Margaret Ewing: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 22: Llinell 22:
==Gweler hefyd==
==Gweler hefyd==
*[[Alex Salmond]]
*[[Alex Salmond]]
*[[Nicola Sturgeon]]
*[[Margo MacDonald]]
*[[Margo MacDonald]]
*[[Joe FitzPatrick]]
*[[Nicola Sturgeon]]
*[[Tricia Marwick]]


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Fersiwn yn ôl 07:59, 30 Ebrill 2015

Gwleidydd, newyddiadurwraig ac athrawes o'r Alban oedd Margaret Bain Ewing, née Margaret Anne McAdam (1 Medi, 1945 - 21 Mawrth, 2006).[1] Roedd yn Aelod Seneddol o Blaid genedlaethol yr Alban (neu'r 'SNP') gan gynrychioli Dwyrain Swydd Dunbarton o 1974 hyd at 1979 cyn troi i gynrychioli Etholaeth Moray yn Senedd yr Alban o 1987 hyd at 2001.

Bu Ewing yn Ddirprwy Arweinydd yr SNP rhwng 1984 a 1987 ac yn arweinydd yr SNP yn Nhŷ'r Cyffredin rhwng 1987 a 1999. Ymgeisiodd hefyd am arweinyddiaeth y blaid yn 1990, ond Alex Salmond oedd yn fuddugol.

Y dyddiau cynnar

Yn Lanark y cafodd ei geni, yn ferch i John McAdam, gwas fferm. Fe'i haddysgwyd yn Ysgol Uwchradd Biggar ac yna ym Mhrifysgol Glasgow gan dderbyn gradd Meistr mewn Saesneg a Llenyddiaeth Saesneg. Bu'n athrawes Saesneg yn Ysgol Modan yn Stirling rhwng 1970 a 1973 ac bu'n uwch-athrawes Anghenion Arbennig yno rhwng 1973 a 1974. Roedd yn briod i Donald Bain tan eu hysgariad yn 1980. Ailbriododd yn 1983 gyda Fergus Ewing a oedd hefyd yn Aelod o Senedd yr Alban ac yn fab i Winnie Ewing AS.

Gyrfa wleidyddol

Ymunodd gyda'r SNP pan oedd yn ugain oed, yn 1966, ac etholwyd hi'n Aelod Seneddol yn Hydref 1974, yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig dros Ddwyrain Swydd Dunbarton dan ei henw bedydd: Margaret Bain. 22 o bleidleisiau oedd ynddi, a dim ond o drwch blewyn y llwyddodd i gipio'r sedd.[2]

Bu farw o gancr y fron yn 60 oed ar 21 Mawrth 2006.


Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Barry Henderson
Aelod Seneddol dros Ddwyrain Swydd Dunbarton
19741979
Olynydd:
Norman Hogg
Rhagflaenydd:
Alexander Pollock
Aelod Seneddol dros Moray
19872001
Olynydd:
Angus Robertson
Senedd yr Alban
Rhagflaenydd:
etholaeth newydd
Aelod Senedd yr Alban dros Moray
19992006
Olynydd:
Richard Lochhead

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. www.parliament.uk; adalwyd 30 Ebrill 2015
  2. Heisey, Monica. "Making the case for an "aye" in Scotland". Queen's Alumni Review. Cyrchwyd 4 Ebrill 2015.