Y Forwyn Fair: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Man olygu using AWB
Billinghurst (sgwrs | cyfraniadau)
B remove redundant template, link FA now managed from Wikidata, removed: {{Cyswllt erthygl ddethol|sk}} using AWB
Llinell 9: Llinell 9:
Yn ôl traddodiad treuliodd ddyddiau olaf ei hoes mewn [[Tŷ'r Forwyn Fair|tŷ]] ger [[Effesus]] (de-orllewin [[Twrci]]) a bu farw yno. Creda Catholigion bod ei thŷ yn [[Nasareth]] wedi hedfan oddi ar ei safle wreiddiol i dref [[Loreto]] yn yr [[Eidal]] ym 1294. Dyma'r unig safle sy'n gysylltiedig â bywyd Mair drwy Ewrop ac felly y mae yn safle boblogaidd am bererindodau.
Yn ôl traddodiad treuliodd ddyddiau olaf ei hoes mewn [[Tŷ'r Forwyn Fair|tŷ]] ger [[Effesus]] (de-orllewin [[Twrci]]) a bu farw yno. Creda Catholigion bod ei thŷ yn [[Nasareth]] wedi hedfan oddi ar ei safle wreiddiol i dref [[Loreto]] yn yr [[Eidal]] ym 1294. Dyma'r unig safle sy'n gysylltiedig â bywyd Mair drwy Ewrop ac felly y mae yn safle boblogaidd am bererindodau.



{{Cyswllt erthygl ddethol|sk}}


[[Categori:Y Forwyn Fair| ]]
[[Categori:Y Forwyn Fair| ]]

Fersiwn yn ôl 00:55, 30 Mai 2015

Yr angel Gabriel yn cyhoeddi i Mair y bydd hi'n beichiogi ac yn esgor ar yr Iesu (llun gan Fra Angelico)

Yn ôl y Testament Newydd, roedd Mair (a elwir hefyd yn Santes Fair neu'r Forwyn Fair) yn fam i Iesu Grist. Roedd hi'n briod â Sant Ioseff ac, yn ôl ffynonellau llai derbynnol, yn ferch i'r saint Joachim ac Ann. Mae efengyl Luc yn adrodd sut y dysgodd Mair, a oedd yn forwyn (gwyryf) ar y pryd, gan yr archangel Gabriel, negesydd oddi wrth Dduw, ei bod hi'n mynd i roi genedigaeth wyrthiol i Iesu Grist, Mab Duw.

Anrhydeddir y Santes Fair yn bennaf yn yr Eglwys Gatholig, ac o fewn yr eglwys honno credir iddi gael ei llenwi â gras Duw ers ei genedigaeth (nid yw'r athrawiaeth hon yn golygu, fel mae rhai wedi ei dehongli, bod Mair hithau wedi cael ei geni yn wyryfol). Athrawiaeth ganolog arall i Gristnogaeth Catholig yw'r Dyrchafiad, hynny yw, bod corff Mair wedi codi i'r nefoedd wedi ei marwolaeth. Anrhydeddir hi hefyd o fewn Islam; ceir mwy am fywyd Mair yn y Coran nac yn y Testament Newydd.

Yn symbolaidd mae'r Forwyn Fair yn cael ei chyfelybu i Arch y Cyfamod yn y traddodiad liturgiaidd Cristnogol, am ei fod wedi dwyn Crist i'r byd i roi Cyfamod newydd.

Yn ôl traddodiad treuliodd ddyddiau olaf ei hoes mewn ger Effesus (de-orllewin Twrci) a bu farw yno. Creda Catholigion bod ei thŷ yn Nasareth wedi hedfan oddi ar ei safle wreiddiol i dref Loreto yn yr Eidal ym 1294. Dyma'r unig safle sy'n gysylltiedig â bywyd Mair drwy Ewrop ac felly y mae yn safle boblogaidd am bererindodau.