Nicola Sturgeon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 61: Llinell 61:
[[Categori:Aelodau Senedd yr Alban]]
[[Categori:Aelodau Senedd yr Alban]]
[[Categori:Genedigaethau 1970]]
[[Categori:Genedigaethau 1970]]
[[Categori:Gwleidyddion Albanaidd]]
[[Categori:Gwleidyddion Albanaidd yr 21ain ganrif]]
[[Categori:Plaid Genedlaethol yr Alban]]
[[Categori:Gwleidyddion Plaid Genedlaethol yr Alban]]
[[Categori:Pobl o Swydd Ayr]]
[[Categori:Pobl o Swydd Ayr]]

Fersiwn yn ôl 00:22, 8 Mai 2015

Nicola Sturgeon
Nicola Sturgeon


Prif Weinidog yr Alban
Deiliad
Cymryd y swydd
20 Tachwedd 2014

Dirprwy Brif Weinidog yr Alban
Cyfnod yn y swydd
17 Mai 2007 – 19 Tachwedd 2014

Ysgrifennydd Cabined Llywodraeth yr Alban
Cyfnod yn y swydd
5 Medi 2012 – 19 Tachwedd 2014

Arweinydd yr SNP
Deiliad
Cymryd y swydd
14 Tachwedd 2014

Geni 19 Gorffennaf 1970(1970-07-19)
Irvine, Gogledd Swydd Ayr
Plaid wleidyddol Plaid Genedlaethol yr Alban
Priod Peter Murrell
Alma mater Prifysgol Glasgow

Nicola Sturgeon (g. 19 Gorffennaf 1970 yn Irvine, Gogledd Swydd Ayr) yw Prif Weinidog Llywodraeth yr Alban a bu'n Ddirprwy Brif Weinidog rhwng 17 Mai 2007 a 19 Tachwedd 2014.[1] Bu'n aelod o Blaid Genedlaethol yr Alban (neu'r SNP) ers oedd yn 16 oed. Mae hefyd yn Arweinydd y blaid honno (a adnabyddir hefyd fel yr 'SNP') ac yn Ddepute (neu Ddirprwy) 2004-2014. Bu hefyd yn Ysgrifennydd Cabinet yr Alban dros Stategaeth y Senedd a'r Llywodraeth ac yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Isadeiledd, Buddsoddiad a Dinasoedd. Hi yw'r Aelod Senedd yr Alban (MSP) dros Glasgow (Deheuol).[2]

Ym 1999 y daeth Sturgeon yn Aelod Seneddol yn gyntaf, gan ddod yn Llefarydd yr SNP dros iawnderau ac yna dros iechyd ac addysg. Yn dilyn ymddeoliad John Swinney yn 2004 safodd yn y frwydr dros arweinyddiaeth y blaid, ond tynnodd ei henw'n ôl pan benderfynodd Alex Salmond ymgeisio a daeth yn Ddirprwy (neu Depute). Safodd Salmond i lawr rhwng 2004 a 2007 a phenodwyd Sturgeon yn Arweinydd nes y daeth Salmond yn ei ôl i gymryd yr awennau yn etholaeth cyffredinol 2007 pan enillodd yr SNP fwy o seddau nac unrhyw blaid arall yn yr Alban. Apwyntiwyd Salmond yn Brif Weinidog ac apwyntiodd ef ei Ddirprwy: Sturgeon.

Bywyd cynnar

Cafodd ei haddysg uwchradd yn Greenwood Academy, Dreghorn ac aeth yn ei blaen i astudio'r gyfraith ym Mhrifysgol Glasgow ble y cafodd LLB gydag Anrhydedd a Diploma mewn Cyfraith Ymarferol.[3] Yn Glasgow roedd yn flaenllaw iawn yng ngwaith yr SNP. Yna gweithiodd fel cyfreithwraig yn Stirling ac yna Canolfan y Gyfraith yn Drumchapel, Glasgow cyn iddi gael ei hethol yn MSP (Aelod o Lywodraeth yr Alban).

Annibyniaeth yr Alban

Yn 2012, etholodd Cabined Llywodraeth yr Alban Sturgeon i ofalu am Refferendwm annibyniaeth yr Alban, 2014,[4] ac felly'n gyfrifol am ymgyrch yr SNP dros annibyniaeth.[5] Cred Sturgeon y gall annibyniaeth gryfhau'r Alban gan ei wneud yn fwy cystadleuol,[6] gan newid blaenoriaethau gwariant y wlad ac ateb y broblem o dlodi dybryd.[7]

Sturgeon wedi iddi ennill etholiad Glasgow Govan yn 2007.

Mewn cyfweliad gyda'r Daily Record, dywedodd Sturgeon y gobeithiai rywdro fod y ferch gyntaf yn swydd y Prif Weinidog.[5] Ar 19 Tachwedd 2014 gwireddwyd hynny yn dilyn ymddiswydiad Alex Salmond.[8]

Gwobrau

Enillodd Sturgeon y teitl 'Gwleidydd Albanaidd y Flwyddyn' yn 2008. Yn 2004 a 2008 enillodd Wobr Donald Dewar: Dadleuwr y Flwyddyn, cystadleuaeth a drefnir gan The Herald.

Yn Chwefror 2013 enwyd hi fel 20fed ferch mwyaf pwerus y Deyrnas Unedig gan Women's Hour ar Radio 4.[9]

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. "BBC News - The transition from Alex Salmond to Nicola Sturgeon". BBC News. Cyrchwyd 19 Tachwedd 2014.
  2. http://www.snp.org/people/nicola-sturgeon
  3. "Candidates and Constituency Assessments". Alba.org.uk. Cyrchwyd 2011-01-17.
  4. "Scottish cabinet reshuffle: Nicola Sturgeon given new independence role". BBC News. 5 Medi 2012. Cyrchwyd 6 Gorffennaf 2014.
  5. 5.0 5.1 "Nicola Sturgeon admits her sights are set on landing First Minister's job but insists winning independence referendum is top priority". Daily Record. 19 Mawrth 2014. Cyrchwyd 6 Gorffennaf 2014. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  6. Carrell, Severin (25 Mai 2012). "Scottish independence would allow economy to grow, says Sturgeon". The Guardian. London.
  7. "Nicola Sturgeon: There are 100,000 Scots in poverty and Westminster want to spend billions on Trident". Daily Record. 1 Gorffennaf 2014. Cyrchwyd 6 Gorffennaf 2014. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  8. LibBrooks. "Alex Salmond's resignation could give Nicola Sturgeon her day of destiny". the Guardian. Cyrchwyd 19 Tachwedd 2014.
  9. BBC Radio 4, Rhestr Woman's Hour Power

Dolennau allanol