Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Crwth"

Jump to navigation Jump to search
Ychwanegwyd 3 beit ,  7 o flynyddoedd yn ôl
refs
(Owain)
(refs)
Hen [[offeryn cerdd]] llinyddol ydy'r '''crwth''', ([[Lladin Llafar]]: ''chrotha''; [[Gaeleg]]: ''cruit''; [[Saesneg]]: ''crwth'' neu ''crowd''; [[Almaeneg]]: ''chrotta'', ''hrotta''). Mae'n eitha tebyg i'r ffidil (neu'r [[fiolin]]), ond fod ganddo fel arfer chwe thant. Caiff ei gannu'n wreiddiol drwy blycio ac yn ddiweddarach gyda [[bwa]] ac mae ganddo ffrâm betrual, bren; y rhan isaf yn flwch sain a'r rhan uchaf gyda thyllau o boptu i'r tannau; byddai'r crythor yn rhoi bysedd ei law chwith trwy'r tyllau hyn er mwyn dal y tannau ac yn symud y bwa â'i law dde. Ceir y cyfeiriad ysgrifenedig cyntaf at y crwth yng [[Cyfreithiau Hywel Dda|Nghyfreithiau Hywel Dda]] yn y 12fed ganrif.<ref>[http://www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/rhagor/erthygl/crwth/ Gwefan Amgueddfa Werin Sain Ffagan; Erthygl ar y crwth] adalwyd 18/04/2013</ref> Cyfeiria'r cyfreithiau hyn at y ffaith mai'r uchelwyr yn bennaf oedd yn ei ganu, fel y pibau a'r delyn.
 
Cafwyd cystadleuaeth cannu'r crwth yn [[Eisteddfod Aberteifi 1176|Eisteddfod]] yr [[Rhys ap Gruffudd|Arglwydd Rhys]] yng [[Castell Aberteifi|Nghastell Aberteifi]] ym 1176, ble urddwyd deunaw crythor. Ceir cywydd gan [[Rhys Goch Eryri]], tua 1436, yn canu clodydd y dewiniaid, yr acrobatiaid a'r cerddorion (gan enwi'r crythwyr) a gai eu croesawu i gartrefi'r uchelwyr. Tua 1600, wrth i sgiliau'r [[saer]] wella, a'r crythau'n haws eu prynnu, gwelir fod gan lawer o'r werin grwth er mwyn adloniant mewn ffeiriau ayb. Yn y 18fed ganrif fe'i ystyriwyd yn un o offerynnau cenedlaethol Cymru (gyda'r delyn a'r pibgorn).<ref>[http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3113689/ART30/crwth Tarian y Gweithiwr;] 12 Tachwedd 1885; Llyfrgell Genedlaethol Cymru; adalwyd 19 Mai 2013.</ref>
 
==Tarddiad y gair==
Goroesodd pedwar crwth:
# [[Sain Ffagan]]: 'Crwth y Foelas. Naddwyd 1742 ar gefn y crwth ac fe'i gwnaed gan Richard Evans o [[Llanfihangel Bachellaeth|Lanfihangel Bachellaeth]], Sir Gaernarfon
# Amgueddfa'r Celfyddydau Cain, Boston: crwth Owain Tudur, [[Dolgellau]] o'r 19fed ganrif<ref>[http://www.mfa.org/collections/object/fiddle-crwth-50242 Delwedd o grwth Owain Tudur], Dolgellau (19fed ganrif); adalwyd</ref>
# Crwth Aberystwyth: mae hwn yn y [[Llyfrgell Genedlaethol]] yn [[Aberystwyth]]
# Crwth Warrington: fe'i cedwir yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Warrington. Mae hwn mewn cyflwr salach na'r tri arall, gyda'r gynffon, y tannau, y byseddfwrdd a'r nyten i gyd ar goll.<ref>[http://www.mfa.org/collections/object/fiddle-crwth-50242 Gwefan Amgueddfa ac Oriel Gelf Warrington]; adalwyd 19 Mai 2013</ref>
 
[[Delwedd:Crwth-in-case.jpg|200px|bawd|Copi modern o grwth Cymreig o'r 18fed ganrif.]]

Llywio