Rhamantiaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dexbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Removing Link GA template (handled by wikidata)
Billinghurst (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎Cyfeiriadau: remove redundant template, link FA now managed from Wikidata, removed: {{Link FA|sv}} using AWB
Llinell 35: Llinell 35:
[[Categori:Mudiadau celf]]
[[Categori:Mudiadau celf]]
[[Categori:Mudiadau llenyddol]]
[[Categori:Mudiadau llenyddol]]
{{Link FA|sv}}

Fersiwn yn ôl 14:50, 30 Mai 2015

Der Wanderer über dem Nebelmeer gan Caspar David Friedrich (1818).
La Mort de Sardanapale gan Eugène Delacroix (1827).
Der Morgen gan Philipp Otto Runge (1808).

Mudiad celfyddydol, llenyddol, a deallusol a ddechreuodd yn Ewrop ar ddiwedd y 18fed ganrif ac yr oedd ar ei anterth o 1800 hyd 1850 oedd Rhamantiaeth. Roedd yn rhannol yn adwaith i'r Chwyldro Diwydiannol,[1] ond hefyd yn wrthryfel yn erbyn normau cymdeithasol a gwleidyddol aristocrataidd yn Oes yr Oleuo ac yn adwaith i resymoli gwyddonol natur.[2] Yn bennaf yr oedd yn fudiad celfyddydol, cerddorol, a llenyddol, ond cafodd hefyd effaith fawr ar hanesyddiaeth,[3] addysg[4] a'r gwyddorau naturiol.[5] Roedd ei heffaith ar wleidyddiaeth yn eang ac yn gymhleth; ar ei hanterth fe'i gysylltir â rhyddfrydiaeth a radicaliaeth, ond roedd ei heffaith hir-dymor ar dwf cenedlaetholdeb yn bwysicach.

Dilysodd y mudiad emosiwn cryf fel ffynhonnell y profiad esthetig, gan roi pwyslais newydd ar emosiynau megis pryder, ofn, ac arswyd, yn enwedig yr hyn a deimlir wrth ymdrin â'r arddunol yn natur a'i nodweddion darluniadwy. Aruchelwyd celfyddyd werin a thraddodiadau hynafol, gwnaed digymhellrwydd yn nodwedd ddymunol (er enghraifft yr impromptu, neu'r darn difyfyr cerddorol), a dadleuwyd dros epistemoleg naturiol wrth drafod gweithgareddau dynoliaeth yn nhermau iaith a thraddodiad. Estynodd Rhamantiaeth y tu hwnt i fodelau delfrydol rhesymoliaeth a chlasuriaeth gan adfywio canoloesoldeb yn nghelfyddyd a llenyddiaeth i geisio dianc rhag cyfyngiadau'r oes a ddaw o dwf poblogaeth, blerdwf, a diwydiannaeth. Cofleidiodd Rhamantiaeth yr estron, y dieithr, a'r pell mewn modd a ystyrir yn fwy wirioneddol na'r arddull chinoiserie o'r oes rococo.

Er bod gwreiddiau Rhamantiaeth yn y mudiad Almaenig Sturm und Drang, a werthfawrogodd sythwelediad ac emosiwn yn hytrach na rhesymoliaeth yr Oleuedigaeth, fu'r digwyddiadau a'r ideolegau a arweiniodd at y Chwyldro Ffrengig yn plannu hadau'r mudiad Rhamantaidd a'r Gwrth-Oleuedigaeth. Dihangfa rhag gwirioneddau'r cyfnod oedd Rhamantiaeth, ac yn ail hanner y 19eg ganrif cynigwyd realaeth yn gyferbyn i Ramantiaeth. Rhoddwyd gwerth uchel i gampau unigolwyr ac artistiaid "arwrol" a honnwyd iddynt arloesi newidiadau i wella cymdeithas. Bu'r mudiad hefyd yn tynnu sylw at ddychymyg yr unigolyn fel awdurdod beirniadol oedd yn rhydd rhag syniadau clasurol parthed celfyddyd. Trodd Rhamantiaeth at anocheledd naturiol a hanesyddol, y Zeitgeist, wrth fynegi ei syniadau.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. (Saesneg) Romanticism. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 31 Awst 2014.
  2. Casey, Christopher (October 30, 2008). ""Grecian Grandeurs and the Rude Wasting of Old Time": Britain, the Elgin Marbles, and Post-Revolutionary Hellenism". Foundations. Volume III, Number 1. Cyrchwyd 2014-05-14.
  3. David Levin, History as Romantic Art: Bancroft, Prescott, and Parkman (1967)
  4. Gerald Lee Gutek, A history of the Western educational experience (1987) ch. 12 on Johann Heinrich Pestalozzi
  5. Ashton Nichols, "Roaring Alligators and Burning Tygers: Poetry and Science from William Bartram to Charles Darwin," Proceedings of the American Philosophical Society 2005 149(3): 304–315