C'mon Midffîld!: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Jogwen (sgwrs | cyfraniadau)
Jogwen (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 29: Llinell 29:


===Cyfres 2===
===Cyfres 2===
*Craig o Arian (DVD2)
*Cân Di Bennill Fwyn (1 awr, DVD2)
*Cân Di Bennill Fwyn (1 awr, DVD2)
*Craig o Arian (DVD2)
*Bryn o Briten (DVD3)
*Bryn o Briten (DVD3)
*Y Gwir yn Erbyn y Byd (DVD3)
*Y Gwir yn Erbyn y Byd (DVD3)
*Gweld Sêr (DVD3)
*Gweld Sêr (DVD3)
*Rhyfal Cartra (DVD3)
*Rhyfal Cartra (DVD3)
*Match o Ddy' De (DVD4)
*Match o' Ddy De (DVD4)


===Cyfres 3===
===Cyfres 3===
Llinell 54: Llinell 54:


===Cyfres 5===
===Cyfres 5===
*Henaint Ni Ddaw Ei Hunan (DVD9)
*Trwy Gicio A Brathu (DVD9)
*Trwy Gicio A Brathu (DVD9)
*Henaint Ni Ddaw Ei Hunan (DVD9)
*Elen Fwyn, Elen Fwyn (DVD10)
*Elen Fwyn, Elen Fwyn (DVD10)
*Mi Af I Briodas Yfory (DVD10)
*Mi Af I Briodas Yfory (DVD10)

Fersiwn yn ôl 14:17, 1 Gorffennaf 2015

Cyfres deledu ddrama a chomedi hynod boblogaidd oedd C'mon Midffîld! Cynhyrchwyd y rhaglen gan Ffilmiau'r Nant a ddarlledwyd gyntaf ar yr 18 Tachwedd 1988 ar S4C.[1] Darlledwyd chwe chyfres dros gyfnod o chwe mlynedd cyn i'r rhaglen ddod i ben yn 1994. Dechreuodd fel rhaglen ar BBC Radio Cymru, a darlledwyd tair cyfres cyn i C'mon Midffîld! symyd i sgriniau teledu ledled y wlad. Y cyfarwyddwr oedd Alun Ffred Jones a gyd-ysgrifennodd y gyfres â Mei Jones, a chwaraeodd y cymeriad poblogaidd Wali Thomas.

Deng mlynedd wedi i'r gyfres olaf gael ei dangos yn 1994, dilynodd C'mon Midffîld! duedd nifer o raglenni comedi Saesneg fel Only Fools and Horses gan ail-ymddangos am un ffilm arbennig amser Nadolig 1994: C'mon Midffîld a Rasbrijam. Er gwaetha adolygiadau cymysg y ffilm, ystyrir C'mon Midffîld! yn un o'r rhaglenni Cymraeg mwyaf poblogaidd yn hanes S4C, ac mae'r grwpp Facebook perthnasol yn brolio dros 2,500 aelod. Nid oes bwriad ar hyn o bryd i ffilmio unrhyw gyfresi pellach ond mae'r gyfres yn cael ei ailddarlledu yn aml ar S4C.

Seiliwyd y rhaglen ar Glwb Pêl-droed Pontrhydfendigaid.[2][3] Yn y gorffennol cynrychiolwyd y clwb penodol gan nifer o gast y rhaglen.

Enillodd y rhaglen wobr 'Y Ddrama Gyfres / Gyfresol Orau' BAFTA Cymru i Mei Jones ac Alun Ffred yn 1992. Enillodd Mei Jones hefyd wobr 'Yr Awdur Gorau Ar Gyfer Y Sgrin - Cymreig' BAFTA Cymru.[4]

Cymeriadau

Penodau

Cyfres 1

  • Y Maes Chwarae (DVD1)
  • Seren Ddisglair (DVD1)
  • Lladron y Nos (DVD1)
  • Traed Moch (DVD1)
  • Y Trip (DVD2)
  • Nadolig Bryncoch (DVD 2) new Nadolig Llawen? (video 2) - yr un pennawd?

Cyfres 2

  • Cân Di Bennill Fwyn (1 awr, DVD2)
  • Craig o Arian (DVD2)
  • Bryn o Briten (DVD3)
  • Y Gwir yn Erbyn y Byd (DVD3)
  • Gweld Sêr (DVD3)
  • Rhyfal Cartra (DVD3)
  • Match o' Ddy De (DVD4)

Cyfres 3

  • Yr Italian Job (DVD4)
  • Il Lavoro In Italia (DVD4)
  • Yn Nhŷ Fy Nhad (DVD5)
  • Tibetans v Mowthwalians (DVD5)

Pa gyfres?

  • O Mam Bach (DVD5)
  • Meibion Bryncoch (DVD7)
  • Trwy Ddirgel Ffyrdd (DVD7)
  • Fe Gei Di Fynd I'r Bôl (DVD7)
  • 'Eira Mân, Eira Mawr' (DVD8)
  • Yr Etholedig Rai (DVD8)
  • Cymorth Hawdd Ei Gael (DVD8)
  • Yr Alffa A'r Omega (DVD9)

Cyfres 5

  • Trwy Gicio A Brathu (DVD9)
  • Henaint Ni Ddaw Ei Hunan (DVD9)
  • Elen Fwyn, Elen Fwyn (DVD10)
  • Mi Af I Briodas Yfory (DVD10)
  • Y Cocyn Hitio (DVD10)
  • Dechrau'r Diwedd (DVD10)

Rhaglenni/Ffilmiau Unigol

  • C'mon Midffîld a Rasbrijam
  • Doli Bryncoch
  • Midffîld - Y Mwfi

Rhyddhau

Rhyddhawyd y gyfres mewn set o 10 DVD rhwng 2005 [1] a 2007.

Ffynonellau

  1. 1.0 1.1 C'Mon Midffild? This is a friend Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru
  2. 'Clwb pêl-droed yn dathlu 60' BBC 11 Mehefin 2007
  3. 'Dathlu 60 mlynedd o glwb Y Bont' BBC 22 Gorffennaf 2007
  4. Enillwyr gwobrau ar wefan Ffilmiau'r Nant
Eginyn erthygl sydd uchod am deledu. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato