Prifysgol Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 14:21, 6 Mawrth 2005

Sefydlu

Sefydlu Prifysgol Cymru drwy gyfrwng Siarter Frenhinol ar 30 Tachwedd 1893 oedd penllanw’r hyn y gellid ei ddisgrifio, yn gywir ddigon, fel ‘mudiad’ prifysgol Cymru. Yn chwarter olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gwelwyd adfywio ym mhob agwedd ar fywyd Cymru: economaidd, cymdeithasol, gwleidyddol, diwylliannol ac addysgol. Ym 1896, datganodd John Viriamu Jones, Prifathro cyntaf y Coleg Prifysgol yng Nghaerdydd, nad oedd ‘hanes Cymru yn ystod y pum mlynedd ar hugain diwethaf yn ddim llai na hanes ei chynnydd addysgol’ ac ni chafodd yr un agwedd ar fywyd cyhoeddus Cymru yn y cyfnod hwn fwy o sylw na chreu’r Brifysgol genedlaethol, ffederal. Deilliodd y Brifysgol o gynnydd aruthrol yn yr angen am gyfleoedd addysgol, dyheadau lleol cryf ac ysbrydoliaeth genedlaethol a oedd yn cael ei theimlo i’r carn, a hynny drwy uno tri Choleg a oedd eisoes yn bod: Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth (a agorwyd ym 1872 ac a ymgorfforwyd drwy Siarter, 1889); Coleg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy (a agorwyd ym 1883 ac a ymgorfforwyd drwy Siarter, 1884); a Choleg Prifysgol Gogledd Cymru, ym Bangor (a agorwyd ym 1884 ac a ymgorfforwyd drwy Siarter, 1885).

Cyn 1893, yr oedd y Colegau a sefydlodd y Brifysgol wedi bod yn paratoi eu myfyrwyr ar gyfer graddau allanol Prifysgol Llundain, ac fel corff ar gyfer arholi a dyfarnu graddau yn bennaf y cafodd y Brifysgol ei chyfansoddi. Materion i’r Colegau eu hunain oedd penodi staff academaidd a’r cyfrifoldeb dros addysgu, a chafodd peirianwaith ffederal Llys y Brifysgol a Senedd y Brifysgol ei gynllunio i sicrhau bod y cynlluniau astudio yr oedd y Colegau’n eu darparu yn ddigonol ar gyfer dyfarnu graddau’r Brifysgol, ac i ddiogelu’r safonau arholi. Mae’r gwahaniaeth bras hwn rhwng y cyfrifoldebau ffederal a’r cyfrifoldebau cyfansoddol yn parhau hyd heddiw.

Comisiwn Haldane

Drwy gydol ei hanes, mae Prifysgol Cymru wedi ceisio bod yn effeithiol drwy ddwyn manteision i’w cydrannau cyfansoddol. Gan gydnabod bod rhywfaint o dyndra a straen yn rhan annatod o unrhyw drefn ffederal, mae hanes y Brifysgol wedi ei nodweddu yn aml gan drafod mewnol rhwng tueddiadau sydd o blaid mwy o gydlynu a rheoli ar y naill law, a mwy o ryddid i’r unedau unigol ar y llall. Ar adegau mae datblygiadau o fewn y system addysg uwch yn gyffredinol wedi dylanwadu ar y trafod hwn. Fel hyn, yn sgil diddymu Prifysgol ffederal Victoria ym Manceinion, a chreu prifysgolion ‘dinesig’ newydd ym mlynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif, aed ati i edrych o’r newydd ar strwythurau prifysgol ffederal yng Nghymru. Digwyddodd rhywbeth tebyg yn sgil pwysau o du’r Trysorlys dros sicrhau mwy o reolaeth ganolog ar gynlluniau a gwariant y colegau. Sefydlwyd Comisiwn Brenhinol ym 1916-18 (Comisiwn Haldane) i edrych, ymhlith pethau eraill, ar ‘sut y gellir gwella trefniadaeth bresennol Addysg Brifysgol yng Nghymru, a pha newidiadau, os o gwbl, sydd i’w dymuno yng nghyfansoddiad, swyddogaethau a phwerau’r Brifysgol a’i thri Choleg’. Bu argymhellion y Comisiwn yn sylfaen ar gyfer y Siarter Atodol a roddwyd i’r Brifysgol ym 1920. Diwygiodd y Siarter honno gyfansoddiad Llys y Brifysgol a chreu dau gorff newydd - Cyngor y Brifysgol a’r Bwrdd Academaidd. Corff gweithredol fyddai’r Cyngor, gyda chyfrifoldeb dros faterion ariannol, gan gynnwys dosbarthu’r arian a geid oddi wrth y Trysorlys a’r awdurdodau lleol ymhlith y Colegau. Disodlodd y Bwrdd Academaidd y Senedd fawr a chlogyrnaidd, a’i swyddogaeth oedd cynghori’r Cyngor ar faterion academaidd. Cafodd Comisiwn Haldane dystiolaeth a ddisgrifiodd fel tystiolaeth ‘a oedd yn llethol o blaid parhau Prifysgol Cymru, gan ddyfarnu graddau ac arfer cyfarwyddyd cyffredinol a rheolaeth … er lles pobl Cymru yn gyffredinol’. Cyflwynodd Siarter 1920 y Bwrdd Gwybodau Celtaidd a Bwrdd Gwasg hefyd, i wasanaethu buddiannau penodol dysg a diwylliant Cymru.

Sefydliadau Newydd

Cyn iddo gael ei ailgyfansoddi, disgrifiodd Llys y Brifysgol waith Comisiwn Haldane fel ‘carreg filltir yn natblygiad Addysg Uwch yng Cymru’, a dyna fel y bu, oherwydd, heblaw addasu systemau llywodraethu mewnol y Brifysgol, braenarodd Adroddiad aelodau’r Comisiwn Brenhinol y tir ar gyfer dau sefydliad newydd yng Nghymru a oedd i ddod yn aelodau allweddol o’r Brifysgol.

Cafodd cyn-Coleg Technegol Abertawe ei ymgorffori drwy Siarter yn bedwerydd Coleg Cyfansoddol y Brifysgol yn fuan iawn wedyn ym 1920, oherwydd gweithredu cyflym gan hyrwyddwyr Abertawe, Llys y Brifysgol a’r Cyfrin Gyngor. Er gwaethaf amheuon ar y dechrau a oedd darpariaethau’r Coleg Technegol ar gyfer astudio ac ymchwilio yn ddigonol, a phosibilrwydd cysylltiad â Chaerdydd ar gyfer Peirianneg, sicrhawyd bod Abertawe yn ymuno’n llwyddiannus â’r Brifysgol drwy gyfrwng cynlluniau Abertawe ei hun i fodloni awydd Comisiwn Haldane i weld Cyfadran Gelfyddydau yn cael ei sefydlu yn y Coleg.

Llawer mwy cymhleth ac anodd ei gyflawni oedd sefydlu Ysgol Feddygaeth Genedlaethol Cymru yn Ysgol Gyfansoddol gyntaf y Brifysgol. Bu argymhelliad Haldane y dylai’r Ysgol ddod yn aelod cyfansoddol, yn annibynnol ar ei ‘rhiant’, Caerdydd, yn ddadleuol iawn, a theimlai Senedd y Brifysgol ei hun y byddai gwahanu’r Ysgol oddi wrth y Coleg yn andwyol i uniondeb academaidd a buddiannau cyffredinol y ddau sefydliad. Nid tan 1931 y cafwyd cyfaddawd effeithiol, er mwyn bodloni’r pryderon niferus a leisiwyd ynghylch y ddarpariaeth ar gyfer astudiaethau rhag-glinigol a threfniadau ar gyfer prydlesu adeiladau Coleg Caerdydd. Yna creodd Siarter Atodol 1931 Ysgol newydd (i adlewyrchu’r ddarpariaeth un-Gyfadran mewn Meddygaeth), o dan arweiniad Profost, gan ddynodi Llys y Brifysgol yn awdurdod llywodraethu goruchaf ar y sefydliad newydd hefyd.

Y Blynyddoedd Rhwng y Rhyfeloedd

Yn y blynyddoedd rhwng y rhyfeloedd gwelwyd dirywiad economaidd dirfawr yng Nghymru. Byddai colegau’r Brifysgol yn y De yn denu llawer o fyfyrwyr a oedd yn methu â dod o hyd i gyflogaeth a chafwyd cynnydd cyson yn y ddarpariaeth allanol. Er hyn, gostwng wnaeth nifer y myfyrwyr rhwng 1935 a 1939 ac ni newidiodd cymeriad y Brifysgol yn sylweddol drwy’r cyfnod hwn. I’r Brifysgol ei hun a’i phedwar Coleg, arweiniodd datgysylltu a dadwaddoli cynharach yr Eglwys yng Nghymru at drosglwyddo cronfeydd ym 1939 a fu’n gymorth i leddfu problemau llety ac at welliannau sylweddol mewn amwynderau i’r myfyrwyr. Yn gynharach, yr oedd Abertawe wedi gweld datblygu o bwys ym Parc Singleton a chafodd Aberystwyth rodd hael o diroedd ym Mhen-glais.

Tensiynau Cyfansoddiadol

Cynyddu’n gyflym wnaeth cyfanswm y myfyrwyr yn y Brifysgol yn y blynyddoedd ar ôl 1945. O boblogaeth o 2,309, cododd y niferoedd i 6,159 erbyn 1960. Oherwydd rhagolygon y byddai cyflymder yr ehangu yn y dyfodol yn gynt byth, cafwyd galwadau croch, o blith y staff academaidd yn bennaf, y dylai’r Brifysgol droi oddi wrth ffederaliaeth. Sefydlwyd Comisiwn gan y Brifysgol i ymchwilio ac i gyflwyno adroddiad ar y mater, ond cyflwynwyd dau adroddiad i’r Llys ym 1964, y naill yn gwrthdaro â’r llall: dadleuai un o blaid creu pedair prifysgol unedol yn lle’r brifysgol ffederal; yr oedd yr ail o blaid cadw’r brifysgol ffederal, gydag addasiadau yn ei threfniadaeth. Casgliadau’r ail adroddiad a dderbyniwyd gan Lys y Brifysgol, gan gadarnhau parhad Prifysgol Cymru yn un Brifysgol ffederal, genedlaethol.

Siarter Atodol 1967 oedd canlyniad Comisiwn y Brifysgol. Yn hon gwnaed rhai newidiadau pwysig, gan gynnwys cynyddu maint y Llys a’r Cyngor; ychwanegwyd hefyd at bwerau’r Bwrdd Academaidd. Oddi ar hynny, mae niferoedd y myfyrwyr wedi parhau i godi, fel pob prifysgol arall ym Mhrydain, gan godi o ychydig dros 6,000 ym 1960 i 21,000 ym 1990. Croesawyd dau goleg arall i’r Brifysgol yn aelodau cyfansoddol hefyd: Athrofa Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol Cymru (UWIST) ym 1967 [unodd UWIST wedyn â Chaerdydd ym 1988], a Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, ym 1971. Yr oedd y penderfyniad i dderbyn Coleg Dewi Sant yn arbennig o ddiddorol, oherwydd, gan ei fod wedi ei sefydlu ym 1826, ef oedd y sefydliad hynaf yng Nghymru a oedd yn dyfarnu graddau, ond yr oedd y cwestiwn a ddylai ddod yn rhan o Brifysgol Cymru ai peidio wedi creu dadlau chwyrn fwy nag unwaith yn y gorffennol. Pan ddaeth yn un o sefydliadau cyfansoddol Prifysgol Cymru, rhoes y Coleg ei bwerau i ddyfarnu graddau heibio, er mwyn i’w fyfyrwyr gael derbyn graddau Prifysgol Cymru.

Argyfwng yng Nghaerdydd

Byddai argyfwng ariannol difrifol yng Ngholeg Caerdydd yn y 1980au yn dwyn goblygiadau o bwys ar gyfer atebolrwydd cyhoeddus sefydliadau addysg uwch yn y DU a chafodd hyn effaith yn naturiol ar y Brifysgol ffederal ei hun. Yn sgil adroddiad gan Weithgor ar Bwerau a Swyddogaethau ym 1989, sefydlwyd Cyd-bwyllgor Cynllunio ac Adnoddau (JPRC) gan y Brifysgol i baratoi cynlluniau strategol ar gyfer y Brifysgol gyfan. Arweiniodd newidiadau eraill at greu system o Baneli Pwnc rhyng-golegol, penodi Is-Ddirprwy Ganghellor i gadeirio’r JPRC, a Thrysorydd Prifysgol i fod yn gyfrifol am gyflwyno adroddiadau i’r Cyngor ar hyfywedd ariannol y Brifysgol a’r sefydliadau cyfansoddol.

Newid a Newid Eto

Er hynny, byrhoedlog fu unrhyw obaith bod y Brifysgol ar drothwy cyfnod o sefydlogrwydd lle y gallai’r canol ffederal cyfnerthedig chwarae rhan amlycach ym materion y Brifysgol. Bu newidiadau mawr yn strwythur addysg uwch o dan Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, y penderfyniad cysylltiedig i sefydlu Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ym mis Ebrill 1993, a thystiolaeth gynyddol o bwysau mewnol yn erbyn yr hyn a welid fel symud yr awdurdod dros gynllunio oddi wrth y sefydliadau cyfansoddol tuag at y canol ffederal oll yn sbardun ar gyfer gwneud adolygiad cynnar o ddiwygiadau 1989, a hynny ar fyrder. Sefydlwyd Gweithgor arall gan y Brifysgol o dan gadeiryddiaeth Syr Melvyn Rosser, Llywydd CPC Aberystwyth, i edrych ar swyddogaeth y Brifysgol yn system addysg uwch newydd Cymru, ac i adolygu strwythur gweinyddol mewnol y Brifysgol.

Mabwysiadwyd Adroddiad Rosser a’i argymhellion gan Lys y Brifysgol ym mis Gorffennaf 1993, a nodweddion allweddol y system lywodraethu newydd a ddaeth i rym ym mis Ionawr 1995 oedd: Datganiad Cenhadaeth ar gyfer y Brifysgol, o’i chyferbynnu â’r sefydliadau cyfansoddol unigol; corff newydd a dylanwadol, Bwrdd yr Is-Gangellorion, y mae ei graidd yn cynnwys Is-Gangellorion y chwe sefydliad cyfansoddol; lleihau maint Cyngor y Brifysgol, ond gan gadw cyfran yr aelodau lleyg; teitl newydd o Is-Ganghellor Hþn i’r prif swyddog academaidd a gweithredol, a etholir erbyn hyn gan y Brifysgol; swydd newydd Ysgrifennydd Cyffredinol, y mae ei ddyletswyddau neu ei dyletswyddau fel prif swyddog gweinyddol y Brifysgol yn cynnwys swyddogaethau cyn-swydd Cofrestrydd y Brifysgol; ac addasiadau yn swyddogaeth y Trysorydd, y mae ei gyfrifoldebau neu ei chyfrifoldebau bellach yn ymwneud â chronfeydd y Brifysgol ffederal yn unig. Yn sgil y newidiadau hyn, cafodd y JPRC a swydd yr Is-Ddirprwy Ganghellor eu dirwyn i ben.

Cafwyd pennod newydd yng nghyd-berthnasoedd y Brifysgol ffederal pan roddwyd Adroddiad Rosser ar waith, yn bennaf oherwydd bod Bwrdd yr Is-Gangellorion wedi dod i’r amlwg fel corff cynghorol allweddol. Mae y ‘llinell ddeuol’ a chreu’r prifysgolion newydd er 1992 wedi creu heriau newydd i’r hen brifysgolion mwy traddodiadol yn y DU, ac felly hefyd polisïau a gweithdrefnau newydd y llywodraeth ar gyfer ariannu. Mae Prifysgol Cymru wedi ceisio ymateb yn gyflym ac effeithiol drwy sicrhau a gwella sefyllfa’r gwasanaethau canolog y mae’n eu trefnu - megis ei chanolfan breswyl yng Ngregynog yng nghanolbarth Cymru, Gwasg Prifysgol Cymru, a’i sefydliad ymchwil llwyddiannus iawn ar gyfer Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth.

Y Dyfodol

Er hynny, pwysicach at y tymor hir oedd y pwyslais newydd ar bartneriaeth ffederal gryf rhwng y Sefydliadau Cyfansoddol a’r Colegau sy’n aelodau o’r Brifysgol. Rhoddwyd hygrededd pellach i’r cysyniad o bartneriaeth drwy fabwysiadu teitlau sefydliadol newydd a derbyn dau aelod sefydliad newydd – Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd a Choleg Prifysgol Cymru, Casnewydd – ym 1996.  Ymgorfforwyd diffiniad cliriach o amcanion ffederaliaeth a chydnabyddiaeth gan y ddwy ochr i briod bwerau a chyfrifoldebau’r Brifysgol a’i rhwydwaith o aelod-sefydliadau mewn Fframwaith Academaidd newydd ym 1997.  Yr oedd cytundeb yr holl bartneriaid ffederal i’r Fframwaith yn angenrheidiol ac yn amserol am fod y Fframwaith yn cyflwyno ymagwedd ddatganolaidd at faterion llywodraethu a rheoli academaidd, gan atseinio, drwy hynny, nodau Adroddiad Dearing ar Addysg Uwch a’r ffaith bod y Llywodraeth wedi cyflwyno Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer Cymru.

Er gwaethaf y ffaith fod y newidiadau hyn wedi dod â gwell sefydlogrwydd, yr oedd y Brifysgol, a’r sector addysg uwch yng Nghymru yn gyffredinol, yn parhau i wynebu heriau sylweddol. Y Cynulliad Cenedlaethol ei hun a osododd un o’r cyfryw heriau.  Yn 2001, cynhaliodd Pwyllgor Addysg a Dysgu Gydol-Oes y Cynulliad adolygiad o addysg uwch yng Nghymru.  Yr oedd rhai sylwebyddion o’r farn bod darganfyddiadau’r adolygiad, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2002, yn herio dilysrwydd rôl y Brifysgol a hyd yn oed yn rhagargoeli ei .  Drwy gyd-ddigwyddiad, yr oedd y Brifysgol wedi comisiynu’r cyfreithiwr academaidd o fri, Syr David Williams, cyn-Is-Ganghellor Caer-grawnt, i ymgymryd ag adolygiad o’i haelodaeth a’i strwythurau.  Yr oedd adroddiad Williams yn cynnig y dylid mewn gwirionedd helaethu Prifysgol Cymru yn hytrach na’i rhannu, drwy dderbyn yn aelodau y pum sefydliad addysg uwch Cymreig nad oeddynt ar y pryd yn aelodau.

Byddai Prifysgol Cymru a ymhelaethid felly yn cynnwys holl sefydliadau Cymru o dan adain ei gradd, gan wireddu, drwy hynny, y cysyniad o “Un Genedl, Un Brifysgol”.  Cymeradwywyd y cynigion gan yr wyth aelod-sefydliad a chan Gyngor y Brifysgol ym mis Gorffennaf 2002 ac, wedi hynny, gwahoddwyd y pum sefydliad nad ydynt yn aelodau i ystyried ymuno â’r Brifysgol.  Daeth ymatebion cadarnhaol i law oddi wrth pob un ohonynt ar wahân i Brifysgol Morgannwg, a chyflwynwyd y newidiadau angenrheidiol i Siarter a Statudau’r Brifysgol er mwyn caniatáu i Athrofa AU Abertawe, Athrofa AU Gogledd Ddwyrain Cymru, Coleg y Drindod, Caerfyrddin a Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ddyfod yn aelodau llawn i’r Cyfrin Gyngor am gymeradwyaeth yn ystod 2003/04. Disgwylir ymateb gan y Cyfrin Gyngor yn awr.

Ar yr un pryd ag yr oedd y datblygiadau cadarnhaol hyn yn digwydd, cafodd dau o aelodau sefydledig y Brifysgol eu hunain yn y sefyllfa o orfod paratoi ar gyfer gwrthgilio o aelodaeth. Yn 2003, penderfynodd Caerdydd a’r Coleg Meddygaeth, oedd wedi bod yn cydweithio’n agos ers rhai blynyddoedd, y byddent yn uno ar 1 Awst 2004 dan y teitl ffurfiol “Prifysgol Caerdydd” (teitl y bu Prifysgol Cymru, Caerdydd, yn ei ddefnyddio fel “enw cyhoeddus” ers rhai blynyddoedd). Gan nad ystyrir ei fod yn bosibl, o dan y fframwaith cyfreithiol a pholisi, i sefydliad sy’n dwyn teitl prifysgol yn ei hawl ei hun i fod yn aelod o brifysgol arall, y mae Caerdydd a’r Coleg Meddygaeth wedi gorfod tynnu’n ôl o aelodaeth Prifysgol Cymru, a bydd hyn yn digwydd ar ddyddiad yr uno, pan fydd y teitl newydd yn dod yn weithredol. Mae darpariaeth wedi’i wneud i Brifysgol Caerdydd gadw cysylltiad â Phrifysgol Cymru fel Sefydliad Cyswllt (Cysylltiedig) ar ôl y dyddiad hwnnw. Y mae Caerdydd (sydd ers sawl blwyddyn wedi dal ond heb ddefnyddio ei phwerau dyfarnu graddau ei hun) wedi nodi y bydd, o 1 Awst 2005 ymlaen, yn dechrau cofrestru myfyrwyr ar gynlluniau gradd fydd yn arwain at ddyfarnu gradd Caerdydd yn hytrach na gradd Prifysgol Cymru. Fodd bynnag, oherwydd rôl Cymru-gyfan y Coleg Meddygaeth, y mae Caerdydd a CMPC, yn y dyfodol rhagweladwy, yn dymuno parhau i gofrestru myfyrwyr ar gynlluniau gradd is-raddedigion Prifysgol Cymru mewn meddygaeth, deintyddiaeth a rhai meysydd perthynol.

Yn bennaf yn sgil datblygiadau yn y berthynas â Chaerdydd, ym mis Mawrth 2004, penderfynodd y Cyngor sefydlu Gweithgor, dan Gadeiryddiaeth y Dirprwy Ganghellor, i adolygu a’i gynghori ar rolau, swyddogaethau a strwythur y Brifysgol yn y dyfodol, a’i pherthnasau â’r sefydliadau yn y dyfodol. Disgwylir y bydd y Gweithgor yn adrodd yn ystod 2005.