Cynrychiolaeth gyfrannol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Newydd |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 06:14, 2 Mai 2015
Mae'r term cynrychiolaeth gyfrannol (Saesneg: Proportional representation; neu PR) fel arfer yn cyfeirio at system etholiadol fodern, ble ystyrir cyfran y bleidlais gan blaid, yn ogystal a'r person a gynrychiolir. Os yw 25% o'r bleidlais yn cael ei roi neu ei fwrw i un blaid neilltuol yna rhoddir yr un ganran o seddau i'r blaid honno. Canlynad hyn yw fod pob pleidlais yn cyfri tuag at ethol y cynrychiolydd ac felly ceir llai o bleidleisio strategol; mae'r dull hwn hefyd yn rhoi chwarae teg i bleidiau llai, i'r lleiafrifoedd.[1][2][3]
Ceir dau fath: Rhestr Pleidiau a phleidlais sengl drosglwyddadwy:[4]
-
Rhestr Pleidiau (cynrychiolaeth gyfrannol)
-
Pleidlais sengl drosglwyddadwy
Ceir trydydd math, sy'n gyfuniad o'r ddau yma, sef Cynrychiolaeth gyfrannol cymysg (mixed-member proportional representation), sef y system a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru. Yma, ceir dwy bleidlais: un i'r blaid (ar y ffurflen 'Rhestr Pleidiau' a'r llall i'r person / y cynrychiolydd.[2][5]
Cyfeiriadau
- ↑ Mill, John Stuart (1861). "Chapter VII, Of True and False Democracy; Representation of All, and Representation of the Majority only". Considerations on Representative Government. London: Parker, Son, & Bourn.
- ↑ 2.0 2.1 "Electoral System Design: the New International IDEA Handbook". International Institute for Democracy and Electoral Assistance. 2005. Cyrchwyd 9 Ebrill 2014. Italic or bold markup not allowed in:
|publisher=
(help) - ↑ "Fair Voting/Proportional Representation". FairVote. Cyrchwyd 9 Ebrill 2014.
- ↑ "Electoral Systems". ACE Electoral Knowledge Network. Cyrchwyd 9 Ebrill 2014.
- ↑ "Additional Member System". Llundain: Electoral Reform Society. Cyrchwyd 28 Gorffennaf 2014.