Mari I, brenhines Lloegr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ham II (sgwrs | cyfraniadau)
gwell lun ohoni
B →‎Ffynonellau: 4 gweithred, replaced: {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}} using AWB
Llinell 24: Llinell 24:
{{Cyswllt erthygl ddethol|de}}
{{Cyswllt erthygl ddethol|de}}
{{Cyswllt erthygl ddethol|pt}}
{{Cyswllt erthygl ddethol|pt}}

{{Rheoli awdurdod}}


[[Categori:Brenhinoedd a breninesau Lloegr]]
[[Categori:Brenhinoedd a breninesau Lloegr]]
Llinell 31: Llinell 33:


{{eginyn Saeson}}
{{eginyn Saeson}}

{{Authority control}}

Fersiwn yn ôl 17:19, 26 Ebrill 2015

Y Frenhines Mari Tudur

Bu Mari I (neu Mari Tudur) (18 Chwefror 1516 - 17 Tachwedd 1558) yn Frenhines Lloegr ac Iwerddon o 19 Gorffennaf 1553 hyd at ei marwolaeth ym 1558. Merch Harri VIII, brenin Lloegr, a'i wraig gyntaf Catrin o Aragon oedd hi.

Ar ôl ennill y goron yn 1553 ar farwolaeth ei brawd hŷn, Edward VI, penderfynodd Mari ailsefydlu Catholigiaeth Rufeinig yng Nghymru, Lloegr ac Iwerddon. Yn sgil ei phenderfyniad, gorfodwyd i lawer o Brotestaniaid encilio i'r Cyfandir, gan gynnwys nifer o Gymry blaenllaw megis Richard Davies. Llosgwyd bron tri chant o ferthyron Protestannaidd yn ystod ei theyrnasiad, gan gynnwys tri yng Nghymru, Rawlins White yng Nghaerdydd, Robert Ferrar yng Nghaerfyrddin a William Nichol yn Hwlffordd.

Priododd Felipe II, brenin Sbaen, ar y 25 Gorffennaf 1554. Roedd yn briodas amhoblogaidd iawn yn Lloegr.

Ar ôl marwolaeth sydyn Mari ym 1558, ailgyflwynodd ei hanner chwaer Elisabeth y grefydd Brotestannaidd yng Nghymru, Lloegr ac Iwerddon.

Hanes

Cyn iddi ddod yn frenhines gyntaf Lloegr, roedd Edward VI eisiau i'w gyfnither ei ddilyn ef yn yr olyniaeth frenhinol. Ond ar ôl brwydr hir, ennillodd Mari y siawns i fod yn frenhines.


Ffynonellau

  • Davies, John. Hanes Cymru (Llundain: Penguin, 1990)
Rhagflaenydd:
Edward VI
Brenhines Lloegr
19 Gorffennaf 155317 Tachwedd 1558
Olynydd:
Elisabeth I

Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol


Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.