Pêl-droed: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Billinghurst (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎Blaenwr: remove redundant template, link FA now managed from Wikidata, removed: {{Cyswllt erthygl ddethol|ml}} (4) using AWB
Billinghurst (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎Blaenwr: remove redundant template, link FA now managed from Wikidata, removed: {{Link FA|fr}} (2) using AWB
Llinell 45: Llinell 45:
[[Categori:Chwaraeon peli]]
[[Categori:Chwaraeon peli]]
[[Categori:Chwaraeon tîm]]
[[Categori:Chwaraeon tîm]]

{{Link FA|fr}}
{{link FA|ko}}

Fersiwn yn ôl 14:30, 30 Mai 2015

Pêl-droed

Pêl-droed yw'r gêm mwyaf poblogaidd o holl chwaraeon tîm y byd. Fe'i chwaraeir gyda phêl rhwng dau dîm o unarddeg o chwaraewyr, gan geisio ennill trwy gael y bêl y nifer fwyaf o weithiau drwy gôl eu gwrthwynebwyr.

Mae'n cael ei chwarae drwy'r byd ar lefel broffesiynol erbyn hyn ond mae nifer fawr yn ei chwarae ar lefel amatur hefyd.

Mae FIFA a'r Bwrdd Pêl-droed Rhyngwladol yn rheoli'r gêm. Y prif gystadleuaeth ydy Cwpan y Byd

Rheolau

Safleodd

Mae gan wahanol chwaraewyr eu dyletswyddau a safleodd eu hunain o fewn y tîm o unarddeg.

Nice, 2009

Gôl-geidwad

Gôl-geidwad yw'r safle mwyaf unigol mewn dîm pel-droed. Yn ôl y rheolau caniateir un gôl-geidwad i dîm. Y gôl-geidwad yw'r unig chwaraewr sy'n cael defnyddio ei ddwylo i reoli'r bêl, ac mae'n rhaid iddo wisgo gwisg o liw gwahanol i'w wahaniaethu oddi wrth chwaraewyr eraill y tîm.

Swydd y gôl-geidwad yw defnyddio unrhyw ran o'i gorff i atal y bel rhag mynd trwy'r gôl mae ei dîm yn amddiffyn. Ar ôl dal y bêl, mi fydd y gôl-geidwad yn ei throsglwyddo i chwaraewr arall o'i dîm trwy ei lluci ato neu ei rhoid ar lawr ac ei chicio ato. Y gôl-geidwad yw'r unig chwaraewr sy'n cael sefyll rhwng y bel a'r gôl pan mae cig gosb yn cael ei chymryd gan y tîm arall. Yn aml, y gôl-geidwad fydd yn rheoli lleoliad chwaraewyr ei dîm tra maent yn amddifyn cic rydd yn agos at eu gôl.

Mae chwaraewyr yn y safle yma yn aml yn dal, i'w galluogi i ddal y bêl yn haws.

Amddiffynwr

Prif swydd amddiffynwr yw rhwystro chwaraewyr y tîm arall rhag cael siawns i gicio'r bel tuag at y gôl. Bydd amddifynwr yn gwneud hyn wrth leoli ei gorff rhwng y bêl ac y gôl, ac wrth fygwth cymryd y bel o ei wrthwynebwr. Bydd amddiffynwr yn aml yn aros yn agos i chwaraewr penodol, i allu amddifyn yn haws os bydd y chwaraewr yn cael y bel.

Amddiffynwr canol

Mae amddiffynwr canol yn sefyll o flaen y gôl, ac yn defnyddio ei gorff i rwystro ciciau i fewn i'r gôl. Mae amddiffynwyr canol yn aml yn dal ac yn gryf yn gorfforol. Maent yn gallu defnyddio eu cryfder i guro blaenwyr y tîm arall i'r bêl pan mae'n cael ei gicio drwy'r awyr.

Amddiffynwr chwith/dde
Ysgubwr

Canol cae

Canolwyr cae amddiffynol
Canolwyr cae ymosodol
Canolwyr cae canol

Blaenwr

Ymosodwr
Asgellwr chwith/dde