Ynys Lawd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
|||
Llinell 13: | Llinell 13: | ||
{{cyfeiriadau}} |
{{cyfeiriadau}} |
||
[[Categori:Arfordir Ynys Môn]] |
|||
[[Categori:Goleudai Cymru]] |
[[Categori:Goleudai Cymru]] |
||
[[Categori:Trearddur]] |
[[Categori:Trearddur]] |
||
[[Categori:Ynysoedd |
[[Categori:Ynysoedd Môn|Lawd]] |
Fersiwn yn ôl 02:00, 21 Mai 2015
Ynys fach ar benrhyn mwyaf gorllewinol Ynys Gybi, ar Fôn, ydy Ynys Lawd, a gysylltir ag Ynys Gybi gan bont fach, tua milltir i'r gorllewin o Fynydd Twr. Mae yng nghymuned Trearddur.
Enw
Daw'r enw Saesneg South Stack o'r gair Sgandinafaidd stak, sef "ynys" (gweler hefyd Ynys Arw, a elwir North Stack yn Saesneg). Ystyr arferol y gair Cymraeg lawd yw "gwres", sef gwres anifeiliad yn neilltuol, ond mae arwyddocâd yr enw yn yr achos hwn yn ddirgelwch.
Goleudy
Ceir goleudy enwog ar yr ynys sydd bellach yn atyniad twristaidd. Codwyd y goleudy cyntaf ar Ynys Lawd yn 1809. Cynlluniwyd y goleudy presennol gan y pensaer Joseph Nelson a chafodd ei godi gan y peirianydd sifil Daniel Alexander. Costiodd o gwmpas £12,000. Er 1984 mae'r goleudy wedi cael ei reoli o hirbell o ganolfan gwylio'r glannau Caergybi.