sydd wedyn yn dechrau codi tuag at wyneb y ddaear. Pan gyrhaedda'r magma wyneb y ddaear fe lifa neu fe dasga o'r ddaear ar ffurf lafa neu lydw folcanig. Ar wahân i graig tawdd mae lafa yn cynnwys creigiau a nwy.
Gelwir y creigiau sydd yn ffurfio o achos ffrwydriadau folcanig yn Greigiau Igenaidd, er enghraifft Basalt neu Gwenithfaen.
Lleolir llosgfynyddoedd y ddaear lle mae platiau tectonig yn cwrdd neu uwchben mannau poeth. Ar hyn o bryd mae'r mwyafrif o ffrwydriadau llosgfynyddoedd a daeargrynfeydd y ddaear yn digwydd o gwmpas y Môr Tawel, yn dilyn ymylon plât tectonig y Môr Tawel.
Echdoriadau diweddar
Llosgfynydd yn Gwlad yr Iâ ydy Eyjafjallajökull ac fe achosodd gryn anhwylustod i deithio awyr drwy Ewrop yng ngwanwyn 2010. Chwythodd gwynt y gogledd ei lwch dros wledydd Prydain yn Ebrill a Mai pan waharddwyd awyrennau rhag hedfan. Ym Mai 2011 ffrwydrodd llosgfynydd arall ynn Ngwlad yr Iâ, sef Grímsvötn. Rhyddhawyd mwy o ludw yn ystod y 24 awr cyntaf na wnaeth Eyjafjallajökull drwy gydol ei echdoriad. Roedd y cymylau lludw'n codi hyd at 15 km. Mesurodd VEI4 ar y raddfa berthnasol.
Llosgfynyddoedd y Byd
Dyma rai o'r llosgfynyddoedd enwocaf:
- Etna (yr Eidal)
- Eyjafjallajökull (Gwlad yr Iâ)
- Hekla (Gwlad yr Iâ)
- Krakatoa (Rakata, Indonesia)
- Mauna Loa (Hawaii, UDA)
- Mauna Kea (Hawaii, UDA)
- Erebus (Ynys Ross, Antarctica)
- Fuji (Honshu, Siapan)
- Mynydd Rainier (Washington, UDA)
- Mynydd St. Helens (Washington, UDA)
- Unzen (Kyushu, Siapan)
- Mont Pelée (Martinique)
- Novarupta (Alaska, UDA)
- Popocatépetl (Mecsico)
- Surtsey (Gwlad yr Iâ)
- Santorini (Gwlad Groeg)
- Tambora (Sumbawa, Indonesia)
- Teide (Tenerife, Sbaen)
- Vesuvius (Yr Eidal)
Llosgfynyddoedd Cymru
Nid oes llosgfynyddoedd yn ffrwydro yng Nghymru heddiw, ond fe oedd miliynau o flynyddoedd yn ôl. O ganlyniad, mae'n bosib gweld creigiau a lludw folcanig yng Nghymru, er engraifft ar Rhobell Fawr. Fe ddefnyddir y creigiau hyn ar gyfer adeiladu.