Crwst: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
ehangu |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
{{cys-gwa|Efallai eich bod yn chwilio am [[ |
{{cys-gwa|Efallai eich bod yn chwilio am Sant [[Grwst]].}} |
||
[[Delwedd:Palmeras de hojaldre 1.jpg|bawd|[[Palmier]]s, bisgedi siwgr a wneir o [[crwst pwff|grwst pwff]].]] |
[[Delwedd:Palmeras de hojaldre 1.jpg|bawd|[[Palmier]]s, bisgedi siwgr a wneir o [[crwst pwff|grwst pwff]].]] |
||
Bwyd [[pobi|pob]] a wneir o [[toes|does]] yw '''crwst'''. Gwneir y toes o [[blawd|flawd]], [[halen]], [[siwgr]], cymhareb uchel o [[braster|fraster]], ac ychydig o hylif.<ref>{{dyf gwe |iaith=en |url=http://www.britannica.com/EBchecked/topic/446138/pastry |teitl=pastry (food) |gwaith=[[Encyclopædia Britannica]] |dyddiadcyrchiad=28 Tachwedd 2013 }}</ref> |

Fersiwn yn ôl 00:11, 28 Mai 2015
Bwyd pob a wneir o does yw crwst. Gwneir y toes o flawd, halen, siwgr, cymhareb uchel o fraster, ac ychydig o hylif.[1]
Melysfwydydd yw'r mwyafrif o grystiau, ond ceir rhai crystiau sawrus megis voul-au-vents, bouchées, a rholiau selsig. Bwyteir crystiau melys am bwdin ac hefyd am damaid gyda choffi yng nghanol y bore neu am de'r prynhawn.[2]
Geirdarddiad
Daw'r gair Cymraeg "crwst" o'r gair Saesneg Canol crouste.[3]
Mathau o grwst
Ar draws y byd
Gorllewin Ewrop
Yng Ngwledydd Prydain mae crystiau yn cynnwys byns a lefeinir gyda burum. Ar y cyfandir, ceir strwdelau, crystiau cnau, merángs, a chrystiau Danaidd.[2]
Datblygodd traddodiad cywrain a soffistigedig o wneud crystiau yn Ffrainc, y Swistir ac Awstria, gyda phwyslais ar gynhwysion o'r ansawdd gorau a gwaith llaw gofalus a glân, a dilynir y broses hon ar draws y byd heddiw. Yn ôl y traddodiad hwn, mae toes neu deisen yn ffurfio sail i'r crwst, a rhoddir blasau ac ansoddau gwrthgyferbyniol gan lenwi gyda jam, hufen, crème pâtissière, neu gwstard, ac yn aml ychwanegir ffondant, siocled, neu eisin.[2]
Mae crystiau Sbaen a Phortiwgal yn llawn wyau, tra bo crystiau'r Eidal yn tueddu i gynnwys cymysgeddau o gnau ac nid cymaint o gynnyrch llaeth.[2]
Dwyrain Ewrop a'r Dwyrain Canol
Dylanwadwyd traddodiad crystiau yn Nwyrain Ewrop a'r Dwyrain Canol gan goginiaeth Otomanaidd, sef crystiau ffilo megis y baclafa.[2]
De a Dwyrain Asia
Nid yw crystiau yn gyffredin iawn yn Tsieina, ac eithrio lloerdeisenni.[2]
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
- ↑ (Saesneg) pastry (food). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 28 Tachwedd 2013.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 Davidson, Alan. The Oxford Companion to Food (Rhydychen, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2006), t. 585.
- ↑ crwst. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 27 Rhagfyr 2014.