John Talbot Dillwyn Llewellyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 7: Llinell 7:


== Gyrfa wleidyddol ==
== Gyrfa wleidyddol ==
Roedd Llewellyn yn [[Siryfion Morgannwg yn y 19eg Ganrif|Uchel Siryf Morgannwg]] ym 1878 ac yn Faer [[Abertawe]] ym 1891.
Roedd Llewellyn yn [[Siryfion Morgannwg yn y 19eg ganrif|Uchel Siryf Morgannwg]] ym 1878 ac yn Faer [[Abertawe]] ym 1891.


Ym 1889 cafodd ei ethol yn un o aelodau cyntaf Cyngor Sir Forgannwg a chafodd ei ddyrchafu ar ei union yn henadur gan gael ei eil ethol fel henadur eto ym 1895. Gwnaed ef yn Farwnig, Penllergaer a Llangyfelach ym 1890.
Ym 1889 cafodd ei ethol yn un o aelodau cyntaf Cyngor Sir Forgannwg a chafodd ei ddyrchafu ar ei union yn henadur gan gael ei eil ethol fel henadur eto ym 1895. Gwnaed ef yn Farwnig, Penllergaer a Llangyfelach ym 1890.

Fersiwn yn ôl 04:10, 8 Gorffennaf 2015

"Abertawe"
Catŵn yn Vanity Fair, Hydref 1900

Roedd Syr John Talbot Dillwyn Llewellyn-, Barwnig 1af (26 Mai 1836 - 6 Gorffennaf 1927) yn Aelod Seneddol Ceidwadol Cymreig a oedd yn nodedig am ei gysylltiadau â chwaraeon yng Nghymru.

Cefndir ac addysg

Roedd Llewellyn yn fab i'r ffotograffydd a'r gwyddonydd John Dillwyn Llewellyn ac Emma Thomasina Talbot, merch ieuangaf Thomas Mansel Talbot a'r Fonesig Mary (née Fox Strangways) Pen-rhys, ac yn gefnder i William Henry Fox Talbot. Fe'i addysgwyd yng Ngholeg Eton a Choleg Eglwys Crist, Rhydychen.

Gyrfa wleidyddol

Roedd Llewellyn yn Uchel Siryf Morgannwg ym 1878 ac yn Faer Abertawe ym 1891.

Ym 1889 cafodd ei ethol yn un o aelodau cyntaf Cyngor Sir Forgannwg a chafodd ei ddyrchafu ar ei union yn henadur gan gael ei eil ethol fel henadur eto ym 1895. Gwnaed ef yn Farwnig, Penllergaer a Llangyfelach ym 1890.

Safodd Llywellyn fel ymgeisydd Ceidwadol yn isetholiad Gŵyr 1888. Yr oedd rhengoedd y Blaid Ryddfrydol wedi eu heffeithio gan ymgecru parthed dewis ymgeisydd, o'r herwydd llwyddodd Llywellyn i bolio'n dda gan gael ei drechu o drwch blewyn gan David Randell.

Wedi marwolaeth ei ewythr Lewis Llewelyn Dillwyn ym 1892 cafodd Llewellyn ei fabwysiadau fel ymgeisydd Ceidwadol ar gyfer etholaeth Tref Abertawe ond cafodd ei drechu gan yr ymgeisydd Rhyddfrydol Robert John Dickson Burnie. Safodd yn yr un etholaeth yn Etholiad Cyffredinol 1895 gan gipio'r sedd a'i dal hyd 1900, pan gafodd ei drechu eto gan ymgeisydd Rhyddfrydol

Chwaraeon

Roedd cysylltiadau Llewellyn a'r byd chwaraeon yn cynnwys chware fel capten Clwb Criced De Cymru. Ym 1885 fe lwyddodd i ddisodli Iarll Jersey fel llywydd Undeb Rygbi Cymru; swydd y byddai'n dal hyd 1906, pan gafodd ei ddisodli gan Horace Lyne. Dywedodd Lyne ei hun eu bod (URC) 'wedi bod yn hynod o ffodus o gael gŵr bonheddig fel Mr JTD Llewellyn i weithredu fel llywydd '.[1]

Teulu

Priododd Llewellyn ym 1861 a Caroline Julia, merch Syr Michael Hicks Beach, 8fed Barwnig. Priododd eu mab ieuengaf Charles aeres y teulu Venables gan ychwanegu'r cyfenw Venables at ei enw. Daeth yn aelod seneddol dros sir Faesyfed ac yn Uchel Siryf y sir honno.

Marwolaeth

Bu farw Llewellyn yn 1927 a chafodd ei gladdu gyda'i wraig a wrth ymyl ei dad yn Eglwys Dewi Sant Penlle'r-gaer.

Llyfryddiaeth

  • Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Cardiff: University of Wales Press. ISBN 0-7083-0766-3.

Cyfeiriadau

  1. Smith (1980), pg 48.

Doleni allanol

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Robert John Dickson Burnie
Aelod Seneddol Tref Abertawe
18951900
Olynydd:
George Newnes
Teitlau Anrhydeddus
Rhagflaenydd:
Herbert Lloyd
Uchel Siryf Morgannwg
1878-1879
Olynydd:
Richard Knight Prochard