Gareth Llewellyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B 4 gweithred, replaced: {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}} using AWB
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
teipio
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Gareth Llewellyn''' (ganwyd [[24 Chwefror]] [[1969]] ym [[Pen-y-bont ar Ogwr|Mhen-y-bont ar Ogwr]]) yn chwaraewr [[Rygbi'r Undeb]] a enillodd 92 o gpaiau dros [[Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru|Gymru]] fel clo.
Mae '''Gareth Llewellyn''' (ganwyd [[24 Chwefror]] [[1969]] ym [[Pen-y-bont ar Ogwr|Mhen-y-bont ar Ogwr]]) yn chwaraewr [[Rygbi'r Undeb]] a enillodd 92 o gapaiau dros [[Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru|Gymru]] fel clo.


Mae Llewellyn wedi chwarae rygbi dros glybiau [[Clwb Rygbi Castell Nedd|Gastell Nedd]], [[Harlequin F.C.|Harlequins]], [[Y Gweilch]] a [[RC Narbonne|Narbonne]], ac ymunodd a [[Bristol Shoguns]] ar ddechrau tymor 2005-06.
Mae Llewellyn wedi chwarae rygbi dros glybiau [[Clwb Rygbi Castell Nedd|Gastell Nedd]], [[Harlequin F.C.|Harlequins]], [[Y Gweilch]] a [[RC Narbonne|Narbonne]], ac ymunodd a [[Bristol Shoguns]] ar ddechrau tymor 2005-06.

Fersiwn yn ôl 16:06, 3 Mai 2015

Mae Gareth Llewellyn (ganwyd 24 Chwefror 1969 ym Mhen-y-bont ar Ogwr) yn chwaraewr Rygbi'r Undeb a enillodd 92 o gapaiau dros Gymru fel clo.

Mae Llewellyn wedi chwarae rygbi dros glybiau Gastell Nedd, Harlequins, Y Gweilch a Narbonne, ac ymunodd a Bristol Shoguns ar ddechrau tymor 2005-06.

Chwaraeodd ei gêm gyntaf dros Gymru yn erbyn y Crysau Duon yn 1989 ac aeth yn ei flaen i ennill 92 o gapiau, gan guro'r record o 87 a ddelid gan Neil Jenkins yn y gêm brawf yn erbyn yr Ariannin ar 12 Mehefin 2004. Parhaodd y record yma nes i Gareth Thomas ennill ei 93eg cap yn 2007.

Bu'n gapten Cymru saith gwaith, a chwaraeodd mewn tair Cwpan y Byd - 1995, 1999 a 2003. Chwaraeodd rygbi rhyngwladol mewn tri degawd gwahanol a than wyth hyfforddwr gwahanol. Ar ôl i Gymru ennill Y Gamp Lawn yn 2005, cyhoeddodd ei ymddeoliad o rygbi rhyngwladol.

Mae ei frawd, Glyn Llewellyn, hefyd wedi chwarae rygbi dros Gymru.