Hanes Brasil: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 36 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q211967 (translate me)
Billinghurst (sgwrs | cyfraniadau)
B remove redundant template, link FA now managed from Wikidata, removed: {{Cyswllt erthygl ddethol|eo}} (3) using AWB
Llinell 11: Llinell 11:
{{eginyn Brasil}}
{{eginyn Brasil}}



{{Cyswllt erthygl ddethol|eo}}

{{Cyswllt erthygl ddethol|pt}}

{{Cyswllt erthygl ddethol|sv}}


[[Categori:Hanes Brasil| ]]
[[Categori:Hanes Brasil| ]]

Fersiwn yn ôl 01:44, 30 Mai 2015

Manylyn o A Primeira Missa no Brasil ("Yr offeren gyntaf ym Mrasil") gan Victor Meirelles (1861)

Dechreuodd hanes Brasil pan gyrraeddodd y bobl gyntaf tua 8,000 o flynyddoedd yn ôl o Asia; yr adeg honno roedd tir yn cysylltu Asia a chyfandir America yn y gogledd. Erbyn i'r Ewropeaid cyntaf gyrraedd yn y 16eg ganrif, roedd dros 2,000 o lwythau gwahanol yn nhiriogaeth Brasil. Wedi dyfodiad y Portiwgeaid, lleihawyd niferoedd y brodorion yn fawr gan glefydau megis y frech wen.

Credir mai'r Ewropead cyntaf i ddarganfod Brasil oedd y fforiwr Portiwgeaidd Pedro Álvares Cabral ar 22 Ebrill, 1500. O'r 16eg ganrif hyd y 19eg ganrif roedd Brasil yn rhan o ymerodraeth Portiwgal.

Yn 1808, bu raid i'r brenin Ioan VI a theulu brenhinol Portiwgal ffoi pan feddianwyd y wlad gan Ffrainc dan Napoleon. O hynny hyd 1821, o Rio de Janeiro y gweinyddid ymerodraeth Portiwgal. Yn 1815, cyhoeddodd y brenin fod Portiwgal a Brasil yn un deyrnas unedig.

Ar 7 Medi, 1822, cyhoeddodd y wlad ei hun yn annibynnol, a daeth yn frenhiniaeth gyfansoddiadol dan yr enw Ymerodraeth Brasil, gyda Pedro yn teyrnasu fel Pedro I, Ymerawdwr Brasil. Wedi i'r fyddin gipio grym yn 1889, daeth y wlad yn weriniaeth. Heblaw am dri cyfnod o lywodraeth unbennaidd yn 1930-1934; 1937-1945 a 1964-1985, mae wedi bod yn weriniaeth ddemoctataidd ers hynny.

Eginyn erthygl sydd uchod am Frasil. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.