Crwst: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 14: Llinell 14:

=== Crwst pwff ===
=== Crwst pwff ===
[[Delwedd:Making puff pastry (butter) 3.jpg|bawd|Lapio menyn gyda chrwst pwff.]]
Defnyddir blawd a menyn, a weithiau ychydig o [[sudd lemwn]] i wneud crwst pwff. Defnyddir llai o fenyn i wneud crwst pwff bras. Nid yw crwst pwff bras yn codi cymaint â chrwst pwff, ond mae'n haws i'w wneud.<ref name=GH33>''Food Encyclopedia'' (2009), tt. 433.</ref>

Llinell 20: Llinell 21:

=== Crwst ''choux'' ===
=== Crwst ''choux'' ===
[[Delwedd:Profiterole by Swanksalot.jpg|bawd|[[Proffiterol]]iau: pyffiau hufen a [[saws siocled]].]]
[[Delwedd:Liebesknochen3a.JPG|bawd|''[[Éclair]]'' siocled wedi ei dorri'n hanner.]]
Gwneir crwst ''choux'' drwy gymysgu blawd, halen, menyn, a dŵr berwedig gan ffurfio toes caled, ac ychwanegu [[wy (bwyd|wyau]] cyfan drwy guro. Pobir darnau bychain o'r toes ar [[astell bobi|estyll pobi]], ar dymheredd uchel i gychwyn. Ffurfir swigoed aer wrth gymysgu'r toes, ac mae'r rhain yn chwyddo'n gyflym wrth bobi. O ganlyniad mae'r tu mewn yn llawn tyllau mawr a ellir eu llenwi gyda chynhwysion melys, megis [[hufen chwip]] i wneud [[pwff hufen|pyffiau hufen]], neu sawrus, megis [[berdys]] mewn saws i wneud ''voul-au-vents''. Mae tu allan y crwst yn ceulo wrth bobi ac yn weddol galed ac yn lliw brown.<ref name=EB2>{{dyf Britannica |url=http://www.britannica.com/EBchecked/topic/49594/baking/50221/Puff-pastry |teitl=baking: puff pastry, chou paste |dyddiadcyrchiad=5 Mehefin 2015 }}</ref>

=== Ffilo a strwdel ===
=== Ffilo a strwdel ===
[[Delwedd:Strudel44.jpg|bawd|chwith|Strwdel afal.]]
Defnyddir blawd glwten-uchel, wyau, a chymhareb uwch na'r arfer o hylif i wneud toes hydrin a ellir ei rolio neu dynnu'n denau iawn. Mae hyn yn rhoi iddo gryfder tynnol sy'n addas i wneud crystiau megis [[ffilo]] a [[strwdel]].<ref name=EB/>

Fersiwn yn ôl 17:08, 5 Mehefin 2015

Ffenestr siop grystiau Ffrengig.
Palmiers, bisgedi siwgr a wneir o grwst pwff.

Bwyd pob a wneir o does yw crwst. Gwneir y toes o flawd, halen, cymhareb uchel o fraster, ac ychydig o hylif. Gall hefyd gynnwys siwgr a chynhwysion eraill i flasu.[1] Y prif fathau o does a ddefnyddir i wneud crystiau yw crwst brau, crwst pwff, crwst haenog, a chrwst choux, a cheir hefyd sbwnj Génoise a chrystiau bras a lefeinir gyda burum megis brioche.[2]

Melysfwydydd yw'r mwyafrif o grystiau, ond ceir rhai crystiau sawrus megis voul-au-vents, bouchées, a rholiau selsig. Bwyteir crystiau melys am bwdin ac hefyd am damaid gyda choffi yng nghanol y bore neu am de'r prynhawn.[2]

Geirdarddiad

Daw'r gair Cymraeg "crwst" o'r gair Saesneg Canol crouste.[3]

Mathau o grwst

Crwst brau

Crwst brau yw'r crwst a ddefnyddir amlaf. Defnyddir cymhareb 2:1 o flawd i fraster. Os menyn yw'r braster ceir crwst bras, os saim llysiau gwyn yw'r braster ceir ansawdd dda. Ceir nifer o amrywiadau drwy ychwanegu cynhwysion, gan gynnwys crwst gwenith cyflawn, crwst cnau, crwst caws, crwst perlysiau, crwst olewydd, a chrwst hadau pabi.[4] Caiff y cynhwysion eu cyfuno'n dda fel bo'r crwst pob yn frau ac yn fain ei ansawdd, ac yn tueddu i falu'n friwsion yn hytrach na haenau.[1] Mae crwst brau melys yr un â chrwst brau, ond yn cynnwys siwgr, a weithiau melynwy. Defnyddir i wneud tartenni a pheis melys.[4] Mae'r crwst Ffrengig pate sucrée yn enghraifft o grwst brau sy'n cynnwys siwgr a melynwy.[5]

Crwst pwff

Lapio menyn gyda chrwst pwff.

Defnyddir blawd a menyn, a weithiau ychydig o sudd lemwn i wneud crwst pwff. Defnyddir llai o fenyn i wneud crwst pwff bras. Nid yw crwst pwff bras yn codi cymaint â chrwst pwff, ond mae'n haws i'w wneud.[6]

Crwst haenog

Cymysgir blawd glwten-isel gyda menyn, bloneg, neu saim llysiau i dorri'r braster yn ddarnau. Defnyddir ychydig iawn o hylif, a chaiff y toes ei drin yn ysgafn. Math eithriadol o grwst haenog yw pâte feuilletée, a wneir drwy blygu ac ailblygu crwst llawn menyn gan ffurfio cannoedd o haenau o flawd a menyn sy'n codi yn y ffwrn yn 12 gwaith ei uchder.[1]

Crwst choux

Proffiteroliau: pyffiau hufen a saws siocled.
Éclair siocled wedi ei dorri'n hanner.

Gwneir crwst choux drwy gymysgu blawd, halen, menyn, a dŵr berwedig gan ffurfio toes caled, ac ychwanegu wyau cyfan drwy guro. Pobir darnau bychain o'r toes ar estyll pobi, ar dymheredd uchel i gychwyn. Ffurfir swigoed aer wrth gymysgu'r toes, ac mae'r rhain yn chwyddo'n gyflym wrth bobi. O ganlyniad mae'r tu mewn yn llawn tyllau mawr a ellir eu llenwi gyda chynhwysion melys, megis hufen chwip i wneud pyffiau hufen, neu sawrus, megis berdys mewn saws i wneud voul-au-vents. Mae tu allan y crwst yn ceulo wrth bobi ac yn weddol galed ac yn lliw brown.[7]

Ffilo a strwdel

Strwdel afal.

Defnyddir blawd glwten-uchel, wyau, a chymhareb uwch na'r arfer o hylif i wneud toes hydrin a ellir ei rolio neu dynnu'n denau iawn. Mae hyn yn rhoi iddo gryfder tynnol sy'n addas i wneud crystiau megis ffilo a strwdel.[1]

Ar draws y byd

Gorllewin Ewrop

Yng Ngwledydd Prydain mae crystiau yn cynnwys byns a lefeinir gyda burum. Ar y cyfandir, ceir strwdelau, crystiau cnau, merángs, a chrystiau Danaidd.[2]

Datblygodd traddodiad cywrain a soffistigedig o wneud crystiau yn Ffrainc, y Swistir ac Awstria, gyda phwyslais ar gynhwysion o'r ansawdd gorau a gwaith llaw gofalus a glân, a dilynir y broses hon ar draws y byd heddiw. Yn ôl y traddodiad hwn, mae toes neu deisen yn ffurfio sail i'r crwst, a rhoddir blasau ac ansoddau gwrthgyferbyniol gan lenwi gyda jam, hufen, crème pâtissière, neu gwstard, ac yn aml ychwanegir ffondant, siocled, neu eisin.[2]

Mae crystiau Sbaen a Phortiwgal yn llawn wyau, tra bo crystiau'r Eidal yn tueddu i gynnwys cymysgeddau o gnau ac nid cymaint o gynnyrch llaeth.[2]

Dwyrain Ewrop a'r Dwyrain Canol

Dylanwadwyd traddodiad crystiau yn Nwyrain Ewrop a'r Dwyrain Canol gan goginiaeth Otomanaidd, sef crystiau ffilo megis y baclafa.[2]

De a Dwyrain Asia

Ceir rhai crystiau yng nghoginiaeth India. Nid yw crystiau yn gyffredin iawn yn Tsieina, ac eithrio lloerdeisenni.[2]

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 (Saesneg) pastry (food). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 5 Mehefin 2015.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 2.6 Davidson, Alan. The Oxford Companion to Food (Rhydychen, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2006), t. 585.
  3.  crwst. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 27 Rhagfyr 2014.
  4. 4.0 4.1 Good Housekeeping Food Encyclopedia (Llundain, Collins & Brown, 2009), t. 432.
  5. (Saesneg) Pastry recipes. BBC Food. Adalwyd ar 5 Mehefin 2015.
  6. Food Encyclopedia (2009), tt. 433.
  7. (Saesneg) baking: puff pastry, chou paste. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 5 Mehefin 2015.